Celebrating 200 Years of Trusted, Expert Advice

Datrys Anghydfod

Cysylltwch â Ni

Am fwy o wybodaeth am ein gwasanaethau Datrys Anghydfod

Cysylltwch â’n Tîm

Mae gan ein hadran Datrys Anghydfod brofiad helaeth dros flynyddoedd lawer yn cynorthwyo cleientydd i ddatrys nifer fawr o anghydfodau. Byddwn yn eich cynghori mewn ffordd ddidwyll ac yn gwneud yn siwr eich bod yn ymwybodol o ble yr ydym yn eich achos yn ogystal â chost debygol eich achos drwy gydol y mater. Byddwn yn eich cynghori pryd fo hynny’n berthnasol, tra’n sicrhau eich bod chi’n cadw rheolaeth o’ch achos trwy gydol yr amser.

Rydym yn gweithredu ar ran cleientydd preifat a rhai masnachol ac rydym yn arbenigwyr mewn darganfod y canlyniad gorau i’ch anghydfod. Mae gennym brofiad helaeth o gynrychioli cleientydd yn y llys a phrofiad mewn drafftio’r papurau llys angenrheidiol i gyflwyno eich achos yn y modd mwyaf effeithiol o flaen y llys. Rydym hefyd yn ymwybodol o’r fantais i’n cleientydd o’r defnydd o ffyrdd amgen o ddatrys anghydfodau, fel cyfryngu a chyflafareiddu. Mae llysoedd yn disgwyl i gyfreithwyr hyrwyddo y dulliau hyn, ac rydym ni yn gwneud hynny yn ddi-lol ac yn di-dor. Buasem yn hapus eich cynghori ar ddulliau fel hyn ar bob cyfnod addas yn ystod yr achos er mwyn gwneud yn siwr ein bod yn delio gyda’ch achos yn y ffordd mwyaf effeithiol â sy’n bosib o ran cost ac amser.

I weld y cymorth datrys anghydfodau y gallwn ei gynnig i gleientydd preifat, cliciwch yma.

Gall ein hadran Datrys Anghydfod weithredu fel asiant ar ran cyfreithwyr eraill sydd gyda gwrandawiadau yn llysoedd sirol Wrecsam a Chaer. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

Rydym yn cynghori ar ystod eang o gontractau a gallwn gynorthwyo gyda drafftio contractau ac ystyried contractau a ddrafftiwyd gan eraill. Pan gyfyd anghydfod, gallwn eich cynorthwyo i drafod dehongliad telerau cytundeb a dilysrwydd yr amryw gymalau. Rydym yn cynghori ynghylch cyfryngu a dulliau eraill o ddatrys anghydfodau mewn dulliau amgen. Gallwn hefyd gynghori ar broses y llysoedd petai yn rhaid cyflwyno cais i’r llys er mwyn datrys yr anghydfod.

Gallwn eich cynorthwyo gyda hawliad yn erbyn person proffesiynol lle bo ei waith wedi disgyn o dan y safon a ddisgwylir ac o ganlyniad yr ydych wedi dioddef colled. Gall hyn gynnwys cyfreithwyr, cyfrifwyr, syrfewyr ac unrhyw berson proffesiynol a gyflogir gennych lle bo’u gwasanaeth wedi bod yn annerbyniol yn eich barn chi. Byddwn yn ymchwilio’r gwyn yn erbyn y person proffesiynol ac yn eich cynghori am y ffordd ymlaen gyda llythyr hawliad, dulliau datrys anghydfod amgen ble mae hynny’n addas ac achosion llys pan fo angen.

Weithiau bydd y berthynad rhwng unigolion sydd yn dechrau busnes gyda’i gilydd yn torri i lawr ac mae angen cyngor ar sut y dylech dynnu eich hunain o’r sefyllfa ar y termau mwyaf ffafriol i chi a heb achosi niwed i unrhyw fenter busnes yn y dyfodol. Mae gennym yr arbenigaeth i’ch cynghori yn yn fanwl o ran hyn ac i gyflwyno gwasanaeth llawn i gynnwys drwy’r llys ble fo hynny’n angenrheidiol.

Mae gennym nifer o flynyddoedd o brofiad rhyngom i’n galluogi i’ch cefnogi ynghylch unrhyw hawliad yr hoffech ei gyflwyno neu unrhyw hawliad yr ydych yn ei wynebu. Mae’n dyngedfennol eich bod yn cyflwyno unrhyw anghydfod i’ch cyfreithiwr yn fuan i’n galluogi i’ch cynghori, gobeithio wedyn fod modd cyrraedd cytundeb drwy drafodaeth. Byddwn yn eich cynghori ynghylch costau unrhyw waith fydd angen ei wneud ac yn gweithredu ar eich rhan wedi i chi gael amser i ystyried y cyngor manwl y byddwn yn ei roi i chi.

Mae cwmniau, partneriaethau a masnachwyr annibynnol yn aml yn wynebu cwsmeriaid sydd ddim yn fodlon talu am y gwasanaeth a gawson nhw. Gallwn ddelio gyda materion o’r fath mewn ffordd effeithiol a sydyn gan eich gadael chi’n rhydd i wneud beth yr ydych yn ei wneud orau – rhedeg eich busnes.

I weld ein prisiau am ddelio gyda materion dyled diamheuol cliciwch yma.

Mae anghydfodau o’r math yma yn aml yn cynnwys ystyriaethau cymhleth o gwantwm a manylder technegol. Mae gennym y profiad i’ch cynghori yn llawn o ddechrau anghydfod o’r math hwn.

Ein Harbenigwyr Datrys Anghydfod

Mae ein hadran Datrys Anghydfod yn cynnwys arbenigwyr ymroddedig sydd wedi ymrwymo i ddarparu cyngor a chymorth didwyll gydag ystod eang o anghydfodau.

Cysylltwch ag Allington Hughes Law

Cysylltwch â ni heddiw i weld sut y gallwn helpu!

Gallwch gysylltu ag Allington Hughes gydag unrhyw ymholiadau neu gwestiynau cyfreithiol drwy ffonio neu e-bostio ein swyddfeydd. Byddwn yn gwneud ein gorau i gynnig cyngor clir gan un o aelodau cymwys a phrofiadol ein tîm cyfreithiol.

Sylwch nad yw e-bost yn ffordd ddiogel o gyfathrebu, ac ni allwn warantu y byddwn yn derbyn eich e-bost. Mae gennym system hidlo ar waith, ac os yw eich neges yn frys, rydym bob amser yn argymell eich bod yn dilyn hynny gyda galwad ffôn.

Wrexham - 01978 291000
Chester - 01244 312166
Llanrwst - 01492 641222
Contact Form
Safety Exit