Celebrating 200 Years of Trusted, Expert Advice

Allwch chi ymddiried mewn cyngor Deallusrwydd Artiffisial (AI)?

Os ydych yn wynebu problem gyfreithiol, boed yn ysgariad, anghydfod gyda’ch landlord neu lythyr gan eich cyflogwr, gall troi at AI am atebion deimlo fel cam cyntaf naturiol. Mae’n gyflym, hygyrch ac ar gael pryd bynnag rydych ei angen, hyd yn oed am 2 o’r gloch y bore pan na allwch gysgu.

 

Be all AI neud i chi……..

Pan yn cael ei ddefnyddio’n briodol, gall AI eich helpu i egluro terminoleg a phroeseau cyfreithiol anghyfarwydd, gan wneud gwybdoaeth cymhleth yn haws i’w ddeall. Gall hefyd grynhoi dogfennau hir a darparu trosolwg cychwynnol o fater cyfreithiol, gan eich cynorthwyoi deimlo eich bod yn fwy gwybodus am y mater sydd o’ch blaen.

Fodd bynnag, nid yw gwybodaeth sydd wedi ei gynhyrchu gan AI bob tro yn gywir, nac yn gyflawn. Er ei fod yn gallu bod yn ddefynddiol fel man cychwynnol, mae deall y pethau sylfaenol yn wahanol iawn i wybod sut mae’r gyfraith yn berthnasol i’ch amgylchiadau unigol.

 

Beth na AI ddim ei wneud

Wrth i’ch mater cyfreithiol ddatblygu, bydd y cwestiynnau yn mynd yn fwy cymhleth. Mae sawl maes lle gall dibynnu ar AI yn unig fod yn broblemus:

  • Deall y darlun cyflawn: Gall deallusrywdd AI anwybyddu manylion pwysig, neu fethu cydnabod sut y gall rhai amgylchiadau effeithio ar eich sefyllfa gyfreithiol.
  • Negodi a strategaeth: Mae cyrraedd y canlyniad cywir yn aml yn gofyn am farn ofalus, trafodaethau, a dealltwriaeth o’r partïon eraill sy’n rhan o’r broses.
  • Asesu risg: Gall penderfyniadau cyfreithiol gael effaith sylweddol yn bersonol, ariannol neu yn fasnachol. Mae deall y risgiau a phwyso a mesur eich opsiynau yn rhan bwysig o gael cyngor cyfreithiol cywir.

Mae cyfreithwyr profiadol yn defnyddio eu gwybodaeth gyfreithiol, eu barn broffesiynol, a’u profiad ymarferol i asesu amgylchiadau eich achos. Gallant egluro’r opsiynau sydd ar gael i chi, nodi risgiau posibl, a’ch helpu i benderfynu ar y ffordd orau o symud ymlaen.

 

Pam mae cyngor cyfreithiol proffesiynol yn bwysig

Rydym yn deall pam fod ceisio atebion ar unwaith gan AI yn demtasiwn. Gall fod yn ddefnyddiol ar gyfer archwilio cysyniadau cyfreithiol cyffredinol a pharatoi cwestiynau, ond ni ddylai ddisodli cyngor proffesiynol pan fo penderfyniadau pwysig yn gysylltiedig.

Yma yn Allington Hughes, rydym yn darparu cyngor cyfreithiol arbenigol ar ystod eang o faterion personol a busnes. Wedi’n sefydlu ym 1826, rydym wedi cefnogi cleientiaid yng Nghaer, Gogledd Cymru a’r ardaloedd cyfagos ers dros 200 mlynedd.

Gyda swyddfeydd ar draws Gogledd Cymru a Chaer, gall ein tîm eich helpu i ddeall eich opsiynau a dod o hyd i ffordd ymlaen, gyda chyngor ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Os oes angen cyngor arnoch ynglŷn â mater cyfreithiol, cysylltwch ag Allington Hughes Law i gael gwybod sut y gallwn helpu.

Author Photo

About the Author

Allington Hughes

Cysylltwch ag Allington Hughes Law

Cysylltwch â ni heddiw i weld sut y gallwn helpu!

Gallwch gysylltu ag Allington Hughes gydag unrhyw ymholiadau neu gwestiynau cyfreithiol drwy ffonio neu e-bostio ein swyddfeydd. Byddwn yn gwneud ein gorau i gynnig cyngor clir gan un o aelodau cymwys a phrofiadol ein tîm cyfreithiol.

Sylwch nad yw e-bost yn ffordd ddiogel o gyfathrebu, ac ni allwn warantu y byddwn yn derbyn eich e-bost. Mae gennym system hidlo ar waith, ac os yw eich neges yn frys, rydym bob amser yn argymell eich bod yn dilyn hynny gyda galwad ffôn.

Wrexham - 01978 291000
Chester - 01244 312166
Llanrwst - 01492 641222
Contact Form
Safety Exit