CYFLWYNIAD
Bwriad y canllaw hwn yw egluro’r camau cyfreithiol sydd yn cael eu defnyddio yn y broses o werthu a phrynu tai a fflatiau ac i egluro termau sydd yn cael eu defnyddio gan gyfreithwyr (trosglwyddwyr eiddo). Nid yw y Canllaw hwn ond yn ymwneud a gwerthiant a phryniant eiddo rhydd-ddaliad a phrydlesol yn Lloegr a Chymru.
Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth a chyngor pwysig, ac rydym yn argymell eich bod yn ei ddarllen yn ofalus. Pan roddir cyngor yn y Canllaw, rydym yn argymell eich bod yn ystyried y cyngor yn ofalus ac yn gweithredu yn unol ag ef, pan roddir cyngor cadarn rydym yn eich annog i weithredu yn unol â’r cyngor hwnnw.
Y CYNLLUN ANSAWDD TROSGLWYDDO EIDDO
Rydym yn aelodau o Gymdeithas Cyfreithiol Cynllun Ansawdd Trosglwyddo Eiddo (Law Society’s Conveyancing Quality Scheme – CQS) sy’n darparu safon ansawdd gydnabyddedig ar gyfer trawsgludwyr eiddo preswyl. Mae aelodaeth o’r CQS yn rhoi sicrwydd o ran ansawdd a gwasanaeth i’n cleientiaid, yn ogystal ag i reoleiddwyr proffesiynol, benthycwyr ac yswirwyr. Mae’r sicrwydd hwn yn seiliedig ar:
1. Uniondeb ein Uwch-swyddog Cyfrifol ac aelodau allweddol eraill o’r staff trosglwyddo eiddo;
2. Ein bod yn cadw at safonau da ar gyfer rheoli arferion; ac ein bod yn
3. Cadw at weithdrefnau trosglwyddo eiddo yn ddarbodus ac effeithlon
RHYDD-DDALIAD NEU PRYDLESOL
Os yr ydych yn berchennog rhydd-ddaliad, rydych chi’n berchen ar yr eiddo yn llwyr.
Os yr ydych yn berchennog prydlesol, ac mae rhywun arall (landlordiaid) yn berchennog y rhydd-ddaliad ac mae gennych brydles hir (ddyafernir fel arfer am 99 mlynedd neu fwy) ac yr ydych yn talu rhent blynyddol isel (rhent tir), rydych yn debygol o orfod talu tâl gwasanaeth sydd yn gyfraniadau tuag at y costau blynyddol o yswiriant, cynnal a chadw ac atgyweiriadau ac sydd hefyd yn cynnwys cyfraniadau cronfeydd ad-dalu (i gronni cronfa tuag at atgyweiriadau neu amnewidiad mawr) yn enwedig os yw’r eiddo yn fflat neu’n fflat ddeulawr mewn bloc o eiddo tebyg.
Am resymau cyfreithiol mae fflatiau a fflatiau ddeulawr fel arfer yn brydlesol.
Ar ddatblygiadau tai newydd, mae eiddo rhydd-ddaliadol weithiau’n ddarostyngedig i dalu rhent blynyddol ac/neu tâl gwasanaeth (tâl rhent) fel cyfraniad at gost darparu cyfleusterau hanfodol ar gyfer y datblygiad.
Mae eiddo prydesol a rhydd-ddaliadau â rhent-dâl yn gofyn am fwy o waith cyfreithiol ac yn gofyn am arbenigedd cyfreithiol . Mae’r dogfennau yn hirach ac yn fwy cymhleth ac mae angen bob amser cynnwys y rhydd-ddaliad neu ddeiliad y tâl rhent a’r asiant rheoli, wrth drosglwyddo neu wneud gwarediad arall. Oherwydd y gwaith ychwanegol a’r cymhlethdod, mae ein tâl yn fwy am ddelio gyda prydleswyr neu rydd-ddaliad rhent-dâl.
Petaech yn gwerthu neu yn prynu eiddo prydlesol neu rydd-ddaliad â rhent-dâl, byddech angen cyllideb ar gyfer ffioedd sy’n daladwy i’r rhydd-ddeiliad/deiliad rhent-dâl ar gyfer cofrestru trosglwyddo perchnogaeth. Pan yn gwerthu eiddo prydesol neu eiddo rhent-dâl bydd yr asiantau rheoli yn codi ffi am ddarparu gwybodaeth hanfodol am reoli’r eiddo. Gall y ffioedd fod mor uchel â £300, felly os yr ydych yn prynu eiddo sydd prydlesol neu eiddo â rhent-dâl mae angen i chi fod yn ymwybodol y byddwch yn gwynebu tâl tebyg os byddwch yn gwerthu.
CYTUNDEB PREIFAT NEU ARWERTHIANT CYHOEDDUS
Mae rhan fwyaf o eiddo preswyl yn Lloegr ac yng Nghymru yn cael ei werthu drwy gytundeb preifat, fel arfer drwy asiant tai. Gan fod y gwerthiannau hyn yn amodol ar gontract, mae gan brynwyr amser i wneud ymholiadau priodol ynghylch yr eiddo ac i wneud unrhyw drefniadau ariannol angenrheidiol cyn ymrwymo i gontract rhwymol.
Mae eiddo hefyd yn gallu cael ei gwerthu drwy arwerthiant cyhoeddus. Os yw cynnig yn cael ei wneud mewn arwerthiant ac wedi’i dderbyn gan yr arwerthwr wrth i’r morthwyl ddisgyn, mae cytundeb rhwymol yn cael ei wneud yn y fan a’r lle. Mae hyn yn creu peryglon i brynwr sydd heb baratoi.
Mae’r canllaw hwn yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol a chanllawiau ar gyfer prynwyr a gwerthwyr sydd yn ystyried prynu neu werthu mewn arwerthiant cyhoeddus. Mae gofynion yr arwerthwyr yn amrywio, ac nid yw’n ymarferol i ni roi canllawiau manwl. Os yr ydych yn ystyried gwerthu neu brynu mewn ocsiwn rydym yn awgrymu’n gryf eich bod yn cysylltu gyda ni fel ein bod yn gallu rhoi cyngor llawn i chi a’ch galluogi i baratoi’n briodol ar gyfer yr ocsiwn.
Mae’n arferol i drosglwyddwyr eiddo y gwerthwyr fod yn bresennol yn yr arwerthiant i ymdrin ag unrhyw ymholiadau munud olaf, i gynorthwyo darpar brynwyr gyda’r dogfennau, ac i sicrhau bod y contract yn cael ei gwblhau’n briodol ar ôl i’r arwerthiant ddigywdd.
CYN CYFNEWID CONTRACTAU
Asiantwyr tai – gwerthiant trwy gytundeb preifat
Pe bo chi bod yn prynu neu’n gwerthu, mae’n debyg y byddwch wedi cytuno’r pryniant neu’r gwerthiant drwy asiant tai ar sail cytundeb preifat.
Pan gytunir ar werthiant, bydd yr asiant tai yn rhoi gwybod i’r gwerthwr, i’r prynwr ac i’w cyfreithwyr priodol.
Fel arfer, byddwn yn cysylltu â chi ar ôl derbyn hysbysiad yr asiantau tai.
Pan y bo chi yn prynu neu’n gwerthu, mae’n syniad da cadw mewn cysylltiad gyda’r asiantau tai a’u cadw yn wybodus am yr hyn sy’n digwydd. Gall yr asiant tai cynnig gymorth i ddatrys problemau ac i symud pethau yn eu blaenau, yn enwedig os ydych chi mewn cadwyn o brynwyr a gwerthwyr.
Asiant tai – gwerthu drwy arwerthiant cyhoeddus
Os ydych yn gwerthu, byddwch fel arfer yn cysylltu â’r arwerthwyr ac yn paratoi’r contract a dogfennau eraill a allai fod yn briodol.
Fel arfer, byddwch yn cytuno ar bris cadw, sef y pris isaf derbyniol, gyda’r arwerthwr. Wedi gwneud hynny, dylech gadw’r pris cadw yn gyfrinachol. Os na fydd cynnig wedi ei wneud ar neu’n uwch na’r pris cadw, bydd yr arwerthwr yn tynnu’r eiddo’n ôl o’r arwerthiant a bydd yn parhau heb ei werthu.
Byddwch yn gyfrifol am gostau’r arwerthwr sy’n ymwneud â’r arwerthiant, hyd yn oed os bydd yr eiddo’n methu â gwerthu.
Rhaid i chi ddweud wrth yr arwerthwr (ac wrthym ni) os oes gennych unrhyw ofynion arbennig ynghylch y dyddiad cwblhau.
Os ydych yn prynu, dylech gofrestru eich diddordeb gyda’r arwerthwr a chael enw a manylion cyswllt trawsgludwyr y gwerthwr, fel y gallwn gael rhagor o wybodaeth ganddynt am yr eiddo. Rhaid i chi fod yn ofalus wrth benderfynu ar y pris uchaf yr ydych yn barod i’w dalu, gan ystyried unrhyw bremiwm prynwr neu gyfraniad arall rhaid i chi ei dalu tuag at gostau arwerthiant y gwerthwr, yn ogystal â’ch costau cyfreithiol a’ch taliadau eich hun. Dylech gadw eich terfyn cynnig yn gyfrinachol. Gallwn eich helpu i baratoi cyllideb addas.
Cytundeb
Unwaith y bydd yr asiant tai wedi rhoi gwybod am y gwerthiant, bydd cyfreithiwr y gwerthwr yn anfon y contract a dogfennau eraill at gyfreithiwr y prynwr.
Os ydych yn gwerthu, byddwn yn gofyn i chi gwblhau a dychwelyd ein holiadur gwerthu. Byddwn hefyd yn gofyn i chi gwblhau a llofnodi’r Ffurflen Gwybodaeth am Eiddo (TA6) a’r Ffurflen Gosodiadau, Ffitiadau a Chynnwys (TA10) ac, os yw’r eiddo’n brydleso, y Ffurflen Gwybodaeth Prydlesiau (TA7). Mae’r holiaduron hyn yn ffurfio rhan o’r contract ac mae’n rhaid eu cwblhau’n llawn ac yn ofalus er mwyn sicrhau na fydd unrhyw gamgymeriadau yn cael ei gwneud.
Byddwn yn cyflwyno’r contract ynghyd â’r holiaduron wedi’u cwblhau i gyfreithwyr trawsgludo’r prynwr.
Os ydych chi’n prynu, byddwn yn gofyn i chi lenwi a dychwelyd ein holiadur prynu. Bydd cyfreithiwr y gwerthwr yn anfon y drafft o’r cytundeb, tystiolaeth o deitl y gwerthwr a’r holiaduron eiddo wedi’u llenwi atom.
Byddwn wedyn yn gallu trefnu’r chwiliadau eiddo a delio ag unrhyw ymholiadau ychwanegol a allai fod eu hangen o ganlyniad i ni wirio’r dogfennau a ddarparwyd gan gyfreithiwr trosglwyddo’r gwerthwr.
Os ydych yn gobeithio prynu mewn arwerthiant cyhoeddus, rydym yn amgymell yn gryf eich bod yn ein cyfarwyddo i wneud yr un math o ymholiadau ac ymchwiliadau ag y byddem yn eu gwneud pe baech yn prynu’r eiddo drwy gytundeb preifat. Yn y achosion hynny pan mae’r wybodaeth angenrheidiol yn cael ei daparu gan gyfreithiwr y gwerthwr gallwn fel arfer gwblhau ein hymoliadau’n gyflym. Os nad oes unrhyw neu ond ychydig o wybodaeth ar gael (a gellir disgwyl hynny os yw’r eiddo’n cael ei werthu, er enghraifft, gan fenthycwr morgeisi yn dilyn adfeddiannu), efallai na fydd digon o amser cyn yr arwerthiant i gynnal ymholiadau llawn. Mewn achosion fel hyn byddwn yn eich cynghori am y risgiau tebygol a beth all gael ei wneud i’w lliniaru. Dylsech hefyd archwilio’r eiddo yn ofalus ac ystyried trefnu arolwg proffesiynol.
Ychwiliadau eiddo’r prynwr 
Mae ymchiliadau eiddo yn geisiadau am wybodaeth sy’n cael ei dal gan awdurdodau amrywiol ynghylch yr eiddo. Eu pwrpas yw derbyn gwybodaeth a allai ddylanwadu ar eich penderfyniad i brynu’r tŷ neu fflat – neu ar benderfyniad eich benthyciwr i roi benthyg arian i chi. Maent yn bwysig iawn, ac o ystyried y risgiau, rydym yn eich cynghori’n gryf i ofyn i ni gynnal chwiliadau cynhwysfawr wrth brynu.
Mae’r math o chwiliad sy’n cael ei gynnal yn dibynnu ar yr ardal lle mae’r eiddo wedi’i leoli, a byddwn yn eich cynghori ac yn argymell pa chwiliadau y dylid eu gwneud. Os ydych chi’n cael morgais, gall y benthyciwr morgais nodi pa chwiliadau y mae angen i ni eu cynnal.
Mae chwiliadau eiddo yn cynnwys:
Chwiliad lleol – fydd yn cynnwys gwybodaeth a gafwyd o gofnodion gan y awdurdodau lleol megis cynllunio, grantiau, cyfrifoldeb am ffyrdd ac ati. Dylech fod yn ymwybodol fod yr chwiliadiau ond yn berthnasol i’r eiddo dan sylw ac nid yw’n rhoi gwybodaeth o ddatblygiadau posibl yn ardal yr eiddo nac ychwaith a yw’r eiddo wedi’i halogi neu’n debygol o fod.
Adroddiad mwyngloddio – sy’n rhoi gwybodaeth am Gweithgaredd mwyngloddio yn yr ardal ac os yw’r eiddo mewn ardal o’r fath, neu wedi, cael ei effeithio gan fwyngloddio yn y gorffennol neu ar hyn o bryd.
Adroddiad amgylcheddol – sy’n rhoi gwybodaeth am faterion amgylcheddol (e.e. gweithgaredd diwydiannol yn y gorffennol, risgiau llifogydd, cyflwr y tir) allai effeithio’n andwyol ar yr eiddo neu’r tir yn ei gyffiniau.
Adroddiad ar y risg o lifogydd – gyda’r cynnydd mewn nifer o achosion o lifogydd dŵr wyneb yn ogystal ag afonydd, rydym yn argymell cael adroddiad ar gyfer pob eiddo ac yn argymell yn gryf gwneud hynny pan fydd yr adroddiad amgylcheddol yn dangos bod risg o lifogydd yn debygol. Mae’n cynnwys asesiad a gwybodaeth fanwl am risg llifogydd, yn ogystal â sgôr ynglŷn â hygyrchedd yswiriant a gwybodaeth am hawliadau yswiriant yn y gorffennol.
Chwiliad cofrestru tir comin – a fydd yn nodi a yw’r eiddo’n cael ei effeithio gan hawliau tir comin cofrestredig.
Chwiliad dŵr / draeniau – a fydd yn nodi a yw’r eiddo wedi’i gysylltu â’r prif gyflenwad dŵr a’r prif system ddraeniau ai peidio, ac sy’n cynnwys cynlluniau yn dangos lleoliad carthffosydd sy’n cael eu cynnal a’u cadw gan awdurdod cyhoeddus yng nghyffiniau’r eiddo, yn ogystal â lleoliad unrhyw brif gyflenwad dŵr.
Chwiliad cynllunio – a fydd yn rhoi gwybodaeth am geisiadau a defnyddiau cynllunio yn ardal yr eiddo rydych chi’n ei brynu.
Chwiliad atebolrwydd atgyweirio cangell – a fydd yn dangos a yw’r eiddo wedi’i leoli mewn plwyf lle gallai perchnogion eiddo fod yn gyfrifol am gyfrannu at gostau gwaith atgyweirio cangell (gall y gost fod yn sylweddol). Byddwn yn trafod canlyniadau’r chwiliadau hyn â chi (neu’n rhoi adroddiad arnynt i chi) cyn cyfnewid contractau. Os bydd unrhyw chwiliad yn cynnwys gwybodaeth yr ydym yn ystyried y gallai fod yn niweidiol i’ch buddiannau (neu fuddiannau eich benthyciwr morgais), byddwn yn rhoi gwybod i chi.
Morgais a threfniadau ariannol  
Os ydych yn prynu mae’n bosib eich bod trefnu i gael morgais/neu fenthyciad preifat neu fuddsoddiad gan berthynas.
Mae morgais yn fenthyciad sydd wedi’i sicrhau yn erbyn yr eiddo.
Fel arfer, gofynnir i ni weithredu ar ran eich benthycwr wrth ymdrin â’r ernes morgais. Mae telerau ein cyfarwyddiadau yn benodol iawn; er enghraifft os bydd problemau’n codi gyda’r eiddo, neu os oes nodweddion anarferol yn ymwneud â’ch pryniant, mae’n ofynnol i ni roi gwybod i’r benthycwyr am y ffeithiau a chael eu cymeradwyaeth cyn cymryd unrhyw gamau pellach.
Os bydd yr eiddo yn cael ei feddiannu gan unrhyw oedolyn sydd yn prynu’r eiddo, bydd y benthyciwr yn gofyn i feddiannydd lonfnodi dogfen sy’n ildio unrhyw hawliau meddiannu. Mae gofynion gwahanol i eiddo sydd yn cael eu prynu i’w gosod.
Nid ydym yn gallu eich cynghori ynghylch telerau ariannol y morgais. Dylech sicrhau eich bod yn gwirio’r amodau’n ofalus gyda’ch cynghorydd morgeisi, ac yn sicrhau eich bod yn fodlon arnynt ac yn deall amodau’r benthyciad sy’n berthnasol.
Os ydych yn prynu eiddo gyda benthyciad a ddarperir gan yr un benthyciwr morgais â’r un sy’n darparu’r benthyciad ar gyfer yr eiddo rydych yn ei werthu, gall y benthyciwr hepgor y cosbau ad-dalu’n gynnar y byddai fel arall yn eu codi wrth ad-dalu’r morgais presennol. Gelwir hyn yn ‘trosglwyddo’ gan fenthycwyr morgais. Sylwch ei bod fel arfer yn angenrheidiol i ni dalu – neu o leiaf neilltuo arian i dalu – y gosb am ad-dalu morgais yn gynnar, er mwyn sicrhau (fel y mae’n rhaid i ni) bod y morgais presennol yn cael ei ad-dalu’n llawn a bod y ddogfennau angenrheidiol ar gyfer rhyddhau’r morgais yn cael eu paratoi. Felly, rhaid i chi fod yn barod i ddyrannu arian ar gyfer y gost hon pan fydd y broses yn dod i ben, ac i geisio ad-daliad gan y benthyciwr morgais.
Os yw perthynas yn darparu’r arian, rhaid i chi roi gwybod i ni, oherwydd efallai y bydd angen dogfennu’r trefniant mewn ffordd arbennig er mwyn diogelu eich perthynas ac oherwydd bod yn rhaid i ni hysbysu eich benthyciwr morgeisi am y trefniadau. Yn dibynnu ar y cytuneb rhyngoch mae’n bosib y byddwn yn cynghori eich perthynas ynghylch yr angen i gael cyngor cyfreithiol annibynnol.
Cyflwr a chydymffurfiaeth â rheoliadau cynllunio ac adeiladu
Yn nodweddiadol, nid yw gwerthwr tŷ yn rhoi unrhyw warant ynghylch ei gyflwr, unrhyw osodiadau gwasanaeth, na digonolrwydd unrhyw wasanaethau sy’n cyrraedd yr eiddo neu sydd ynddo. Os oes unrhyw ddiffygion neu namau ar yr eiddo, ni fydd y prynwr yn gallu cymryd unrhyw gamau yn erbyn y gwerthwr.
Os oes unrhyw rheoliadau cynllunio neu adeiladu yn cael eu torri, efallai y byddwch yn atebol am eu cywiro, hyd yn oed os nad chi oedd yn gyfrifol amdanynt yn y lle cyntaf.
Os oes unrhyw newidiadau wedi’u gwneud i’r eiddo, neu newid yn nefnydd yr eiddo neu unrhyw ran ohono (e.e. ymgorffori tir fferm cyfagos i’r ardd), rhaid i chi roi gwybod i ni – boed chi’n gwerthu neu’n prynu – er mwyn i ni allu cychwyn ymholiadau a rhoi cyngor i chi ar y camau y dylech eu cymryd. Gall hyn gynnwys trefnu arolwg proffesiynol neu adroddiad gan beirianwyr strwythurol. Gall gwaith adeiladu nad yw’n cydymffurfio â’r rheoliadau fod yn beryglus, a dylid ei ymchwilio bob amser. Gellir ymdrin â rheolau llai difrifol drwy bolisi yswiriant indemniad addas.
Os ydych yn prynu neu’n gwerthu, ac rydych yn amau fod rheoliadau adeiladu yn cael eu torri, peidiwch â chysylltu gyda’r awdurdodau lleol heb gysylltu gyda ni yn gyntaf. Gallai gwneud hynny annilysu polisi indemniad rheoliadau adeiladu ac os oes un yn bodoli eisoes fe all ei wneud yn amhosibl i ni gael un os nad oes un. Gallai hefyd annog yr awdurdod lleol i gymryd camau i orfodi’r gwerthwr i wneud gwaith i gywiro’r tor-rheol.
Draeniau, Carthffosydd a Thanciau Septig
Os yw draeniau yr eiddo yn cysylltu gyda’r prif garthffos, mae deddfwriaeth ddiweddar yn golygu bod hen garthffosydd preifat wedi’u trosglwyddo i’r awdurdod draeniau ar 1 Hydref 2011. Er bod hyn yn debygol o fod yn fuddiol mewn rhai achosion, mae darpariaethau statudol sydd â’r nod o atal adeiladu dros garthffos neu ddraen a gynhelir yn gyhoeddus. Mae’n debygol y bydd gosodiadau newydd yn cydymffurfio, ond mae’n bosibl bod adeiladau wedi’u codi dros garthffosydd neu ddraeniau presennol, neu eu bod yn agosach atynt nag y mae’r rheoliadau’n ei ganiatáu. Mewn achosion o’r fath, dylech honni y bydd yr awdurdod draeniau yn mynnu bod carthffosydd yn cael eu hail-osod er mwyn cydymffurfio â rheoliadau.
Mae deddfwriaeth diweddaraf hefyd yn effeithio ar ollwng o danciau septig. Efallai na fydd tanciau septig presennol yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth honno, ac mewn achosion o’r fath, mae’n debygol y bydd angen y gorodiadau newid. Mae amnewidiadau yn gallu bod hynod o ddrud. O ganlyniad, os ydych chi’n prynu eiddo sydd wedi’i gysylltu â thanc septig, rhaid i chi roi gwybod i ni fel y gallwn wneud ymholiadau priodol ar eich rhan.
Arolwg
Os ydych yn prynu, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cael arolwg adeilad gan Syrfëwr Siartredig (MRICS neu FRICS) ac i drefnu archwiliadau arbenigol o osodiadau’r gwasanaethau ( trydan, nwy, dŵr a draeniad dŵr budr a dŵr wyneb). Dylai arolwg adeilad nodi unrhyw ddiffygion neu namau yn yr eiddo, gan eich galluogi felly i ail-drafod y pris, tynnu’n ôl rhag y pryniant, neu gynllunio cyllideb ar gyfer costau atgyweirio, yn ôl yr angen. Dylai arolwg adeilad hefyd nodi newidiadau i’r defnydd neu welliannau i’r eiddo a allai fod wedi golygu bod angen caniatâd cynllunio neu gydymffurfio â rheoliadau adeiladu. Mae Syrfewyr Siartredig yn cynnig amrywiaeth o fathau gwahanol o arolygon, a dylech geisio cyngor gan eich syrfëwr ynghylch pa un fyddai’n addas, gan ystyried eich anghenion a’r math o eiddo rydych chi’n ei brynu.
Os ydych yn trefnu arolwg, rydym yn amgymell yn gryf eich bod yn gofyn i’r y syrfewr:
1. sicrhau ei fod yn adrodd ar y trefniadau draeniau ac yn gwirio a oes unrhyw ran o’r eiddo yn agos iawn at garthffos, neu wedi’i hadeiladu drosti, neu os yw’r eiddo wedi’i gysylltu â thanc septig ac i nodi ei leoliad ac i gynghori a yw’r all-lif yn mynd i gwrs dŵr, boed hynny’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.
2. adrodd ar unrhyw addasiadau, gwelliannau neu eitemau amnewidiwyd a allai fod ag oblygiadau o ran cynllunio a rheoliadau adeiladu.
3. oni bai eich bod yn trefnu morgais, i ddarparu prisiad yswiriant i chi.
4. Anfonwch gopi o’i adroddiad atom fel y gallwn ystyried unrhyw oblygiadau cyfreithiol a nodir yn yr adroddiad.
Rydym hefyd yn eich cynghori’n gryf i drefnu archwiliadau proffesiynol gan grefftwyr cofrestredig ar y gosodiadau trydan, nwy a gwresogi. Mae hyn er mwyn eich diogelwch chi eich hun yn ogystal â chyflwr a safon y gwasanaethau hynny.
Prisiad morgais
Os ydych wedi trefnu morgais, bydd eich benthyciwr yn cynnal prisiad proffesiynol o’r eiddo. Oni bai eich bod yn gofyn amdano’n benodol, ni fydd hynny’n cynnwys arolwg. Mae Cyngor y Benthycwyr Morgais yn ei gwneud yn glir yn ei lawlyfr:
1. Gall fod diffygion yn yr eiddo nad ydynt yn cael eu datgelu gan yr archwiliad a wneir gan brisiwr y benthycwr, a gall fod bylchau neu anghywirdebau yn yr adroddiad nad ydynt o bwys i’r benthycwr ond a fyddai o bwys i chi.
2. Os yw’r benthycwr yn darparu copi o’r adroddiad prisio, ni ddylech ddibynnu ar yr adroddiad hwnnw wrth benderfynu a ddylech gario ymlaen â’r pryniant. Argymhellir eich bod yn cael adroddiad mwy manwl ar gyflwr a gwerth yr eiddo, yn seiliedig ar archwiliad mwy trylwyr, er mwyn eich galluogi i benderfynu a yw’r eiddo yn addas at eich dibenion.
Gwarantau cartrefi newydd
Bydd gan gartrefi newydd, neu’r rhai a adeiladwyd o fewn 10 mlynedd, rhyw fath o warant. Yn gyffredinol, trosglwyddir y gwarantau hynny’n awtomatig i berchennog dilynol.
Gallai gwarantau ac ymrwymiadau gwarantu eraill gael eu darparu mewn perthynas â gwelliannau neu atgyweiriadau a wnaed i’r eiddo. Efallai y bydd angen trosglwyddo gwarantau o’r fath yn ffurfiol, os ydynt yn ddilys. Efallai na fyddwn yn gallu gwirio a yw gwarantau o’r fath yn ddilys ai peidio, nac ychwaith gyflawni trosglwyddiad boddhaol o’u buddion.
Problemau 
Yn anffodus, mae problemau yn gallu codi. Mae rhain yn disgyn i ddau brif gategori – problemau gyda’r teitl cyfreithiol a phroblemau gyda gofynion rheoleiddiol (e.e. torri rheolaethau cynllunio neu reoliadau adeiladu neu, fel y crybwyllwyd uchod, mewn perthynas â thanciau septig). Mae problemau teitl cyfreithiol fel arfer yn codi oherwydd tystiolaeth wael neu absennol o berchnogaeth neu ddefnydd o wasanaethau, neu oherwydd torri rhwymedigaethau sy’n effeithio ar ddefnyddio neu feddiannu’r eiddo.
Dylsech gysylltu gyda ni os ydych yn clywed neu’n gweld rhywbeth a all awgrymu bod problem yn bodoli, fel y gallwn ei ymchwilio.
Rydym wedi arfer delio gyda phroblemau o’r math yma. Mae’r ateb yn aml yn cynnwys darparu polisi yswiriant i roi indemniad i’r prynwr i dalu am y risg benodol neu, yn achos torri rheoliadau, sicrhau bod y gwerthwr yn gwneud unrhyw waith angenrheidiol neu’n gwneud trefniant ariannol i chi fel y gallwch chi wneud hynny.
Os bydd problemau o’r math hwn yn codi, byddwn yn eich cynghori ar y ffordd orau o ddelio â nhw ac, os yw’n briodol, ar y gost ychwanegol o wneud hynny.
CYFNEWID CYNTUNDEBAU
Pan yn cyfnewid cyntundebau, gwneir cyntundeb sy’n rhwymo’n gyfreithiol ar gyfer gwerthu a phrynu’r eiddo am y pris y cytunwyd arno ac, fel arfer, gyda dyddiad penodol ar gyfer cwblhau.
Os ydych yn prynu, fyddwn ni yn eich cynghori i gyfnewid cytundebau hyd:
– Rydych yn fodlon ar gyflwr yr eiddo (yn dilyn eich arolwg neu fel arall)
– Rydym yn derbyn cyfarwyddiadau morgais boddhaol gan eich benthyciwr morgais ac yn gallu cydymffurfio â’i amodau.
– Mae eich trefniadau ariannol eraill wedi’u gwneud.
– Mae’r wybodaeth am yr eiddo a ddarparwyd gan y gwerthwr yn foddhaol.
– Mae’r chwiliadau eiddo yn foddhaol.
– Mae’r contractau wedi eu cymeradwyo.
– Mae teitl y gwerthwr (h.y. prawf o berchnogaeth) yn foddhaol.
– Mae dyddiad cwblhau wedi ei gytuno.
– Os oes gennych werthiant cysylltiedig, bod eich prynwr yn gallu cyfnewid cyntundebau.
Fel arfer, byddwn yn eich gweld cyn i’r cytundeb gael ei arwyddo er mwyn mynd drwy’r dogfennau a thrafod yr wybodaeth sydd wedi’i gasglu. Os nad ydym yn gallu eich gweld wyneb yn wyneb bydd adroddiad yn cael ei pharatoi.
Bydd blaendal yn daladwy wrth gyfnewid contractau. Mae hyn fel arfer 10% o’r pris. Yn aml iawn, byddwn yn gallu defnyddio’r blaendal a dderbyniwyd o werthu eich tŷ presennol, ond os na fydd hynny’n bosibl, bydd angen i chi dalu’r blaendal i ni cyn y gellir cyfnewid contractau.
Arwerthiant: Os ydych yn bwriadu prynu mewn arwerthiant, dylech sicrhau bod y materion a restrir uchod wedi’u datrys yn foddhaol cyn i chi wneud cynnig. Os bydd eich cynnig yn llwyddiannus, cynhelir cyfnewid cyntundebau pan fydd y morthwyl yn disgyn, ac ni allwch newid eich meddwl wedyn. Os bydd eich cynnig yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi lofnodi’r cyntundeb a thalu 10% o’r pris morthwyl fel blaendal i’r arwerthwr neu eich cyfarwyddo i gyfreithiwr y gwerthwr cyn i chi adael yr ystafell arwerthu. Efallai y bydd hefyd yn rhaid i chi dalu ffi weinyddol neu gomisiwn prynwr i’r arwerthwr.
Os ydych yn gwerthu, fyddwn ni ddim eich cynghori i cyfnewid cyntundebau tan:
– Bod dyddiad cwblhau wedi ei gytuno.
– Rydych chi’n fodlon y bydd yr arian o’r gwerthiant yn ddigonol i dalu’r morgais (neu’r morgeisi) yn llawn.
– Eich bod yn fodlon y bydd yr holl feddianwyr yn gadael yr eiddo ar y dyddiad cwblhau neu cyn hynny
– Os oes gennych bryniant cysylltiedig, bod eich prynwr yn gallu cyfnewid contractau.
Os yw popeth yn drefnus, byddwn yn ymdrin â chyfnewid cytundebau ar eich rhan.
Mewn gwerthiant trwy gytundeb preifat, byddwn yn ymdrin â’r gweithdrefnau cyfreithiol ar gyfer cyfnewid cyntundebau ar eich rhan. Nid oes disgwyl i chi fod yn ein swyddfa pan fydd y cyfnewid cyntundebau yn digwydd.
Yswiriant
Oni bai bod yswiriant yn cael ei ddarparu gan eich benthyciwr morgais, bydd rhaid i chi sicrhau eich bod yn trefnu yswiriant adeiladau cynhwysfawr sy’n cwmpasu gwerth llawn ail-adeiladu’r eiddo, gan ddechrau o ddyddiad cyfnewid cyntundebau. Mae hyn oherwydd bod y risg yswiriant yn trosglwyddo i chi wrth gyfnewid contractau. Fel arfer, nid oes rhwymedigaeth gyfreithiol ar y gwerthwr i gynnal yswiriant ar ôl cyfnewid contractau.
Mae’n bwysig yswirio’r eiddo am y swm cywir; felly, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cael pris gan syrfëwr siartredig , oni bai bod eich prisiwr morgais wedi darparu un i chi.
Cydberchnogaeth
Os ydych chi’n prynu’r eiddo ar y cyd â rhywun arall (e.e. gyda’ch priod neu bartner), dylech ddarllen y nodiadau hyn yn ofalus cyn ateb y cwestiwn ynghylch perchnogaeth ar y cyd yn y holiadur rydym yn ei anfon atoch. Mae’r nodiadau hyn yn tybio bod dau gyd-berchennog, ond mae’r un egwyddorion yn gymwys os oes na fwy na dau gyd-berchennog.
Gan eich bod yn prynu’r eiddo gyda’ch gilydd, byddwch yn gyd-berchennog. Fel cyd-berchnogion, gallwch ddal yr eiddo mewn un o ddwy ffordd:
Fel deiliaid ar y cyd.
Fel deiliaid cyffredin.
Mae “deiliaid ar y cyd” a “deiliaid cyffredin” yn ffyrdd o ddisgrifio perchnogaeth ar y cyd ar eiddo, ac ni ddylid eu drysu â thenantiaeth, sy’n bodoli pan fydd tenant yn rhentu eiddo gan landlord.
Deiliaid ar y cyd
Os ydych yn berchnogion eiddo fel deiliaid ar y cyd, bydd y ddau ohonoch yn berchen ar yr eiddo cyfan gyda’ch gilydd. Ni fydd gan yr un ohonoch gyfran benodol yn yr eiddo, ac ni fyddwch yn medru gadael cyfran o’r eiddo yn eich ewyllys.
Os byddwch yn gwerthu’r eiddo, neu’n gwahanu, tybir bod y ddau ohonoch yn berchen ar yr eiddo yn gyfartal, waeth beth fo’r cyfraniadau a wnaethoch yn unigol tuag at y pris prynu. Wrth i un o’r cyd-berchnogion farw, byddai ei gyfran yn yr eiddo yn trosglwyddo’n awtomatig i’r cyd-berchennog arall heb unrhyw gamau pellach. Yna, byddai’r cyd-berchennog sy’n weddill yn berchen ar yr eiddo cyfan. Gelwir hyn yn “hawl goroesi”.
Mae cyplau priod neu’r rhai mewn partneriaeth sifil yn aml yn defnyddio’r dull hwn o gydberchnogaeth oherwydd bod yr hawl goroesi yn ei gwneud hi’n syml etifeddu cyfran y llall yn yr eiddo.
Fodd bynnag, gall fod rhesymau dros beidio â bod yn gyd-denantiaid. Er enghraifft, os yw un ohonoch wedi gwneud cyfraniad mwy at bris prynu’r eiddo ac rydych chi am i hyn gael ei gydnabod os caiff yr eiddo ei werthu neu os byddwch yn gwahanu. Nid yw tenantiaeth ar y cyd yn addas chwaith os oes gennych deulu o briodas flaenorol ac yr hoffech adael eich cyfran yn yr eiddo iddynt, yn hytrach na’i bod yn trosglwyddo i’r cyd-berchennog arall drwy hawl goroesiad pan fyddwch farw.
Deiliaid cyffredin
Os ydych yn berchnogion ar y eiddo fel deiliaid cyffredin, bydd pob un ohonoch yn berchen ar gyfran benodol yn yr eiddo. Gall eich cyfrannau fod yn gyfartal, ond nid oes rhaid iddynt fod.
Gellir trosglwyddo eich cyfran o’r eiddo i berson arall, naill ai yn ystod eich oes neu drwy eich ewyllys. Os nad oes gennych ewyllys adeg eich marwolaeth, bydd eich cyfran yn cael ei throsglwyddo yn unol â’r rheolau ynghylch marw heb ewyllys.
Os dymunwch ddal yr eiddo fel deiliaid cyffredin, dylech lofnodi datganiad ymddiriedolaeth. Mae datganiad ymddiriedolaeth yn ddogfen sy’n cofnodi’n ffurfiol eich bod yn dal yr eiddo fel deiliad cyffredin ac yn nodi eich cyfrannau priodol yn yr eiddo. Os byddwch yn gwerthu’r eiddo, neu os byddwch yn gwahanu, cyfeirir at y datganiad ymddiriedolaeth er mwyn cyfrifo eich hawl i’r arian a ddaw o werthu’r eiddo.
Gall deiliaid cyffredin fod yn briodol os oes gennych blant o berthnasoedd blaenorol ac y byddai’n well gennych iddynt hwy, yn hytrach na’ch cyd-berchennog, etifeddu eich cyfran ar ôl eich marwolaeth.
Camau nesaf
Mae sut rydych chi am ddal yr eiddo yn benderfyniad i chi ac mae’n rhywbeth y dylech ei adolygu’n barhaus ar ôl prynu’r eiddo. Os penderfynwch cadw’r eiddo fel cyd-denantiaid ond wedyn rydym yn dymuno rhannu eich buddiannau, gallwch “dorri” y cyd-denantiaeth a’i droi’n ddeiliaid gyffredin ar unrhyw adeg.
Dylech fod yn ymwybodol, os penderfynwch cadw’r eiddo fel tenantiaid ar y cyd:
– Gall y naill barti neu’r llall dorri’r denantiaeth ar y cyd heb gytundeb y llall.
– Gall y denantiaeth ar y cyd gael ei thorri’n awtomatig mewn nifer o sefyllfaoedd, gan gynnwys pan fydd un parti yn mynd yn fethdalwr.
Mae’n bwysig ichi benderfynu a gadael i ni wybod sut rydych chi’n dymuno dal yr eiddo, er mwyn osgoi unrhyw ansicrwydd yn y dyfodol. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch perchnogaeth yr eiddo, peidiwch ag oedi cyn cysylltu gyda ni. Cadarnhewch eich cyfarwyddiadau drwy lenwi adran 5 o’r Holiadur Prynu / Holiadur Gwerthu a Phrynu sydd ynghlwm.
Diddordebau eraill
Os, er enghraifft, bod rhan o’r arian prynu yn cael ei ddarparu gan berthynas, byddwn yn eich cynghori ar sut i strwythuro’r berchnogaeth er mwyn nodi a diogelu buddiannau pawb. Bydd hyn yn cynnwys datganiad ymddiriedaeth ffurfiol ac ar wahân. Mewn achosion fel hyn, bydd hyn yn cynnwys ffi ychwanegol am ymdrin â’r trefniadau hyn.
Ar ôl cyfnewid cyntundebau
Yn draddodiadol, roedd cyfnod o bedair wythnos rhwng cyfnewid contractau a chwblhau. Heddiw fodd bynnag, mae’r cyfnod hwnnw llawer byrrach ac, weithiau, bydd y cwblhau’n digwydd ar ddiwrnod cyfnewid cyntundebau neu o fewn ychydig ddyddiau i hynny. O ganlyniad, mae’n bosibl iawn bod rhai o’r camau y cyfeirir atynt isod wedi’u cwblhau cyn cyfnewid, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu gwneud mewn pryd.
Os ydych chi’n prynu, byddwn yn paratoi’r dogfennau trosglwyddo a morgais i chi eu llofnodi ac yn cynnal unrhyw chwiliadau teitl a allai fod yn ofynnol.
Byddwn yn paratoi datganiad ariannol i chi ac, os bydd angen unrhyw arian pellach gennych, byddwn yn gofyn i chi ei dalu i ni fel y nodir yn y llythyr ymgysylltu sy’n cyd-fynd ag ef.
Os ydych yn gwerthu, Byddwn yn gadael i’r asiant tai wybod am y cyfnewid cyntundebau a byddwn ac yn trefnu i’ch benthyciwr (neu fenthycwyr) morgais ddarparu datganiad adbrynu morgais i ni, wedi’i gyfrifo hyd at y dyddiad cwblhau.
Pe byddwch yn gwerthu neu’n prynu mae llawer o baratoadau y mae’n rhaid eu gwneud cyn y dyddiad cwblhau. Heb law am drefnu’r symudiad, bydd angen i chi cysylltu gyda’r cwmnïau dŵr, nwy a thrydan am y newid cwsmer, a threfnu i fesuryddion y gwasanaethau gael eu darllen. Bydd angen i chi hefyd gysylltu gyda’r adran ardrethu eich awdurdod lleol a’r awdurdod draenio/Asiantaeth yr Amgylchedd, os ydych yn talu unrhyw ffioedd ar wahân ar gyfer y draeniau neu drwyddedau amgylcheddol. Bydd angen i chi hefyd ganslo neu newid trefniadau archeb sefydlog eich banc.
\
Cwblhau
Mae cwblhau yn ddyddiad, os ydych yn gwethu, i le y bo rhaid i chi symud allan o’r eiddo; os ydych yn prynu bydd gennych hawl i oriadau i’r eiddo – a ddylai fod yn wag ac wedi’i glirio o’r holl ddodrefn.
Os ydych yn gwerthu, ni ddylech chi drosglwyddo goriadau’r eiddo nes i ni dderbyn yr arian gan drosglwyddwr y prynwr. Os ydych yn trosglwyddo’r goriadau drosodd eich hunain, mae’n rhaid i chi gysylltu gyda ni er mwyn i ni gadarnhau bod y pres wedi ei dderbyn. Fel arall dylsech chi adael y goriadau gyda’r asiant tai ac mi wnawn ni gysylltu gyda nhw. Os yw’r asiant tai rydych wedi ei ddefyddio ar y “wê” neu os ydych wedi gwerthu’r eiddo yn breifat, bydd rhaid i chi wneud trefniadau gyda’r prynwr i gyfarfod gyda’r goriadau ond mae rhaid i chi gysylltu gyda ni yn gyntaf ynghylch yr amserlenni tebygol ar gyfer derbyn yr arian cwblhau, a phryd y cânt eu derbyn mewn, er mwyn sicrhau y gallwch drosglwyddo’r allweddi neu ymdrin â hwy’n ddiogel. Nid ydym yn ymwneud â’r trefniadau hyn, ac eithrio i gadarnhau bod yr arian cwblhau wedi ei dderbyn.
Rydym yn argymell eich bod yn darllen y mesuryddion cyfleustodau ar ddiwrnod y cwblhau ac yn gadael copi o’r darlleniadau i’r prynwr, ynghyd â manylion y cwmnïau cyfleustodau a’r rhifau cyfrif.
Rhaid i chi symud allan o’r eiddo ar y dyddiad cwblhau a bod yn barod i drosglwyddo’r goriadau tua hanner dydd.
Nodyn pwysig: Ni fyddwn yn gallu cwblhau eich gwerthiant ar y dyddiad cwblhau y cytunwyd arno os daw’n amlwg naill ai
– nad yw’r elw o’r gwerthiant yn ddigonol i dalu unrhyw forgeisi, costau cyfreithiol neu rwymedigaethau i bartïon eraill ac os nad yw’r arian wedi ei glirio ar neu cyn y dyddiad cwblhau neu
– Os ydych chi’n cyfrannu arian tuag at y pryniant, ac ydych wedi anfon digon o arian wedi’i glirio atom mewn pryd.
Os nad ydym yn gallu cwblhau y gwerthiant am y rhesymau hyn, byddwch yn torri’r cytundeb (drwy fethu â chwblhau’r trafodiad ar amser yn unol â’r cytundeb) ac o ganlyniad byddwch yn atebol i’r partïon eraill yn y trafodiad.
Os ydych yn prynu, nodwch os gwelwch yn dda ni fyddwn yn gallu trosglwyddo’r arian i gyfreithiwr eich gwerthwr nes i ni dderbyn yr holl arian sydd ein angen i brynu’r eiddo (gan gynnwys y benthyciad morgais gan eich benthyciwr, yr arian o werthu eich tŷ presennol (os oes un) ac unrhyw swm sy’n weddill ac sydd ei angen gennych). Gall fod oedi, ond fel arfer rydym yn gallu trosglwyddo’r arian yn ystod bore’r cwblhau.
Ar ddiwrnod cwblhau byddwn yn trosglwyddo arian y pryniant i gynrychiolydd cyfreithiol y gwerthwr drwy CHAPS (taliad electronig ar yr un diwrnod). Mae hon fel arfer yn broses gyflym, a byddwn yn gofyn i gyfreithiwr y gwerthwr awdurdodi rhyddhau’r goriadau i chi unwaith y bydd yr arian wedi’i dderbyn. Dylech gadw mewn cysylltiad gydag eich cyfreithiwr ynghylch yr amserlenni tebygol a’r derbyniad gwirioneddol. Nid ydym yn ymwneud â’r trefniant ei hun; yn hytrach, dim ond yn ymwneud â’r wybodaeth am anfon y cronfeydd a gofyn i gyfreithiwr y gwerthwr gysylltu â’u cleient i’w rhyddhau.
Rydym yn argymell eich bod yn cyfarfod y gwerthwr yn yr eiddo cyn cwblhau fel eu bod yn gallu dangos i chi ble mae’r falf stopio, sut mae’r gwresogi canolog, y systemau diogelwch a gwasanaethau eraill yn gweithio, a thrafod y trefniadau ar gyfer cymryd meddiant ar y dyddiad cwblhau.
Mae’n syniad da trefnu gyda’r gwerthwr i ddarllen y mesuryddion cyfleustodau ar ddiwrnod y cwblhau, ac i roi manylion y cyflenwyr a rhifau’r cyfrifon i chi, yn ogystal â chopi o’r darlleniad, os nad yw’r wybodaeth honno eisoes wedi’i darparu. Bydd hyn yn eich helpu i drosglwyddo’r cyfrifon i’ch enw chi.
Nodwch y byddwn yn ymdrin â ffurfioldebau cyfreithiol y broses gwblhau ar eich rhan. Ni ddisgwylir i chi fod yn ein swyddfa pan fydd y broses cwblhau yn digwydd.
Ar ôl cwblhau
Pan mae cwblhad wedi cymrud lle mae gennym yn dal lawer i wneud ar eich cyfer:
Os ydych yn gwerthu mi wnawn:
– dalu unrhyw forgeis(au) presennol. Nodwch, gyda rhai cynhyrchion morgais, nad yw’n bosibl i ni gael ffigwr ad-dalu pendant ar gyfer y dyddiad a bennwyd ar gyfer cwblhau. Yn yr achosion hynny, byddwn yn cadw arian dros ben nes ein bod yn fodlon y caiff y morgais ei ad-dalu a bod y rhyddhau angenrheidiol yn cael ei sicrhau.
– dalu ffioedd asiantau tai
– drosglwyddo’r dogfennau teitl i gyfreithiwr y prynwr gydag unrhyw bapurau eraill a allai fod eu hangen.
Os ydych yn prynu mi wnawn:
– dderbyn y dogfennau trosglwyddo eiddo a theitl gan gynrychiolydd cyfreithiol y gwerthwr.
– gyflwyno’r Ffurflen Dychweliad Treth Stamp i’r Treth Incwm a chael y Dystysgrif SDLT (gweler isod).
– Byddwch angen rhoi gwybod i’r landlord/deiliad y tâl rhent ac i’r asiantau rheoli os yw eich eiddo yn un daliadaeth prydlesol neu’n ddarostyngedig i dâl rhent.
– Delio â chofrestru eich teitl ac unrhyw forgeisi yn y Gofrestrfa Tir.
– Delio ag unrhyw warantau eiddo.
– Anfon copi o ddogfennau cofrestru’r teitl atoch.
Unwaith y bydd popeth wedi ei gwblhau, byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod bod popeth wedi’i gwblhau’n foddhaol. Os oes unrhyw arian dros ben, byddwn yn talu chi yr arian sydd gennym (yn amodol ar yr angen i gadw arian i fodloni rhwymedigaethau ad-dalu morgais, fel y crybwyllwyd uchod).
Dogfennau
Ers mis Hydref 2003, cofnodir teitlau’n electronig yn y Gofrestrfa Tir ac ni chyhoeddir unrhyw weithredoedd, fel y cyfryw.
Mae hyn yn golygu nad oes angen hen weithredoedd, lle maent yn bodoli, i brofi perchnogaeth, ond dylid eu cadw rhag ofn y bydd angen cyfeirio atynt. Mewn llawer o achosion, byddant o ddiddordeb gan eu bod yn olrhain hanes yr eiddo.
Pan fydd teitlau wedi’u cofrestru’n electronig, byddwn yn anfon unrhyw ddogfennau sy’n ofynnol gan y benthyciwr morgais at y benthyciwr morgais. Byddwn yn rhoi’r holl ddogfennau eraill i chi eu cadw.
Treth Stamp Tir (TST) / Treth Trosglwyddo Tir (TTT) / Treth ar Gyfradd Uwch
Yn Lloegr, mae TST wedi disodli toll stamp ac yn cael ei weinyddu gan HMRC yn yr un modd â threth incwm.
Rhaid cyflwyno datganiad a thalu’r dreth o fewn cyfnod byr ar ôl cwblhau’r broses; fel arall, bydd cosbau’n daladwy. Byddwn yn gofyn i chi lofnodi drafft o’r datganiad fel awdurdod i ni ei gyflwyno’n electronig unwaith y bydd y broses wedi’i chwblhau. Bydd hyn yn osgoi oedi a’r risg o gosb.
O ran trafodion tir yng Nghymru, delir â hyn o dan y Dreth Trafodion Tir (TTT),a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2018. Mae’r cyfraddau’n wahanol i rai TST. Mae’r egwyddorion ynghylch gorfod cyflwyno datganiad, fel y crybwyllwyd uchod, yn dal i fod yn berthnasol.
Yn y ddau achos, os oes gan y prynwr, neu bartner neu briod y prynwr, fuddiant mewn eiddo arall, gallai cyfradd uwch o TST neu TTT fod yn daladwy.
CASGLIAD
Mae prynu a gwerthu tai yn broses gymhleth a gall fod yn dasg sy’n cymryd llawer o amser ac yn achosi pryder. Mae gennym brofiad helaeth o ymdrin â’r broses ac o ddatrys problemau a all godi. Mae croeso i chi gysylltu â ni unrhyw bryd os oes angen cymorth neu cyngor arnoch.
