Celebrating 200 Years of Trusted, Expert Advice

Cefnogi Cyflogwyr i Reoli Materion yn y Gweithle

Gwasanaethau Cyfraith Cyflogaeth Arbenigol – Allington Hughes Law 

Mae rhedeg busnes yn dod â llawer o gyfrifoldebau, yn cynnwys rheoli staff yn deg a

chydymffurfio â chyfraith cyflogaeth. Yn Allington Hughes rydym yn darparu arweiniad arbenigol i helpu cyflogwyr i lywio heriau yn y gweithle yn hyderus, lleihau risgiau, a chynnal amgylchedd gwaith cadarnhaol.

Beth yw Cyfraith Cyflogaeth i Gyflogwyr?

Mae cyfraith cyflogaeth  yn sicrhau bod busnesau’n cydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol, tra’n sicrhau bod gweithwyr yn cael eu trin yn deg. Mae’n ymdrin â meysydd fel:

  • Drafftio ac adolygu contractau a pholisïau cyflogaeth
  • Rheoli perfformiad gweithwyr a gweithdrefnau disgyblu
  • Delio â phrosesau diswyddo a therfynu
  • Atal a mynd i’r afael ag anghydfodau yn y gweithle
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â deddfau sy’n ymwneud â gwahaniaethu, aflonyddu, ac iechyd a diogelwch

Sut allwn ni helpu

Bydd ein cyfreithwyr profiadol yn:

  • Cynnig cyngor ar cytundebau cyflogaeth, polisiau ac arferion gorau
  • Eich cefnogi drwy weithdrefnau disgyblu neu gwynion
  • Eich cynorthwyo gyda chynllunio ar gyfer diswyddo a therfynu cyflogaeth
  • Cynrychioli eich busnes mewn tribiwnlysoedd cyflogaeth ac anghydfodau
  • Darparu arweiniad rhagweithiol i leihau risg ac amlygiad cyfreithiol
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â phob rheoliad a rhwymedigaeth cyflogaeth

Rydym yn deall cymhlethdodau rheoli staff a chyfrifoldebau cyfreithiol, a’n pwrpas yw gwneud y broses mor glir a syml â phosibl.

Pam dewis Allington Hughes Law?

  • Cyngor ymarferol, wedi’i deilwra, i ddiogelu eich busnes
  • Prisio tryloyw a theg, heb unrhyw ffioedd cudd
  • Arbenigedd mewn materion cyflogaeth o ddydd i ddydd yn ogystal ag anghydfodau cymhleth
  • Cymorth ar draws Gaer, Wrecsam, Llanrwst a’r ardaloedd cyfagos
  • Wedi’i reoleiddio gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA)

Beth mae cleientiaid yn ei ddweud

“Arweiniodd Allington Hughes ni drwy anghydfod cymhleth yn ymwneud â gweithiwr, gyda chlirder a phroffesiynoldeb.

Fe wnaeth eu cyngor ein helpu i reoli’r sefyllfa’n deg ac yn effeithlon.”

— Mark T., Caer

Cwestiynau a ofynnir yn aml

C: Pryd ddylwn i gynnwys cyfreithiwr mewn materion cyflogaeth?

A: Mae’n well ceisio cyngor cyn cymryd camau ffurfiol, megis diswyddiadau, dileu swyddi, neu ymdrin â chwynion.

C: Sut allai atal anghydfodau yn y gweithle?

A: Mae contractau, polisïau, hyfforddiant a gweithdrefnau cyson a chlir yn lleihau’r risg o anghydfodau a hawliadau.

C: Beth sy’n digwydd os yw gweithiwr yn cyflwyno hawliad i dribiwnlys?

A: Gall ein cyfreithwyr gynrychioli eich busnes, eich arwain drwy’r broses, a helpu i sicrhau datrysiad ffafriol.

C: A oes angen cytundebau cyflogaeth arnaf ar gyfer yr holl staff? 

A: Oes. Mae cytundebau ysgrifenedig yn diogelu eich busnes a’ch gweithwyr, ac yn helpu i atal anghydfodau.

Gadewch i ni ddiogelu eich busnes 

Os oes angen cymorth arnoch gyda chyfraith cyflogaeth, rheoli staff, neu ddelio ag anghydfodau yn y gweithle, cysylltwch ag Allington Hughes Law am gyngor arbenigol ac atebion ymarferol.

Author Photo

About the Author

Fly High Media

Cysylltwch ag Allington Hughes Law

Cysylltwch â ni heddiw i weld sut y gallwn helpu!

Gallwch gysylltu ag Allington Hughes gydag unrhyw ymholiadau neu gwestiynau cyfreithiol drwy ffonio neu e-bostio ein swyddfeydd. Byddwn yn gwneud ein gorau i gynnig cyngor clir gan un o aelodau cymwys a phrofiadol ein tîm cyfreithiol.

Sylwch nad yw e-bost yn ffordd ddiogel o gyfathrebu, ac ni allwn warantu y byddwn yn derbyn eich e-bost. Mae gennym system hidlo ar waith, ac os yw eich neges yn frys, rydym bob amser yn argymell eich bod yn dilyn hynny gyda galwad ffôn.

Wrexham - 01978 291000
Chester - 01244 312166
Llanrwst - 01492 641222
Contact Form
Safety Exit