Rydym yn cefnogi dioddeddfwyr camdriniaeth ddomestig mewn amryw o ffyrdd. Rydym yn gweithio yn agos gyda nifer o sefydliadau camdriniaeth ddomestig lleol i wneud yn siwr fod ein cleientydd yn derbyn y cymorth gorau bosibl.
Nid yw camdriniaeth ddomestig yn golygu camdriniaeth ffisegol yn unig, mae yn cynnwys pob math o ymddygiad o gamdrin i gynnwys camdrin emosiynol, meddyliol, ariannol, ymddygiad rheolaethiol neu gorfodaethol ac ymddygiad treisgar neu bygythiol.
Rydym yma i’ch cefnogi i sicrhau eich bod yn cael y gefnogaeth gywir yr ydych ei angen, yn ddibynol ar eich amgylchiadau a’ch bregusrwydd, a gall hyn gynnwys:
Sut Gallwn Eich Cefnogi
Llythyrau rhybuddio
Eich cyfeirio at wasanaethau cefnogi dioddefwyr camdriniaeth ddomestig
Ceisiadau i’r llys am orchymyn gwahardd -“Non-molestation Order”
Ceisiadau i’r llys am orchymyn meddiannaeth “Occupation Order”
Gorchmynion Gwahardd
Rydym yma i’ch cefnogi i sicrhau eich bod yn cael y gefnogaeth gywir yr ydych ei angen, yn ddibynol ar eich amgylchiadau a’ch bregusrwydd.
Ein Harbenigwyr Cyfraith Teulu
Mae ein hadran Camdriniaeth Ddomestig yn cynnwys arbenigwyr ymroddedig sydd wedi ymrwymo i ddarparu cymorth cyfreithiol clir, sensitif ac ymarferol.