Celebrating 200 Years of Trusted, Expert Advice

Dispute Resolution Agency Services for Solicitors

Cysylltwch â Ni

Am fwy o wybodaeth am ein gwasanaethau Cyfarwyddiadau Asiant ar gyfer Datrys Anghydfodau

Cysylltwch â’n Tîm

Efallai y bydd amser pryd y bydd angen i’ch cleient fynd o flaen llys yn LLys Sirol Wrecsam neu Llys Sirol Caer a bydd yn llai o gost i chi roi cyfarwyddiadau i gyfreithiwr lleol i weithredu fel asiant ar eich rhan.  Gall hyn fod oherwydd lleoliad eich swyddfa, lleoliad y cleient, neu hyd y gwrandawiad.

Rydym ni yn Allington Hughes yn gweithredu fel asiant yn rheolaidd ar ran cyfreithwyr eraill.  Os ydych yn credu y gallwn eich cynorthwyo, gallwn ystyried natur a hyd y gwrandawiad, y gwaith papur perthnasol a faint o waith fyddai’n debygol angen ei wneud a gallwn roi amcangyfrif costau rhesymol i chi.

Oherwydd lleoliad ein swyddfeydd yn Wrecsam a Gaer, gall ein hadran ymgyfreithio yn y naill swyddfa eich cynorthwyo drwy weithredu fel eich asiant.  Mae gan ein Hadran Datrys Anghydfod brofiad helaeth dros nifer o flynyddoedd yn cynorthwyo cleientydd i ddatrys ystod eang o anghydfodau.  Gallwn drafod gyda chi y lefel o gyfreithiwr sydd ei angen ar gyfer y math o wrandawiad a dylech fod yn ffyddiog y gwnawn ein gorau glas i gynrychioli eich cleient mewn modd a fyddai’n gweddu i’r math o wasanaeth yr ydynt wedi arfer ei dderbyn gennych chi.

Sut Gallwn Eich Cynorthwyo

Llys

Llys Sirol Wrecsam

Cymorth asiantaeth gan gyfreithiwr lleol ar gyfer gwrandawiadau yn Llys Sirol Wrecsam.

Llys

Llys Sirol Caer

Cymorth asiantaeth gan gyfreithiwr lleol ar gyfer gwrandawiadau yn Llys Sirol Caer.

Costau

Amcangyfrif Rhesymol

Os ydych yn credu y gallwn eich cynorthwyo, gallwn ystyried natur a hyd y gwrandawiad, y gwaith papur perthnasol a faint o waith fyddai’n debygol angen ei wneud a gallwn roi amcangyfrif costau rhesymol i chi.

Cymorth

Adran Ymgyfreithio Brofiadol

Oherwydd lleoliad ein swyddfeydd yn Wrecsam a Gaer, gall ein hadran ymgyfreithio yn y naill swyddfa eich cynorthwyo drwy weithredu fel eich asiant.

Cysylltu

Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda Gwenno Price-Jones ar gwenno@allingtonhughes.co.uk neu ar 01492 641222.

Ein Harbenigwyr Datrys Anghydfodau Masnachol

Mae ein hadran Datrys Anghydfodau Masnachol yn cynnwys arbenigwyr ymroddedig sydd wedi ymrwymo i ddarparu cymorth cyfreithiol arbenigol.

Cysylltwch ag Allington Hughes Law

Cysylltwch â ni heddiw i weld sut y gallwn helpu!

Gallwch gysylltu ag Allington Hughes gydag unrhyw ymholiadau neu gwestiynau cyfreithiol drwy ffonio neu e-bostio ein swyddfeydd. Byddwn yn gwneud ein gorau i gynnig cyngor clir gan un o aelodau cymwys a phrofiadol ein tîm cyfreithiol.

Sylwch nad yw e-bost yn ffordd ddiogel o gyfathrebu, ac ni allwn warantu y byddwn yn derbyn eich e-bost. Mae gennym system hidlo ar waith, ac os yw eich neges yn frys, rydym bob amser yn argymell eich bod yn dilyn hynny gyda galwad ffôn.

Wrexham - 01978 291000
Chester - 01244 312166
Llanrwst - 01492 641222
Contact Form
Safety Exit