Nawr eich bod wedi rhoi cyfarwyddiadau i ni, beth sy'n digwydd nesaf? Cymerwch olwg ar y canllaw cam wrth gam isod
-
Cynghori eich Gwerthwr Tai eich bod wedi ein cyfarwyddo i weithredu ar eich rhan. Dim yn gwerthu gydag Asiant? Bydd yn rhaid i chi ein cyflenwi gyda manylion y gwerthwr a'u cynrychiolydd cyfreithiol.
-
Cwblhau dogfennau cychwynnol. Byddwch yn derbyn pecyn oddi wrthym sydd yn cynnwys Termau Busnes, Holiadur Gwerthu a ffurflenni protocol.
-
Gwiriwch eich adnabyddiaeth a ffynhonnell eich arian/cyfoeth. Byddwch yn derbyn dolen drwy e-bost/neges destun.
-
Byddwn yn anfon y pecyn contract at gyfreithiwr eich prynwr.
-
Bydd cyfreithiwr y prynwr yn gyrru ymholiadau – byddwn yn gyrru y rhain ymlaen atoch. Wrth i’r prynwr dderbyn canlyniadau i’r chwiliadau a chynnig morgais gall ymholiadau pellach godi.
-
Pan fydd y prynwr yn fodlon gyda’r ymholiadau byddwn yn trefnu dyddiad cwblhau a chael datganiad adbrynu gan eich benthyciwr morgeisi.
-
Byddwn yn trefnu i chi arwyddo y Cytundeb a Gweithred Trosglwyddo.
-
Cyfnewid Contractau – bydd dyddiad penodedig cwblhau yn cael ei gytuno ac ni ellir ei newid.
-
Cwblhau yn digwydd – gwnewch yn siŵr fod gan eich Gwerthwyr Tai y goriadau.
-
Bydd unrhyw forgais sydd ar y tŷ yn cael ei ad-dalu a byddwch yn derbyn elw o’r gwerthiant.
Ein Harbenigwyr Trawsgludo Preswyl
Mae ein hadran Gwerthu yn cynnwys arbenigwyr ymroddedig sydd wedi ymrwymo i ddarparu cymorth cyfreithiol arbenigol.