Celebrating 200 Years of Trusted, Expert Advice

Gorchmynion Gwarcheidwaeth Arbennig

Cysylltwch â Ni

Am ragor o wybodaeth am ein gwasanaethau Gorchmynion Gwarcheidwaeth Arbennig.

Cysylltwch â'n Tîm

Weithiiau bydd plant yn byw gyda rhywun sydd ddim yn rieni iddynt am nifer o resymau. Er mwyn sicrhau fod gan eu gofalwyr yr awdurdod i wneud penderfyniadau ynghylch defnyddio eu cyfrifoldeb rhiant o ddydd i ddydd, efallai bydd gorchymyn llys ei angen, ac ar gyfer trefniant parhaol, bydd angen ystyried Gorchymyn Gwarchidwaeth Arbennig.

Gorchmynion Gwarcheidwaeth Arbennig

Mae Gorchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig yn orchymyn sydd i fod yn orchymyn parhaol, cam o dan mabwysiadaeth. Mae yn rhoi cfrifoldeb rhiant gwarcheidwaeth arbennig i chi dros y plentyn. Tra nad yw’n diddymu Cyfrifoldeb Rhiant y rhieni, mae yn caniatau i’r Gwarcheidwad Arbennig wneud penderfyniadau o ddydd i ddydd ac yn eu galluogi i oruwchreoli eraill sydd gyda cyfrifoldeb rhiant ar y rhan fwyaf o faterion sydd yn ymwneud â lles y plentyn.

Gallwch wneud cais am Orchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig ar gyfer plentyn os:

Ydych chi’n barod yn warcheidwad cyfreithiol y plentyn (er enghraifft ble yr ydych wedi cael eich penodi’n warcheidwad o dan ewyllys rhiant sydd wedi marw)

Mae’r plentyn yn byw gyda chi yn barod o dan Gorchymyn Trefniadau Plant

Mae’r plentyn wedi byw gyda chi am 3 o’r 5 mlynedd diwethaf os nad oes perthynas rhyngoch

Rydych chi’n aelod o deulu’r plentyn neu’n riant maeth, ac mae’r plentyn wedi bod yn byw gyda chi am o leiaf blwyddyn

Mae pawb sydd gyda cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn cytuno

Mae’r plentyn yng ngofal yr awdurdod lleol, ac maen nhw’n cytuno i chi wneud cais am Orchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig.

Os nad oes un o’r uchod yn gymwys, bydd yn rhaid i chi ofyn am ganiatad y llys i wneud cais am Orchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig. Adwaenir hyn fel cais “yn ymofyn hawl i wneud cais”, a gallwn eich cynghori ar rinwedd eich cais.

Mae hyn yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Os yw pawb sydd gyda cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn gytun, gall gostio oddeutu £1,800 i £2,400 gan gynnwys TAW. Os, fodd bynnag, mae unrhyw anghytuno gydag unrhyw rhiant sydd gyda chyfrifoldeb rhiant, byddai’n rhaid i chi fedru talu tua £5,000 yn ogystal âffioedd y llys, TAW ac unrhyw wariannau pellach. Gallwn roi gwell syniad o ffioedd i chi yn dibynnu ar ffeithiau eich mater ac unrhyw dystiolaeth pellach neu asesiadau fydd eu hangen. Mewn rhai sefyllfaoedd, gallwch fod yn deilwng i dderbyn Cymorth Cyfreithiol (Legal Aid) ac mewn rhai amgylchiadau prin, gall awdurdodau lleol fod yn fodlon cynorthwyo gyda’ch ffioedd.

Os nad oes un o’r uchod yn gymwys, bydd yn rhaid i chi ofyn am ganiatad y llys i wneud cais am Orchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig. Adwaenir hyn fel cais “yn ymofyn hawl i wneud cais”, a gallwn eich cynghori ar rinwedd eich cais.

Ein Harbenigwyr Cyfraith Teulu

Mae ein hadran Gorchmynion Gwarcheidwaeth Arbennig yn cynnwys arbenigwyr ymroddedig sydd wedi ymrwymo i ddarparu cymorth cyfreithiol clir, sensitif ac ymarferol.

Cysylltwch ag Allington Hughes Law

Cysylltwch â ni heddiw i weld sut y gallwn helpu!

Gallwch gysylltu ag Allington Hughes gydag unrhyw ymholiadau neu gwestiynau cyfreithiol drwy ffonio neu e-bostio ein swyddfeydd. Byddwn yn gwneud ein gorau i gynnig cyngor clir gan un o aelodau cymwys a phrofiadol ein tîm cyfreithiol.

Sylwch nad yw e-bost yn ffordd ddiogel o gyfathrebu, ac ni allwn warantu y byddwn yn derbyn eich e-bost. Mae gennym system hidlo ar waith, ac os yw eich neges yn frys, rydym bob amser yn argymell eich bod yn dilyn hynny gyda galwad ffôn.

Wrexham - 01978 291000
Chester - 01244 312166
Llanrwst - 01492 641222
Contact Form
Safety Exit