Celebrating 200 Years of Trusted, Expert Advice

Pecynnau Cymorth Cyflogaeth ac Adnoddau Dynol

Cysylltwch â Ni

Am ragor o wybodaeth am ein Pecynnau Cymorth Cyflogaeth ac Adnoddau Dynol.

Cysylltwch â'n Tîm

Cymorth Cyfraith Cyflogaeth ac Adnoddau Dynol Hyblyg a Chost-effeithiol

Gall rheoli staff a llywio drwy gyfraith cyflogaeth fod yn gymhleth ac yn cymryd llawer o amser i unrhyw fusnes. Mae ein Pecynnau Cymorth Cyflogaeth ac Adnoddau Dynol yn cynnig ffordd hyblyg a chost-effeithiol i gyflogwyr gael cyngor cyfreithiol ac adnoddau dynol arbenigol pan fydd eu hangen arnynt. Gydag Allington Hughes Law, gallwch ddiogelu eich busnes, lleihau risg a rheoli eich gweithlu’n hyderus.

Beth yw pecynnau Cymorth Cyflogaeth ac Adnoddau Dynol?

Mae ein pecynnau wedi’u cynllunio i roi mynediad parhaus i fusnesau at gyngor proffesiynol ar gyfraith cyflogaeth ac adnoddau dynol, heb y gost o gyflogi staff mewnol. Maent yn cwmpasu meysydd megis:

  • Drafftio ac adolygu contractau cyflogaeth a pholisïau
  • Canllawiau ar weithdrefnau disgyblu, cwyno a diswyddo
  • Cymorth gyda chysylltiadau gweithwyr ac anghydfodau yn y gweithle
  • Cydymffurfio â chyfraith a rheoliadau cyflogaeth
  • Cyngor ymarferol ar reoli adnoddau dynol o ddydd i ddydd

Sut allwn helpu?

Bydd ein cyfreithwyr profiadol yn:

  • Darparu mynediad diderfyn at gyngor ar gyfraith cyflogaeth ac Adnoddau Dynol dros y ffôn, drwy e-bost neu alwad fideo
  • Drafftio ac adolygu contractau cyflogaeth, llawlyfrau a pholisïau
  • Eich cefnogi gyda chysylltiadau gweithwyr, gan gynnwys cwynion, materion disgyblu a rheoli perfformiad
  • Cynghori ar brosesau diswyddo, ailstrwythuro a therfynu cyflogaeth
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth cyflogaeth ac arferion gorau
  • Cynnig pecynnau hyblyg wedi’u teilwra i faint ac anghenion eich busnes

Ein nod yw darparu cymorth rhagweithiol, ymarferol a hygyrch i chi, fel y gallwch reoli eich gweithlu’n hyderus ac yn effeithlon.

Gallwch ddod o hyd i'r pecynnau busnes rydym yn eu cynnig isod

  • Cymorth Adnoddau Dynol – Cymorth Busnes Plws
  • Cymorth Adnoddau Dynol – Cymorth Busnes
  • Cymorth Adnoddau Dynol – Cymorth Busnes Bach
  • Cymorth Adnoddau Dynol – Pecyn dechrau

Gallwch hefyd ddod o hyd i'n tudalen ar Gefnogi Cyflogwyr gyda Materion yn y Gweithle yma

Pam dewis Allington Hughes Law?

  • Pecynnau hyblyg a chost-effeithiol sy’n addas i’ch busnes
  • Cyngor arbenigol gan gyfreithwyr profiadol ym maes cyfraith cyflogaeth ac adnoddau dynol
  • Canllawiau clir ac ymarferol wedi’u teilwra i anghenion eich busnes
  • Cymorth ledled Caer, Wrecsam, Llanrwst a’r ardaloedd cyfagos
  • Wedi’i reoleiddio gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA)

Beth mae cleientiaid yn ei ddweud

“Mae cael pecyn cymorth Adnoddau Dynol gydag Allington Hughes yn rhoi tawelwch meddwl i ni. Mae eu tîm bob amser yn ymatebol, yn wybodus ac yn ymarferol, gan wneud y gwaith o reoli Adnoddau Dynol o ddydd i ddydd yn llawer haws.”

— David R., Caer

Cwestiynau a ofynnir yn aml

A: Mae’r pecynnau yn cynnwys mynediad diderfyn i gymorth, drafftio ac adolygu polisiau, ac arweiniad ar berthnasoedd gweithwyr a materion cydymffurfio.

A: Gellir. Rydym yn cynnig pecynnau hyblyg a all gael eu teilwra ar gyfer maint, sector a gofynion y busnes.

A: Gallwch cysylltu gyda cyfreithwr drwy ffonio, gyrru e-bost neu galwad fideo am gymorth pan rydych eu angen, gan sicrhau arweiniad prydlon a phroffesiynol.

A: Yn bendant. Mae’r pecynnau’n rhoi mynediad at gyngor cyfreithiol ac adnoddau dynol arbenigol heb gost cyflogi aelod o staff llawn amser, gan gynnig gwerth rhagorol i fusnesau o bob maint.

Gadewch i ni cefnogi eich busnes

Os ydych am gael cymorth hyblyg a chost-effeithiol ym maes cyfraith cyflogaeth ac adnoddau dynol, cysylltwch ag Allington Hughes Law heddiw i drafod pecyn wedi’i deilwra i anghenion eich busnes.

Ein Harbenigwyr

Mae ein tîm Pecynnau Cymorth Cyflogaeth ac Adnoddau Dynol yn cynnwys arbenigwyr ymroddedig sydd wedi ymrwymo i ddarparu cymorth hyblyg a chost-effeithiol ym maes cyfraith cyflogaeth ac Adnoddau Dynol.

Cysylltwch ag Allington Hughes Law

Cysylltwch â ni heddiw i weld sut y gallwn helpu!

Gallwch gysylltu ag Allington Hughes gydag unrhyw ymholiadau neu gwestiynau cyfreithiol drwy ffonio neu e-bostio ein swyddfeydd. Byddwn yn gwneud ein gorau i gynnig cyngor clir gan un o aelodau cymwys a phrofiadol ein tîm cyfreithiol.

Sylwch nad yw e-bost yn ffordd ddiogel o gyfathrebu, ac ni allwn warantu y byddwn yn derbyn eich e-bost. Mae gennym system hidlo ar waith, ac os yw eich neges yn frys, rydym bob amser yn argymell eich bod yn dilyn hynny gyda galwad ffôn.

Wrexham - 01978 291000
Chester - 01244 312166
Llanrwst - 01492 641222
Contact Form
Safety Exit