Celebrating 200 Years of Trusted, Expert Advice

Gwasanaethau Landlordiaid a Thenantiaid

Cysylltwch â Ni

Am ragor o wybodaeth am ein Gwasanaethau Landlordiaid a Thenantiaid.

Cysylltwch â'n Tîm

Mae Allington Hughes Law yn un o ychydig o gyflenwyr cyngor cyfreithiol arbenigol i landlordiaid a thenantiaid yng Nghymru a Lloegr. Yn dilyn newidiadau diweddar i ddeddfwriaeth landlordiaid a thenantiaid yng Nghymru, mae’r broses bellach yn wahanol iawn i eiddo yng Nghymru a Lloegr. Gallwn gynorthwyo drwy gynnig cyngor a chymorth i landlordiaid, tenantiaid, meddwyr cytundeb a gwarantwyr.

Mae gennym brofiad helaeth yn delio gyda materion fel:

  • Llunio ac adolygu cytundebau tenantiaeth/datganiadau o gytundebau meddiannaeth.
  • Meddiannaeth y cartref (i gynnwys meddianaeth ar ran cwmni morgais)
  • Dadfeddiant o’r cartref (gan gynnwys dadfeddiant anghyfreithlon
  • Ymofyn gwelliannau i eiddo sydd yn cael ei rentu bleb o diffyg cynnal yn cyflwyno risg mawr i iechyd neu ddiogelwch
  • Cymorth digartrefedd ar gyfer pobl sydd yn ddigartref neu ar drothwy bod yn ddigartref
  • Gwaharddebau o dan y Ddeddf Amddiffyn Rhag Aflonyddu 1997 yng nghyd-destun cartrefi a materion o ymddygiad gwrth gymdeithasol yn y llys sirol
  • Olrhain taliadau rhent
  • Cyngor am y Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016
  • Paratoi rhybudd “heb-fai” o dan Rhan 173 (Cymru)
  • Paratoi rhybudd “heb fai” o dan Rhan 21 (Lloegr)
  • Paratoi rhybudd yn honni bai (Cymru
  • Paratoi Rhybudd Rhan 8 (Lloegr)
  • Cychwyn hawliad llys – i feddiannu eiddo.

Costau wedi eu gosod

Gallwch weld manylion ein ffioedd yma

Ein Harbenigwyr Gwasanaethau Landlordiaid a Thenantiaid

Mae ein tîm o arbenigwyr ymroddedig yn darparu cyngor cyfreithiol arbenigol i landlordiaid a thenantiaid yng Nghymru a Lloegr.

Cysylltwch ag Allington Hughes Law

Cysylltwch â ni heddiw i weld sut y gallwn helpu!

Gallwch gysylltu ag Allington Hughes gydag unrhyw ymholiadau neu gwestiynau cyfreithiol drwy ffonio neu e-bostio ein swyddfeydd. Byddwn yn gwneud ein gorau i gynnig cyngor clir gan un o aelodau cymwys a phrofiadol ein tîm cyfreithiol.

Sylwch nad yw e-bost yn ffordd ddiogel o gyfathrebu, ac ni allwn warantu y byddwn yn derbyn eich e-bost. Mae gennym system hidlo ar waith, ac os yw eich neges yn frys, rydym bob amser yn argymell eich bod yn dilyn hynny gyda galwad ffôn.

Wrexham - 01978 291000
Chester - 01244 312166
Llanrwst - 01492 641222
Contact Form
Safety Exit