Celebrating 200 Years of Trusted, Expert Advice

Adnoddau Dynol – Cymorth Busnes

Cysylltwch â Ni

Am ragor o wybodaeth am ein Pecyn Cymorth Busnes.

Cysylltwch â'n Tîm

Cymorth Cynhwysfawr Adnoddau Dynol a Chyfraith Cyflogaeth ar gyfer Busnesau Sefydledig

Mae rheoli gweithlu mwy yn dod â chyfrifoldebau ychwanegol a risgiau posibl. Mae ein Pecyn Cymorth Busnes wedi’i gynllunio ar gyfer busnesau sydd â 10 neu fwy o weithwyr, gan ddarparu cymorth cynhwysfawr ym maes Adnoddau Dynol a chyfraith cyflogaeth i ddiogelu eich busnes, sicrhau cydymffurfiaeth a rheoli gweithwyr yn effeithiol.

Beth sydd yn cael ei gynnwys yn y Pecyn Cymorth Busnes?

Mae ein pecyn yn rhoi mynediad parhaus i fusnesau at gymorth proffesiynol ym maes Adnoddau Dynol a materion cyfreithiol:

Wedi'i gynnwys

Cytundeb 12 Mis heb Adnewyddu Awtomatig

Telerau hyblyg a thryloyw

Wedi'i gynnwys

Adnodd Llinell Gymorth Cyfraith Cyflogaeth Diderfyn

Cymorth cyflym pryd bynnag y bydd ei angen arnoch

Wedi'i gynnwys

Cyfreithiwr Dynodedig

Arbenigwr pwrpasol sy'n gyfarwydd â'ch busnes

Wedi'i gynnwys

Ymateb ar yr un diwrnod

Arweiniad cyflym a dibynadwy pan fo'r angen mwyaf

Wedi'i gynnwys

Drafftio Llythyr

Llythyrau a chyfathrebiadau cyflogaeth wedi'u drafftio'n broffesiynol

Wedi'i gynnwys

Cytundebau Cyflogaeth Pwrpasol

Cytundebau wedi’u teilwra ar gyfer pob gweithiwr

Wedi'i gynnwys

Llawlyfr Cwmni Pwrpasol

Polisïau clir i reoli eich gweithlu’n effeithlon

Wedi'i gynnwys

Cymorth Gweinyddol ar gyfer Tribiwnlysoedd Cyflogaeth*

Arweiniad a chymorth drwy brosesau tribiwnlys

Wedi'i gynnwys

Cylchlythyr Busnes

Cadwch yn gyfredol â’r newyddion diweddaraf ym maes Adnoddau Dynol a chyfraith cyflogaeth

Wedi'i gynnwys

Gwahoddiad i Seminarau Cyflogaeth a Busnes

Mynediad at ddigwyddiadau dysgu dan arweiniad arbenigwyr

Prisiau

O: £49 + TAW yr wythnos

Cyfanswm: £58.80 yr wythnos (yn cynnwys TAW o 20%)

Mae'r pecyn hwn yn darparu cefnogaeth cynhwysfawr a chost-effeithiol i fusnesau sefydledig ynghylch cyfraith Adnoddau Dynol a chyflogaeth, gan eich helpu i reoli staff yn hyderus a pharhau i gydymffurfio â'r gyfraith.

Pam dewis Allington Hughes Law?

Cyngor arbenigol gan gyfreithwyr profiadol ym maes cyfraith cyflogaeth ac Adnoddau Dynol

Cymorth wedi’i deilwra ar gyfer busnesau sydd â 10 neu fwy o weithwyr

Arweiniad cyflym ac ymarferol i ddatrys materion Adnoddau Dynol yn effeithlon

Prisiau tryloyw heb unrhyw ffioedd cudd nac adnewyddu awtomatig

Cymorth ledled Caer, Wrecsam, Llanrwst a’r ardaloedd cyfagos

Wedi’i reoleiddio gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA)

Beth mae cleientiaid yn ei ddweud

"Mae'r pecyn Cymorth Busnes wedi bod yn amhrisiadwy ar gyfer rheoli ein tîm. Mae cael cyfreithiwr pwrpasol a mynediad diderfyn at linell gymorth yn rhoi tawelwch meddwl i ni, ac yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â chyfraith cyflogaeth."

— Sarah M., Caer

Cwestiynau a ofynnir yn aml

A: Mae'r pecyn hwn yn ddelfrydol ar gyfer busnesau sydd â 10 neu fwy o weithwyr sydd eisiau cefnogaeth barhaus gyda chyfraith Adnodday Dynol a chyflogaeth heb gyflogi tîm Adnoddau Dynol llawn amser.

A: Rydym yn darparu arweiniad a chymorth drwy gydol achosion tribiwnlys, gan gynnwys paratoi dogfennau a chyngor strategol. Codir costau ychwanegol am gynrychiolaeth os bydd ei hangen.

A: Medrwch. Mae cymorth diderfyn drwy’r llinell gymorth yn caniatáu ichi gysylltu â’ch cyfreithiwr dynodedig pryd bynnag y bydd angen cyngor arnoch.

A: Yn bendant. Mae ein pecynnau’n hyblyg a gellir eu huwchraddio neu eu haddasu i gyd-fynd ag anghenion eich busnes.

Dechreuwch gyda Chefnogaeth i Fusnesau

Diogelwch eich busnes, rheolwch eich gweithlu yn hyderus, a sicrhewch gydymffurfiaeth â chyfraith cyflogaeth. Cysylltwch ag Allington Hughes Law heddiw i drefnu eich Pecyn Cymorth Busnes.

Ein Harbenigwyr Pecyn Cymorth Busnes

Mae ein tîm o arbenigwyr ymroddedig yn darparu cymorth cyfreithiol proffesiynol ym maes Adnoddau Dynol a chyfraith cyflogaeth i helpu eich busnes i weithredu'n hyderus.

Cysylltwch ag Allington Hughes Law

Cysylltwch â ni heddiw i weld sut y gallwn helpu!

Gallwch gysylltu ag Allington Hughes gydag unrhyw ymholiadau neu gwestiynau cyfreithiol drwy ffonio neu e-bostio ein swyddfeydd. Byddwn yn gwneud ein gorau i gynnig cyngor clir gan un o aelodau cymwys a phrofiadol ein tîm cyfreithiol.

Sylwch nad yw e-bost yn ffordd ddiogel o gyfathrebu, ac ni allwn warantu y byddwn yn derbyn eich e-bost. Mae gennym system hidlo ar waith, ac os yw eich neges yn frys, rydym bob amser yn argymell eich bod yn dilyn hynny gyda galwad ffôn.

Wrexham - 01978 291000
Chester - 01244 312166
Llanrwst - 01492 641222
Contact Form
Safety Exit