Celebrating 200 Years of Trusted, Expert Advice

Mabwysiadu

Cysylltwch â Ni

Am fwy o wybodaeth am ein gwasanaethau Mabwysiadu

Cysylltwch â’n Tîm

Gallwn gynrychioli rhieni sydd wedi cael gwybod fod cais wedi ei wneud ar gyfer mabwysiadu eu plentyn. Byddai hyn fel arfer yn dilyn cwblhau achosion llys gofal pan fo’r awdurdod lleol yn ymgymryd gyda’r mater. Mae gennym arbenigedd mewn materion plant sydd yn cynnwys yr awdurdod lleol a gall fod arian cymorth cyfreithiol (Legal Aid) ar gael i’ch cynorthwyo.

Gallwch hefyd ymofyn cyngor tra fo’r mater yn mynd rhagddo os ydych yn mynd drwy’r broses o fabwysiadu plentyn drwy’r awdurdod lleol neu asiantaeth. Mewn rhai amgylchiadau, efallai bydd yn rhaid i chi wneud cais am fabwysiadu heb asisantaeth ar gyfer plentyn penodol. Gallwn eich cynghori neu eich cynrychioli yn y maes hwn o’r gyfraith.

Gorchmynion Mabwysiadu

Mae Gorchymyn Mabwysiadu yn orchymyn y llys sydd yn dirwyn i ben cyfrifoldeb rhiant rhieni genedigol y plentyn, ac yn apwyntio y mabwysiadwyr fel rhieni cyfreithiol y plentyn. Bydd y mabwysiadwyr wedyn yn cael eu hadnabod fel rhieni’r plentyn drwy’r gyfraith a gallent ddefnyddio eu cyfrifoldeb rhiant yn yr un ffordd ag y byddai rhiant geni yn ei wneud.

Fel arfer caiff gorchymyn mabwysiadu ei wneud ar gais yr awdurdod lleol ar ddiwedd achos llys gofal a lleoliad yn unig. Pan fo gorchymyn lleoliad mewn grym, mae’n rhaid i riant geni ymofyn caniatad y llys i wrthwynebu gwneud gorchymyn mabwysiadu. Mae prawf deuol sydd yn rhaid i’r llys ei ystyried pan yn penderfynu a ddylid caniatau’r cais. Yn gyntaf, a oes newid helaeth wedi bod yn sefyllfa’r rhiant ers i’r gorchymyn lleoliad gael ei wneud, ac yn ail, wedi ystyried yr holl amgylchiadau, gan ystyried lles y plentyn i fod yn brif ystyriaeth, ddylid rhoi caniatad? Bydd ail ran y prawf yn canolbwyntio ar les y plenty, siawns y rhiant o ennill ei achos a lles y plentyn drwy gydol ei fywyd/ei bywyd.

Mae Gorchymyn Lleoliad yn orchymyn sydd yn rhoi’r caniatad i awdurdod lleol gyflwyno’r plentyn i ddarpar fabwysiadwyr sydd wedi eu cymeradwyo yn barod gan yr awdurdod lleol. Y Gorchymyn Mabwysiadu yw’r gorchymyn sydd yn dod â pherthynas gyfreithiol y plentyn a’i rieni geni i ben ac yn gwneud y rhieni mabwysiedig yn rieni cyfreithiol y plentyn.

Gelwir hyn yn fabwysiadu llys-riant . Er mwyn gwneud cais, byddai’n rhaid i chi a’ch partner fod wedi cydfyw gyda’r plentyn am o leiaf 6 mis, ac mae’n rhaid i chi roi isafswm o 3 mis o rybudd i’r awdurdod lleol o’ch bwriad i wneud y cais i’w galluogi i wneud asesiad a bydd hwn yn cynorthwyo’r llys. Rhan pwysig o’r asesiad hwnnw fydd ystyried rôl y rhiant arall, oherwydd byddai gorchymyn mabwysiadu ar ran llys-riant yn tynnu i ffwrdd hawl rhiant y rhiant sydd ddim yn byw gyda’r plentyn. Os yw’r plentyn yn derbyn gofal ar draws dau aelwyd felly, byddai cais o’r fath yn anhebygol o fod yn llwyddiannus a byddai eu caniatad fel llys-riant ond yn cael ei wrthod heblaw bod y llys o’r farn fod hynny o fudd i’r plentyn.

Mae gennym arbenigedd mewn materion plant sydd yn cynnwys yr awdurdod lleol a gall fod arian cymorth cyfreithiol (Legal Aid) ar gael i’ch cynorthwyo.

Ein Harbenigwyr Cyfraith Teulu

Mae ein hadran Mabwysiadu yn cynnwys arbenigwyr ymroddedig sydd wedi ymrwymo i ddarparu cymorth cyfreithiol clir, sensitif ac ymarferol.

Get In Touch With Allington Hughes Law

Contact us today to see how we can help!

You may contact Allington Hughes with any legal queries or questions by calling or emailing our offices. We will endeavour to offer you straightforward advice from one of our fully qualified and experienced legal team.

Please note that e-mails are a non-secure method of communicating and we cannot guarantee that your e-mail will be received by us. We do have a filtering system in place, and would always recommend that if your e-mail is urgent, that you follow it up by telephone.

Wrexham - 01978 291000
Chester - 01244 312166
Llanwrst - 01492 641222
Contact Form
Safety Exit