Cysylltwch â Ni
Am fwy o wybodaeth am ein gwasanaethau Ysgariad a Diddymiad Partneriaeth Sifil
Cysylltwch â’n TîmYsgariad yw’r broses gyfreithiol i ddirwyn priodas i ben. Gall dod â phriodas i ben fod yn gyfnod emosiynol felly mae gwybod pa lwybr i’w gymryd yn bwysig. Gall ein tîm profiadol roi’r cyngor cywir i chi a’ch cefnogi a’ch arwain drwy’r cyfnod anodd yma.
Rydym yn ymfalchio ein bod yn aelodau o Resolution, sydd yn ceisio datrys anghydfodau mewn ffyrdd o gydweithio yn hytrach na drwy groesdyniad.
Cwestiynau a ofynir yn aml:
Yr unig sail am ysgariad/diddymiad partneriaeth sifil, ers Ebrill 2022, yw fod y briodas wedi torri i lawr ac na ellir ei hadfer. Cyfeirir at hyn fel “dim bai”. Golyga hyn nad yw’r partion bellach angen cyflwyno rheswm pam fod eu priodas wedi torri i lawr.
Mae’r broses ysgariad yn cymryd isafswm o 26 wythnos i’w gwblhau.
O dan y system newydd “di fai”, ni all eich cymar ei gwneud yn amhosib i chi gael ysgariad. Ni all eich cymar wrthwynebu yr ysgariad, ond mewn sefyllfaoedd eithriadol. Os nad yw eich cymar yn ymateb, efallai y bydd hyn yn dal y broses yn ôl, ond ni fydd yn atal yr ysgariad rhag cael ei gwblhau. Gellir cymryd camau i roi cyfarwyddiadau i asiant i gyflwyno’r papurau yn bersonol i’ch cymar. Gall ein tîm eich cefnogi a’ch cynghori drwy gydol y broses hon i wneud yn siwr fod eich cais yn mynd rhagddo yn llyfn.
Mae’n rhaid i chi fod wedi bod yn briod am o leiaf blwyddyn ac mae’n rhaid i chi neu eich cymar fyw yng Nghymru neu Lloegr neu fod gyda chysylltiad cryf gyda’r awdurdodaeth. Bydd yn rhaid i chi ddweud fod eich priodas wedi torri i lawr am y tro olaf. Nid oes rhaid i chi gyflenwi rhesymau penodol am y tor-priodas. Gallwch wneud eich cais arlein drwy bortal ysgaru y llywodraeth.
Mae ffi y llys i gyflwyno deiseb am ysgariad/diddymiad partneriaeth sifil yn £628 ar hyn o bryd. Os ydych yn derbyn budd-daliadau neu ar incwm isel, efallai y byddwch yn gymwys am ostyngiad ffi. Mae ein ffioedd ni i’ch cynrychioli ar gyfer yr ysgariad eich hun yn £750 a TAW (20%) felly £150 yn ogystal ag unrhyw wariannau pellach a ffioedd y llys.
Os nad yw eich cymar yn gwrthwynebu eich cais am ysgariad, ac os yw yn cytuno ar bob mater fel trefniadau ar gyfer y plant a rhaniad eiddo ac arian, ni fydd yn rhaid i chi fynd i’r llys. Rydym yn deall fod mynd i’r llys yn codi ofn ar rai. Mae ein tîm ar gael i’ch cefnogi petai rhaid i chi fynd i’r llys.
Medrwch, fodd bynnag, i wneud cais am ysgariad yng Nghymru a Lloegr mae’n rhaid i chi gydymffurfio gydag ychydig o bwyntiau. Mae’n rhaid i chi fedru cyflwyno tystysgrif priodas o’r wlad lle y digwyddodd y briodas. Mae’n rhaid i’r briodas fod wedi cydymffurfio gyda rheolau priodas y wlad honno a dylech chi neu’ch cymar fyw yng Nghymru a Lloegr neu ei ystyried fel eich cartref hir-dymor. Gallwn eich cyngori a’ch arwain gam wrth gam drwy’r broses. Os nad yw’r tystysgrif priodas yn y Saesneg yna bydd yn rhaid cael cyfieithiad wedi ei baratoi gan gyfieithydd ardystiedig.
Cymorth Cyfreithiol
Mae Cymorth Cyfreithiol yn dal ar gael mewn achosion teulu os ydych yn bodloni meini prawf penodol. Bydd y meini prawf i’w cymhwyso yn dibynnu ar y math o achos rydych yn ymwneud ag ef.
Gallwn asesu eich cymhwysedd yn brydlon i gadarnhau a fyddwch yn gymwys i gael cyllid.
Cysylltwch â’n tîm ar 01978 291000 er mwyn i ni gadarnhau a ydych yn gymwys.
Ein Harbenigwyr Ysgariad a Diddymiad Partneriaeth Sifil
Mae ein hadran Ysgariad a Diddymiad Partneriaeth Sifil yn cynnwys arbenigwyr ymroddedig sydd wedi ymrwymo i ddarparu’r cyngor, y cymorth a’r arweiniad cywir.