Celebrating 200 Years of Trusted, Expert Advice

Cytundebau cyn ac ar ôl priodas

Cysylltwch â Ni

Am ragor o wybodaeth am ein gwasanaethau Cyfraith Teulu.

Cysylltwch â'n Tîm

Efallai y bydd cyplau yn ystyried sut i warchod eu hasedau cyn-briodasol petai tor-priodas yn digwydd, yn enwedig ble fo ganddynt blant o berthynas cynt. Os ydych berchen eich cartref eich hun, yn rhedeg busnes teuluol, wedi etifeddu asedau neu wedi adeiladu pensiwn, gall ein arbenigwyr siarad gyda chi am fanteision cytundebau priodasol a sut y gallant eich cynorthwyo chi a’ch teulu pan yn trafod rhanu asedau priodasol.

Dylid cwblhau cytundeb cyn priodas o leiaf 28 niwrnod cyn y briodas. Dylid gwneud cytundebau ar ôl priodas mor fuan ag y bo modd wedi i’r briodas gael ei chynnal.

Nid yw cytundeb cyn priodas yn gyfreithiol ddiogel yn awtomatig yng Nghymru a Lloegr, gall llys gadarnhau ei bod yn ddilys os yn cydymffurfio gyda gofynion arbennig.

Gallwch ddiweddaru eich cytundeb yn ddiweddarach, fodd bynnag mae’n rhaid i’r ddau ohonoch gytuno i’r newidiadau, dylech eich dau fod wedi gwneud datgeliad llawn o’ch arian a’ch asedau i’r llall a dylech eich dau gael cyngor cyfreithiol annibynnol. Gallwn eich cynorthwyo i ddeall beth a olyga unrhyw newid a gynigir i wneud yn siwr fod y cytundeb yn deg ac y gellid cael ei gymeradwyo gan y llys.

Anghydfodau ynghylch plant

Gall problemau ynghylch plant godi am amryw o resymau mewn sawl cyfnod o fywyd plentyn. Gall hyn gynnwys rhieni. llys-rieni, neiniau a theidiau, gwarcheidwad arbennig, brodyr a chwiorydd ac aelodau eraill o’r teulu.

Gallwn eich cynorthwyo gydag ystod eang o broblemau, yn cynnwys:

  • Cytundebau Trefniadau Plant (byw gyda a gwario amser gyda)
  • Gorchymyn Gwahardd Camau Penodol
  • Gorchymyn Delio Gyda Mater Penodol
  • Gorchymyn Cyfrifoldeb Rhiant
  • Cyngor ar gyfer neiniau a theidiau

Cyfeirid at orchmynion o’r fath yn hanesyddol fel gorchmynion “byw gyda” neu cystodaeth plant. Mae’r rhain bellach wedi eu newid i Orchmynion Trefniadau Plant. Gellir gwneud Gorchymyn Trefniadau Plant yn cadarnhau ble y mae plentyn yn byw a pha mor hir mae’n dreulio gyda’r rhiant arall.

Pwynt cychwyn y trefniadau ar gyfer unrhyw blentyn yw ei bod yn bwysig iawn i blentyn gael perthynas gyda’i ddau riant, cyn belled â bo hyn yn ddiogel. Mewn nifer o sefyllfaoedd, bydd yn rhaid ystyried diogelwch y plentyn a bydd yn rhaid i’r llys benderfynu os yw unrhyw ofid a gyflwynir yn ddigon i wahardd perthynas.

Y cam cyntaf yw ceisio datrys y mater heb fod angen i’r llys ymyrryd. Mae nifer o ffyrdd y gall anghydfodau gael eu datrys heb fo angen cyfeiriad at y llys. Gall hyn gynnwys trafod materion yn gyfeillgar gyda’r rhiant arall, gyrru llythyrau ffurfiol drwy gyfreithwyr, neu gyfryngu. Bydd y cam mwyaf addas i gychwyn yn ddibynnol ar ffeithiau’r achos penodol.

Os nad yw’n bosib datrys materion y tu allan i’r llys, efallai y bydd yn rhaid gwneud cais i’r llys am Orchymyn Trefniadau Plant i chi dreulio amser gyda’ch plentyn/plant.

Cyfrifoldeb rhiant yw yr hawliau, cyfrifoldebau a phwerau sydd gan rhiant ynghylch ei blentyn. Gall pobl sydd gyda cyfrifoldeb rhiant am blentyn wneud penderfyniadau pwysig am eu bywydau, gan gynnwys pa ysgol y byddant yn ei mynychu, a ddylid newid eu henw, pa driniaeth feddygol y dylent ei dderbyn a pha grefydd y dylent ei ddilyn.

Os ydych wedi gwneud cais i’r llys, dylech ddisgwyl cyswllt gan CAFCASS neu CAFCASS Cymru. Mae CAFCASS yn gwarchod hawliau plant mewn materion llys teulu. Maent yn annibynnol o’r llys a Gwasanaethau Cymdeithasol ac maent yn cynghori’r llys ynghylch beth yr ydynt yn ei ystyried i fod orau i’ch plant.

Mewn materion plant preifat, efallai y bydd CAFCASS yn cysylltu gyda chi wedi i chi wneud eich cais er mwyn paratoi Adroddiad Gwarchod/Adroddiad Effaith ar Blant. Golyga hyn neu bod yn casglu gwybodaeth am eich sefyllfa bresennol a’ch pryderon sydd wedi arwain at i chi wneud eich cais. Mae’n bwysig eich bod yn cyflenwi CAFCASS gyda gwybodaeth glir ac onest am amgylchiadau eich plentyn ac unrhyw bryderon sydd gennych.

Cymorth Cyfreithiol (Legal Aid)

Mae Cymorth Cyfreithiol ar gael mewn rhai materion teuluol os ydych yn gymwys. Mae’r anghenion yn dibynnu ar y mater.

Gallwn asesu a fyddech yn derbyn Cymorth Cyfreithiol yn sydyn i gadarnhau a fyddech yn ei dderbyn.

Cysylltwch gyda ni ar 01978 291000 i weld a ydych yn medru cael Cymorth Cyfreithiol.

Ein Harbenigwyr Cyfraith Teulu

Mae ein hadran Cyfraith Teulu yn cynnwys arbenigwyr ymroddedig sydd wedi ymrwymo i ddarparu cymorth cyfreithiol arbenigol a sensitif.

Cysylltwch ag Allington Hughes Law

Cysylltwch â ni heddiw i weld sut y gallwn helpu!

Gallwch gysylltu ag Allington Hughes gydag unrhyw ymholiadau neu gwestiynau cyfreithiol drwy ffonio neu e-bostio ein swyddfeydd. Byddwn yn gwneud ein gorau i gynnig cyngor clir gan un o aelodau cymwys a phrofiadol ein tîm cyfreithiol.

Sylwch nad yw e-bost yn ffordd ddiogel o gyfathrebu, ac ni allwn warantu y byddwn yn derbyn eich e-bost. Mae gennym system hidlo ar waith, ac os yw eich neges yn frys, rydym bob amser yn argymell eich bod yn dilyn hynny gyda galwad ffôn.

Wrexham - 01978 291000
Chester - 01244 312166
Llanrwst - 01492 641222
Contact Form
Safety Exit