Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol
Mae Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CCC) yn asesu dylanwad busnesau ar eu cymunedau lleol a’u hamgylchedd.
Rydym ni yn Allington Hughes Law eisiau cael effaith positif a chynaliadwy ar ein hamgylchedd, tra hefyd yn parchu ein gilydd. Rydym eisiau bod yn atebol yn gymdeithasol, yr amgylcheddol ac yn foesegol i ni ein hunain, i’n cleientydd, i’n rhanddeiliaid a’r cyhoedd. Yn Allington Hughes Law rydym yn cydnabod ein dyletswyddau cyfrifoldeb corfforaethol sydd yn cael eu hadlewyrchu yn yr egwyddorion isod.
Cymuned
Mae Allington Hughes Law yn credu mewn cefnogi, annog sgwrs a buddsoddi yn y gymuned leol.
Rydym wedi cefnogi Ysgol Sant Christopher yr Wrecsam gyda’u hystafell synhwyraidd, eu hapel bws mini a phrosiectiau celf ac hefyd Cerddorfa Symffoni Wrecsam. Mae Allington Hughes Law wedi cyfrannu tuag at goed Nadolig yn Wrecsam, Llanrwst ac Eglwys Gadeiriol Caer. Pryd bynnag fo bosib mae’r cwmni yn cefnogi digwyddiadau lleol, er enghraifft Sioe Llanrwst. Rydym yn aelodau o Ymddiredolaeth Dinesig Caer sydd yn gweithio i ddiogelu treftadaeth Caer. Mae gan Allington Hughes gysylltiadau sefydledig gyda busnesau, er enghraifft rydym yn cefnogi ac yn cyflogi aelodau o’r grwp Gweithwyr Proffesiynol Busnes Ifanc Wrecsam a Gogledd Cymru.
Mae gennym gyfreithwyr sydd yn falch o fod yn fentoriaid ar gyfer cyfreithwyr y dyfodol, er enghraifft myfyrwyr ym Mhrifysgol y Gyfraith, Caer, ac mae gennym nifer o gyfreithwyr ar bwyllgorau cyfreithiol, gan gynnwys cangen Gogledd Cymru o CILEx, Cymdeithas Cyfreithwyr Gogledd Cymru a Chaer, YRes a Cymdeithas Cyfreithwyr Ifanc Gogledd Cymru a Chaer.
Ar lefel bersonol, mae amryw o aelodau o’n staff yn weithgar mewn grwpiau cymunedol, er enghraifft elusennau , ysgolion, timau chwaraeon, cymdeithasau chwaraeon ac eglwysi.
Mae Allington Hughes yn ymdrechu i gyflenwi gwasanaeth safonol yn ogystal â chynnig pris teg ar gyfer ein cleientydd a’n cymunedau.
Amrywiaeth a chynhwysiant
Mae Allington Hughes yn hollon gynhwysol.
Mae gennym fynediad anabl i bob un o’n swyddfeydd ac rydym yn cynnig ymweld â chleientydd sydd gydag anabledd yn eu cartrefi, ble fo hynny yn angenrheidiol. Mae gennym systemau cyfathrebu ar gyfer rhai sydd gydag amhariadau gweledol sydd yn ei chael yn anodd darllen dogfennau arferol. Rydym yn credu y dylai cyfiawnder fod ar gael i bawb drwy gynnig clinigau am ddim ac rydym yn cynnig Cyngor Cyfreithiol mewn rhai meysydd. Mae Allington Hughes yn hyrwyddo myfyrwyr i gael profiad gwaith yn eu swyddfeydd ac yn cynnig contractau hyfforddi i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o gyfreithwyr. Rydym yn cynnig gwasanaeth dwyieithog mewn Cymraeg a Saesneg er mwyn medru cefnogi dwy iaith genedlaethol ein swyddfeydd. Mae rhai o aelodau ein timau mewn adrannau perthnasol yn Ffrindiau Dementia sydd yn golygu eu bod yn deall sut i gynnwys y rhai sy’n byw gyda dementia yn well mewn trafodaethau.
Rydym yn anelu at gyflwyno awyrgylch gyflogaeth deg drwy roi’r cyfle i unigolion ddatblygu a chyrraedd eu potensial, pan fo eu perfformiad yn addas, a phan fo cyfle yn y busnes, tra’n eu gwarchod rhag cael eu trin mewn unrhyw ffordd anaddas. Rydym yn falch ein bod yn gwmni sydd heb unrhyw wahaniaethu o ran rhywedd ac mae dros 60% o’n staff yn fenywaidd.
Yr Amgylchedd
Mae Allington Hughes Law yn ymdrechu i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd drwy ymroi i wella’n gyson drwy ganolbwyntio ar geisio lleihau ein ôl troed amgylcheddol, ble fo hynny’n bosib. Mae gennym bencampwr gwyrdd yn ein cwmni, a chynrychiolydd gwyrdd ym mhob swyddfa. Rydym yn ailgylchu cerdiau, papur, ysgrifbinnau, arlliwiau a hen offer cyfrifiadurol, ac rydym yn lleihau ein defnydd o bapur pryd bynnag fo hynny’n bosib. Rydym wedi tynnu cwpannau plastig o bob swyddfa. Mae Allington Hughes Law wedi dewis cwmni rheolaeth gwastraff cyfrinachol oherwydd eu bod yn cynnal digwyddiadau elusennol ac oherwydd eu rhaglen ailgylchu. Rydym yn annog staff i ddefnyddio trafnidiaeth cyhoeddus neu i seclo i’r gwaith ac mae gennym lefydd cadw beiciau yn ein swyddfeydd.
Elusennau
Mae Allington Hughes Law yn falch i gefnogi amryw o elusennau ac achosion da. Mae’r digwyddiadau elusennol yr ydym wedi eu cefnogi yn cynnwys Ffair Nadolig Hosbis Nightingale House, Cinio Chwerthin y Countess a Ras Hwyaid Tŷ Gobaith. Mae ein staff wedi cymeryd rhan mewn gweithgareddau elusennol gan gynnwys “Santa Dash” Caer, Ffau’r Dreigiau, gweithgareddau pobi, dringo Moel Famau i godi arian at Ganolfan Canser Clatterbridge , “Operation Christmas Child” (apel bocsys esgidiau i blant tramor) a dyddiau o wisgo siwmperi nadolig. Cafodd un tîm ei gloi i fyny yng Ngorsaf yr Heddlu Yr Wyddgrug i godi arian at ofal Canser Tenovus. Mae gennym aelodau o staff sydd yn brysur gydag elusennau y tu allan i’r gwaith, er enghraifft yn Rotari Wrecsam a Bwrdd Crwn Glannau Dyfrdwy.