Celebrating 200 Years of Trusted, Expert Advice

Amdanom Ni

Mae Allington Hughes yn gwmni cyfreithiol blaenllaw yng Ngogledd Cymru a Swydd Gaer sy’n cynnig cyngor ar ystod eang o faterion cyfreithiol, boed yn ymwneud â busnes neu ag unigolion.

Our Heritage

Sefydlwyd y cwmni yn Wrecsam ym 1826 ac mae gennym draddodiad hir a balch o wneud yn siwr fod y cyngor cyfreithiol yr ydym yn ei gynnig i’n cleientydd yn arbenigol, effeithlon, ymarferol ac yn cael ei gynnig am bris rhesymol.

Read about our history here

Our Team & Ethos

Mae gan y cwmni ddeg o gyfarwyddwyr ar hyn o bryd a mwy na phedwar ugain aelod o staff ar draws tair swyddfa yng Ngogledd Cymru a Swydd Gaer. Mae ein hethos hir-sefydledig yn cefnogi a datblygu cyfreithwyr talentog i sicrhau eu bod yn arweinwyr arbenigol yn eu meysydd cyfreithiol arbenigol.

Gallwch weld tîm Allington Hughes drwy glicio yma a gallwch ddarllen tystebau gan ein cleientydd yma.

Accreditations

Mae Allington Hughes wedi sicrhau nifer o achrediadau a’i staff nifer o gymwysterau sydd yn golygu fod aelodau o’r cwmni wedi serenu yn eu maes hwy o’r gyfraith. Gallwch weld rhai o achrediadau’r cwmni ar waelod y dudalen we. Rydym yn falch bod yn cwmni sydd yn ddementia-gyfeillgar.

Rydym yn cael ein rheoleiddio gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr ac yn dilyn eu hegwyddorion a’u cod ymddygiad

Cysylltwch ag Allington Hughes Law

Cysylltwch â ni heddiw i weld sut y gallwn helpu!

Gallwch gysylltu ag Allington Hughes gydag unrhyw ymholiadau neu gwestiynau cyfreithiol drwy ffonio neu e-bostio ein swyddfeydd. Byddwn yn gwneud ein gorau i gynnig cyngor clir gan un o aelodau cymwys a phrofiadol ein tîm cyfreithiol.

Sylwch nad yw e-bost yn ffordd ddiogel o gyfathrebu, ac ni allwn warantu y byddwn yn derbyn eich e-bost. Mae gennym system hidlo ar waith, ac os yw eich neges yn frys, rydym bob amser yn argymell eich bod yn dilyn hynny gyda galwad ffôn.

Wrexham - 01978 291000
Chester - 01244 312166
Llanrwst - 01492 641222
Contact Form
Safety Exit