Canllawiau Arbenigol
Atebion clir a syml i'ch cwestiynau am y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Achosion Gofal.
Siarad â ChyfreithiwrGolyga cyfarfod cyn cychwyn achos gyfarfod a gynhelir pan fo gan awdurdod lleol bryder mawr am eich plant a’r gofal y maent yn ei dderbyn gennych. Dywed yr awdurdod lleol y byddai’r pryderon hyn yn cyfiawnhau iddynt wneud cais i’r llys. O fewn y broses cyn cychwyn achos bydd yr awdurdod lleol yn rhoi “cynnig olaf” i chi wella neu wneud newidiadau a fyddai wedyn yn osgoi iddynt wneud cais i’r llys.
Cynhelir y cyfarfod cyn cychwyn achos, byddwch chi a’ch cyfreithiwr yn mynd iddo i wrando ar bryderon yr awdurdod lleol a beth y byddant yn gofyn i chi ei wneud i osgoi cais yn cael ei wneud i’r llys.
Gallasai’r awdurdod lleol ofyn i chi arwyddo “Rhaglen Disgwyliadau” yn ystod y cyfarfod.
Mae Rhan 20 neu Rhan 76 yng Nghymru yn rhoi dyletswydd i’r awdurdod lleol ofalu am blant. Gall hyn gynnwys gofal tu hwnt i’w cartrefi. Mewn rhai amgylchiadau, ni all yr awdurdod lleol ofalu am y plentyn heb ganiatad y person sydd gyda chyfrifoldeb rhiant drosto. Byddai rhoi’r caniatad uchod yn galluogi’r awdurdod lleol i ofalu am eich plentyn, yn ddibynnol ar eich caniatad.
Gallwch dynnu eich caniatad yn ôl ar unrhyw adeg.
Mae rhoi caniatad a thynnu caniatad yn ôl o dan Rhan 20 neu Rhan 76 yn benderfyniad pwysig ac yn dibynnu ar ffeithiau eich achos chi. Mae’n bwysig eich bod yn ymofyn cyngor cyfreithiol cyn gwneud y penderfyniad.
Gorchymyn Gofal yw gorchymyn y llys sydd yn rhoi cyfrifoldeb rhiant am blentyn ac yn caniatau iddynt wneud penderfyniadau am ofal plentyn a’i les. Gellir gwneud Gorchymyn Gofal ond ble fo’r llys yn fodlon fod y plentyn yn dioddef neu yn debygol o ddioddef niwed sylweddol.
Mae Gorchymyn Goruchwyliaeth yn orchymyn y llys sydd yn rhoi dyletswydd ar awdurdod lleol i gynghori, cynorthwyo a dod yn ffrindiau gyda’r teulu. Mae’r sail ar gyfer gwneud Gorchymyn Goruchwyliaeth yn debyg i’r un ar gyfer gwneud Gorchymyn Gofal; hynny yw, fod y plentyn wedi dioddef, neu fod risg iddo ddioddef niwed sylweddol.
Fodd bynnag, y gwahaniaeth tyngedfennol yw nad yw Gorchymyn Goruchwyliaeth yn rhoi cyfrifoldeb rhiant i’r awdurdod lleol, ac o dan Gorchymyn Goruchwyliaeth bydd plentyn yn parhau i fyw gyda’i rieni neu ei deulu gyda chefnogaeth gan yr awdurdod lleol i ddelio gydag unrhyw bryderon.
Fel arfer, byddwch. O dan Rhan 34 o’r Ddeddf Blant, mae gan awdurdod lleol y dyletswydd i hyrwyddo cyswllt rhesymol rhwng plant mewn gofal a’u rhieni, teulu neu unrhyw berson perthnasol arall. Os yw’r awdurdod lleol o’r farn nad yw cyswllt y peth gorau i’r plentyn, mae modd iddynt beidio caniatau cyswllt am hyd at 7 niwrnod ond byddai’n rhaid iddynt wedyn wneud cais am Orchymyn Llys i ganiatau iddynt wrthod cyswllt am gyfnod hirach. Byddai’r llys yn ystyriad y risgiau ac yn gwneud penderfyniad gyda lles y plentyn fel yr ystyriaeth pennaf.
Gall yr awdurdod lleol ond cymryd eich plentyn gydag awdurdod y llys neu gyda chaniatad y rhieni. Gall yr heddlu gymryd y plentyn mewn sefyllfa o argyfwng o dan Gorchymyn Gwarchod yr Heddlu, sydd ond yn parhau am 72 awr. Mewn argyfwng, gall yr awdurdod lleol wneud cais am Orchymyn Gwarchod Brys (am 7 niwrnod yn unig i gychwyn) neu Gorchymyn Gofal Interim (fyddai’n parhau trwy gydol yr achos llys, fel arfer hyd at 26 wythnos).
Pan ddaw y mater o flaen y llys, gellir gwneud cyfeiriadau ar gyfer gwaith ac ymchwiliadau sydd eu hangen i weld a ellir dychwelyd y plentyn yn ddiogel i’w rieni neu aelodau o’i deulu. Mae gan bob plentyn yr hawl i gael gofal ei rieni neu ei deulu cyn belled â bo hyn yn ddiogel ac er lles y plentyn, a byddwch yn cael eich asesu drwy gydol unrhyw broses llys i weld a fedr eich plentyn gael ei ddychwelyd yn ddiogel i’ch gofal. Mae’r penderfyniad eithaf yn nwylo’r llys.
Fel rhan o broses y llys, dylai’r awdurdod lleol asesu nid yn unig y rhieni, ond hefyd aelodau o’r teulu neu pobl cysylltiedig i weld a ellir gosod y plentyn yn eu gofal hwy yn hytrach na gyda rhieni maeth. Byddai defnyddio rhieni maeth yn eithriad.
Fodd bynnag, tra bo asesiadau yn medru cael eu gwneud cy nachos llys os yw’r awdurdod lleol wedi bod yn delio am sbel, mewn sefyllfa argyfwng efallai na fyddai’n bosib rhoi’r plentyn yn ofal y teulu yn sydd, ond bydd rhaid cael asesiad o’r aelod hwnnw o’r teulu gyntaf. Gal asesiad fel hyn ddigwydd yn gyflym ble bo’r angen.
Term cyfreithiol yw Gwarcheidwad am berson a apwyntir gan y llys fydd yn cynrychioli’r plentyn. Byddant yn apwyntio cyfreithiwr, a bydd y cyfreithiwr yn cynrychioli eich plentyn drwy ddilyn cyfarwyddiadau’r Gwarcheidwad, fel arfer. Maent yn annibynnol o’r awdurdod lleol a byddant yn cynghori a chynorthwyo’r llys ynghylch beth y byddant yn ystyried fydd orau i’ch plentyn.
Ni fydd gan y Gwarcheidwad gyfrifoldeb rhiant ac ni fyddant yn edrych ar ôl y plentyn. Maent yn gweithio i sefydliad a elwir yn CAFCASS neu CAFCASS Cymru, a byddant yn siarad gyda chi neu ymweld â chi, y plentyn, a chael sgwrs gyda’r gweithwyr cymdeithasol a phobl broffesiynol eraill pan yn paratoi adroddiad i’r llys yn datgan eu barn.
Mae’n bwysig iawn eich bod yn hyrwyddo gwaith y Gwarcheidwad achos bydd eu barn nhw yn bwysig iawn ac mae’n dyngedfennol i chi weithio’n onest ac agored gyda nhw.