Cysylltwch â Ni
Am ragor o wybodaeth am ein gwasanaethau Ochr Ariannol Ysgariad neu Wahanu.
Cysylltwch â'n TîmOchr ariannol Ysgariad neu wahanu
Mae delio gyda’ch arian yn Dilyn tor-priodas neu diwedd perthynas yn aml yn gymhleth ac yn achosi straen. Gallwn ni gynnig cyngor arbenigol i chi i warchod eich asedau nawr ac i’ch dyfodol.
Bydd hawliadau ariannol yn deillio o gais llys ar ysgaru/diddymu partneriaeth sifil yn dibynnu ar yr asedau a gall gynnwys eiddo, costau cynhaliaeth rhwng parau priod, lwmp-swm a gorchmynion rhannu pensiwn. Mae datgelu ariannol llawn yn ofynnol gan y ddau berson er mwyn cynghori ymhellach.
Mae’r penderfyniad a gewch aros yn eich cartref, os nad oes cytundeb rhyngoch yn barod, yn dibynnu ar nifer o wahanol ffactorau yn cynnwys a oes gennych blant sydd yn ddibynnol arnoch ac arian. Mae gan y ddau berson briod yr hawl i aros yn y cartref hyd nes bod setliad ariannol wedi ei gytuno neu bod gorchymyn llys wedi ei wneud.
Bydd pensiynau yn cael eu hystyried fel ased priodasol fel rhan o’ch ysgariad ac felly mae tebygolrwydd iddo gael ei rannu rhwng y ddau ohonoch. Gallwn eich cynghori ymhellach ynghylch beth sydd gennych hawl iddo o ran pensiynau a’ch cynorthwyo i gytuno setliad.
Mae cynhaliaeth parau priod yn ffurf o gymorth ariannol a’i fwriad yw llenwi’r twll rhwng parau priod sydd yn gwahanu. Mae hyn yn digwydd mewn achosion lle ei bod yn glir fod gwahaniaeth incwm amlwg neu y gallu i ennill cyflog i’r dyfodol. Bydd yn rhaid i chi wneud cais am hwn, nid yw’n digwydd yn awtomatig, a bydd eich llwyddiant yn ddibynnol ar nifer o ffactorau. Gallwn eich cynghori ynghylch hyn a rhoi eich siawns llwyddiant i chi.
Gallwch, mi allwch gytuno sut i rannu eich asedau rhyngoch neu gallwch gyfryngu. Byddai hyn yn golygu na fyddai angen mynd i’r llys. Bydd y cytundeb yn cael ei gyfeirio ato fel “setliad” a gellir ei wneud yn ffurfiol drwy Orchymyn Cytundeb.
Mae hwn yn orchymyn llys sydd yn gofnod ffurfiol o’ch trafniadau ariannol tra yn ysgaru. Golyga na all unrhyw un ohonoch ymofyn mwy o arian i’r dyfodol. Bydd hyn yn rhoi sicrwydd i chi ar gyfer eich dyfodol ariannol.
Petai unrhyw barti i orchymyn ariannol yn gwrthod cydymffurfio gyda’r gorchymyn, gall arwain at ddyfarniad o ddirmyg llys. Gall y llys wedyn osod dirwy neu fesurau gorfodaeth fel atafaelu enillion, gorchmynion arwystlo neu orchmynion dyled trydydd parti i gael yr arian dyledus yn ôl. Os yw’r llys wedi gorchymyn gwerthiant yr eiddo ac os yw eich cyn-gymar yn gwrthod cydweithredu, gall y llys weithiau wneud gorchymyn i’r gwerthiant fynd rhagddo ac mewn rhai achosion gall y llys arwyddo’r dogfennau cytundeb. Gall ein tîm eich cynghori ar y modd cywir i orfodi’r ochr arall i gydymffurfio.
Cymorth Cyfreithiol (Legal Aid)
Mae Cymorth Cyfreithiol ar gael mewn rhai materion teuluol os ydych yn gymwys. Mae’r anghenion yn dibynnu ar y mater.
Gallwn asesu a fyddech yn derbyn Cymorth Cyfreithiol yn sydyn i gadarnhau a fyddech yn ei dderbyn.
Cysylltwch gyda ni ar 01978 291000 i weld a ydych yn medru cael Cymorth Cyfreithiol.
Ein Harbenigwyr Ochr Ariannol Ysgariad neu Wahanu
Mae ein harbenigwyr ymroddedig mewn materion ariannol sy'n ymwneud ag ysgariad neu wahanu yma i'ch helpu i warchod eich asedau nawr ac ar gyfer y dyfodol.