Nawr eich bod wedi rhoi cyfarwyddiadau, beth sy'n digwydd nesaf? Cymerwch olwg ar y canllaw cam wrth gam isod
-
Cynghori eich Gwerthwr Tai eich bod wedi ein cyfarwyddo i weithredu ar eich rhan. Dim yn prynu gydag Asiant? Bydd yn rhaid i chi ein cyflenwi ni gyda manylion y gwerthwr a'u cynrychiolydd cyfreithiol.
-
Cwblhau dogfennau cychwynnol. Byddwch yn derbyn pecyn oddi wrthym sydd yn cynnwys Termau Busnes a Holiadur Pryniant.
-
Gwiriwch eich adnabyddiaeth a ffynhonnell eich arian/cyfoeth. Byddwch yn derbyn dolen drwy e-bost/neges destun.
-
Byddwn yn derbyn pecyn contract oddi wrth y Cyfreithiwr Gwerthiant ac yn darparu adroddiad i chi.
-
Byddwn yn gyrru ymholiadau i Gyfreithiwr y Gwerthwr ac yn gofyn i chi am arian ar gyfer chwiliadau.
-
Cyflwyno cais am chwiliadau a darparu adroddiad ar y canlyniadau.
-
Derbyn Cynnig Morgais a darparu adroddiad ar y canlyniadau.
-
Pan fyddwn yn fodlon â phob elfen o’r trafodiad, byddwn yn trefnu i chi lofnodi’r dogfennau.
-
Darparwn Ddatganiad Cwblhau i chi sy’n nodi’r arian sydd ei angen i gwblhau.
-
Trefnu dyddiad cwblhau ac yna byddwn yn gofyn am ryddhau’r taliad morgais ymlaen llaw.
-
Cyfnewid Contractau – bydd dyddiad penodedig cwblhau yn cael ei gytuno ac ni ellir ei newid.
-
Cwblhau yn digwydd – casglu’r goriadau gan y Gwerthwyr Tai.
-
Rydym yn cyflwyno Ffurflen Treth Stamp ar Dir/Treth Trafodiadau Tir ac yn gwneud y taliad.
-
Byddwn yn cofrestru eich pryniant gyda’r Gofrestrfa Tir.
-
Pan fydd y pryniant wedi'i gofrestru, byddwn yn anfon copi o'r ddogfen gwybodaeth teitl wedi'i diweddaru atoch.
Ein Harbenigwyr Trawsgludo Preswyl
Mae ein hadran Pryniant yn cynnwys arbenigwyr ymroddedig sydd wedi ymrwymo i ddarparu cymorth cyfreithiol arbenigol.