Celebrating 200 Years of Trusted, Expert Advice

Cytundebau Cyd-fyw/Perthnasau di-briod yn torri i lawr

Cysylltwch â Ni

Am fwy o wybodaeth am ein gwasanaethau Cytundebau Cyd-fyw/Perthnasau di-briod yn torri i lawr

Cysylltwch â’n Tîm

Os nad ydych wedi priodi, mae’r ffordd y dylech warchod eich eiddo ariannol yn wahanol i’r ffordd y bydd cwpl priod yn gwneud hynny. Mae’r asedau y gellir eu rhannu hefyd yn wahanol. Os ydych yn cychwyn pennod newydd drwy fyw gyda’ch partner, neu yn gwahanu oddi wrth eich cyn bartner, rydym ni yma i gynorthwyo.

Os oeddech yn ddi-briod yna bydd unrhyw hawliad yn erbyn eich cyn bartner yn dibynnu ar sut yr ydych berchen yr eiddo, ac a gawsoch chi unrhyw blant. Gallwn gynnig cyngor wedi ei deilwra ar eich cyfer a’ch cynghori ar yr opsiynau sydd ar gael i chi.

Nid oes ffasiwn beth â phriodas cyfraith gyffredin yng Nghymru a Lloegr. Er mwyn i chi gael eich gwarchod yn gyfreithiol os yw’r berthynas yn torri i lawr, byddai’n rhaid i chi fod wedi priodi yn gyfreithiol/bod wedi cofrestru partneriaeth gyfreithiol er mwyn cael hawliau cyfreithiol a dyletswyddau tuag at y naill a’r llall.

Mae cytundeb cyd-fyw yn gytundeb sydd yn gosod allan beth mae pob person yn berchen ac i ba raddfa, cyfraniad a chyfrifoldebau ariannol y nail tuag at y llall yn ystod y cyfnod o gyd-fyw a’ch bwriad sut y dylid ddelio gyda materion petai’r berthynas yn torri i lawr. Er mwyn iddo fod yn bosib ei orfodi, mae’n rhaid i’r cytundeb fod wedi ei wneud gyda phob partner yn gytun, mae’n rhaid iddo gael ei arwyddo gan y ddau berson, dylid cael tyst i bob llofnod a dyddiad a dylid ei arolygu yn rheolaidd.

Cymorth Cyfreithiol

Mae Cymorth Cyfreithiol yn dal ar gael mewn achosion teulu os ydych yn bodloni meini prawf penodol. Bydd y meini prawf i’w cymhwyso yn dibynnu ar y math o achos rydych yn ymwneud ag ef.

Gallwn asesu eich cymhwysedd yn brydlon i gadarnhau a fyddwch yn gymwys i gael cyllid.

Cysylltwch â’n tîm ar 01978 291000 er mwyn i ni gadarnhau a ydych yn gymwys.

Ein Harbenigwyr Cyfraith Teulu

Mae ein hadran Cytundebau Cyd-fyw/Perthnasau di-briod yn torri i lawr yn cynnwys arbenigwyr ymroddedig sydd wedi ymrwymo i helpu cyplau di-briod i warchod eu hasedau ariannol a delio â gwahanu.

Get In Touch With Allington Hughes Law

Contact us today to see how we can help!

You may contact Allington Hughes with any legal queries or questions by calling or emailing our offices. We will endeavour to offer you straightforward advice from one of our fully qualified and experienced legal team.

Please note that e-mails are a non-secure method of communicating and we cannot guarantee that your e-mail will be received by us. We do have a filtering system in place, and would always recommend that if your e-mail is urgent, that you follow it up by telephone.

Wrexham - 01978 291000
Chester - 01244 312166
Llanwrst - 01492 641222
Contact Form
Safety Exit