Mae gan ein hadran Datrys Anghydfod brofiad helaeth dros flynyddoedd lawer yn cynorthwyo cleientydd i ddatrys nifer fawr o anghydfodau. Byddwn yn eich cynghori mewn ffordd ddidwyll ac yn gwneud yn siwr eich bod yn ymwybodol o ble yr ydym yn eich achos yn ogystal â chost debygol eich achos drwy gydol y mater. Byddwn yn eich cynghori pryd fo hynny’n berthnasol, tra’n sicrhau eich bod chi’n cadw rheolaeth o’ch achos trwy gydol yr amser.
Rydym yn gweithredu ar ran cleientydd preifat a rhai masnachol ac rydym yn arbenigwyr mewn darganfod y canlyniad gorau i’ch anghydfod. Mae gennym brofiad helaeth o gynrychioli cleientydd yn y llys a phrofiad mewn drafftio’r papurau llys angenrheidiol i gyflwyno eich achos yn y modd mwyaf effeithiol o flaen y llys. Rydym hefyd yn ymwybodol o’r fantais i’n cleientydd o’r defnydd o ffyrdd amgen o ddatrys anghydfodau, fel cyfryngu a chyflafareiddu. Mae llysoedd yn disgwyl i gyfreithwyr hyrwyddo y dulliau hyn, ac rydym ni yn gwneud hynny yn ddi-lol ac yn di-dor. Buasem yn hapus eich cynghori ar ddulliau fel hyn ar bob cyfnod addas yn ystod yr achos er mwyn gwneud yn siwr ein bod yn delio gyda’ch achos yn y ffordd mwyaf effeithiol â sy’n bosib o ran cost ac amser.
Sut Gallwn Helpu
Datrys Anghydfod
I weld y cymorth y gallwn gynnig gyda gwaith datrys anghydfodau cliciwch yma.
Gwrandawiadau yn llysoedd sirol
Gall ein hadran Datrys Anghydfod weithredu fel asiant ar ran cyfreithwyr eraill sydd gyda gwrandawiadau yn llysoedd sirol Wrecsam a Chaer. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.
Rydym yn gweithredu ar ran cleientydd preifat a rhai masnachol ac rydym yn arbenigwyr mewn darganfod y canlyniad gorau i’ch anghydfod.
Gallwn gynorthwyo gyda’r meysydd canlynol, fel enghraifft:
Materion defnyddwyr ac anghydfodau contractau; e.e. problemau gyda nwyddau neu gwasanaethau a brynwyd neu a werthwyd
Anghydfod tir a ffiniau gan gynnwys hawliau tramwy a pherchnogaeth tir
Anghydfodau landlordiau a thenantiaid.
Esgeulustod – gan gynnwys esgeulustod proffesiynol
Ansolfedd a methdaliad.
Anghydfod profiant
Casglu dyledion
Ceisiadau o dan y Ddeddf Ymddiredolaethau Tir a Phenodi Ymddiredolwyr 1996
Difenwad
Aflonyddu
Gwaith adeiladu
Gwaith Asiantaeth
Buasem yn hapus eich cynghori ar ddulliau fel hyn ar bob cyfnod addas yn ystod yr achos er mwyn gwneud yn siwr ein bod yn delio gyda’ch achos yn y ffordd mwyaf effeithiol â sy’n bosib o ran cost ac amser.
Cymorth Landlordiaid Preifat
Gyda mwy a mwy o ddeddfwriaethau yn rhoi straen ar landlordiaid preifat i gadw eu polisiau a’u gweithdrefnau mewn trefn, rydym wedi creu gwasanaeth cost sefydlog sylfaenol i ddelio gyda’ch holl anghenion. Mae bellach yn bwysicach nag erioed i wneud yn siwr eich bod yn delio gyda’ch portffolio eiddo yn y ffordd iawn, ac mae pwysigrwydd cael dogfennau a systemau aerglos yn dyngedfennol.
Gallwch e-bostio landlord@allington hughes.co.uk i gysylltu gydag aelod o’n tîm landlordiaid preifat yn uniongyrchol gydag unrhyw ymholiad.
Ein Harbenigwyr Datrys Anghydfod
Mae ein hadran Datrys Anghydfod yn cynnwys arbenigwyr ymroddedig sy’n ymrwymedig i ddarparu cymorth cyfreithiol arbenigol.