x

WREXHAM: 01978 291000
CHESTER: 01244 312166
LLANRWST: 01492 641222

Gwaith Landlord a Thenant

Lloegr – Ffioedd penodol


Gyda mwy o ddeddfwriaeth yn rhoi straen ar landlordiaid preifat i wneud yn siŵr fod eu heiddo yn gymwys, rydym wedi creu gwasanaeth ffioedd penodol i ddelio gyda’ch anghenion i gyd.

Arolygu neu gynghori ar gytundeb tenantiaeth breswyl – gallwn eich cynghori ar eich cytundeb cyfredol ac awgrymu unrhyw newidiadau os yn addas – £400 + TAW

Drafftio cytundeb tenantiaeth byrddaliad sicr – gallwn ddrafftio cytundebau wedi eu teiliwro i’ch anghenion penodol – £500 + TAW

Hawliad meddiant Rhan 8:

Mae rhan 8 yn caniatáu i landlord olrhain meddiant eiddo os oes un o’r materion a gynhwysir yn y Ddeddf Tai 1998 yn gymwys.

Paratoi a chyflwyno rhybudd Rhan 8 yn unig – £350 + TAW

Paratoi a chyflwyno rhybudd Rhan 8 a pharatoi ffurflen hawliad am feddiannaeth – £850 + TAW

Paratoi a chyflwyno trwy’r post rhybudd rhan 8, ffurflen hawliad, datganiad tyst ac un gwrandawiad Llys (heb ei amddiffyn) £1,700 + TAW

Paratoi a chyflwyno trwy’r post rhybudd rhan 8, ffurflen gais, datganiad tyst ac un gwrandawiad Llys (wedi ei amddiffyn) £3,500 + TAW

Hawliad meddiant Rhan 21:

Mae rhan 21 yn rhoi hawl i’r landlord adfeddiannu pan fydd y termau penodol wedi dod i ben heb orfod profi fod unrhyw sail wedi ei dorri.

Paratoi a chyflwyno rhybudd Rhan 21 (Ffurflen 6A) yn unig – £350+TAW

Paratoi a chyflwyno rhybudd Rhan 21 (Ffurflen 6A) a pharatoi ffurflen gais – £800+TAW

Paratoi a chyflwyno rhybudd Rhan 21 (Ffurflen 6A) gan gynnwys un grandawiad Llys – £2,500+TAW

Mae’r tîm landlordiaid preifat yn Allington Hughes yma i gynghori a  chynorthwyo ar bob mater sydd yn gysylltiedig gyda’ch eiddo. Cysylltwch gyda ni gydag unrhyw gwestiwn sydd gennych.