x

WREXHAM: 01978 291000
CHESTER: 01244 312166
LLANRWST: 01492 641222

Cyfreithwyr Ewyllysiau, Ymddiriedolaethau a Phrofiant

Wrecsam, Caer, Llanrwst


Mae’r tîm Ewyllysiau, Ymddiriedolaethau a Phrofiant yn cynnig gwybodaeth brofiadol  a gwirioneddol arbenigol sy’n cynnwys tri aelod llawn o Gymdeithas yr Ymarferwyr Ymddiriedolaeth Ystadau (STEP). Mae STEP yn gorff proffesiynol unigryw, a gallwch fod yn sicr bod ei aelodau wedi’u hyfforddi’n gynhwysfawr i gynghori cleientiaid ynghylch materion Ewyllysiau, Ymddiriedolaethau a Stadau’r ymadawedig (gan gynnwys trethiant).

Mae gan bob un o’n meysydd gwasanaeth ei gymhlethdod ei hun a chydnabyddwn mai ein rôl ni yw eich tywys trwy’r broses o roi eich materion mewn trefn (er enghraifft trwy Ewyllys neu Atwrneiaeth Arhosol) neu efallai eich helpu trwy’r cyfod anodd o golli rhywun agos neu helpu perthynas sy’n fethedig mewn rhyw ffordd.

Mae ein tîm yma i’ch cynghori chi. Eich penderfyniad chi yn unig fydd faint o’r gwaith rydym yn ei wneud a faint rydych chi’n dymuno ymgymryd â fo eich hun

Beth bynnag fo’ch amgylchiadau personol, mae ein tîm ymroddedig mewn sefyllfa i’ch helpu chi.

Ewyllysiau

Mae’n naturiol oedi cyn gwneud Ewyllys, ac wrth gwrs, does neb yn hoffi meddwl am beth fydd yn digwydd pan fyddant wedi mynd. Yn syml, mae rhai pobl yn tybio nad oes rheswm dros gwneud Ewyllys gan y bydd eu stadau yn trosglwyddo fel y credent y  dylent, er enghraifft, i briod. Y gwirionedd yw pan fyddwch chi’n marw, bydd eich ystâd yn pasio mewn un o ddwy ffordd: naill ai fel y mae’r gyfraith yn darparu o dan y Rheolau Dibyniaeth neu yn unol ag unrhyw Ewyllys dilys yr ydych wedi’i gyflawni.

Yn y lle cyntaf, os byddwch yn marw heb adael Ewyllys dilys, gall arwain at ganlyniadau annisgwyl ac efallai na fydd eich perthnasau agosaf yn elwa o’ch holl ystâd. Agwedd bwysig arall o Ewyllys yw ei fod yn penodi person (Cynrychiolydd Personol) i reoli’ch ystâd ac mae’r penodiad hwnnw’n effeithiol o’ch marwolaeth; heb Ewyllys, fodd bynnag, dim ond y llys gall fod yn Gynrychiolydd Personol. Mae Ewyllys felly’n ddogfen eithriadol o bwysig.

Yn Allington Hughes mae gennym Adran Ewyllysiau  arbenigol. Rydym yn cymryd amser i ddeall eich amgylchiadau unigol, gan gynnwys maint eich ystâd a’ch cyfansoddiad teuluol. Byddwn wedyn yn gofyn sut rydych chi am i’ch ystad gael ei rannu a chynghori ar y ffordd fwyaf effeithiol o wneud hyn, gan gymryd i ystyriaeth unrhyw ffactorau pwysig eraill, fel goblygiadau trethiant.

Gall ein tîm arbenigol roi cyngor ar:

  • Penodi gwarcheidiaid
  • Y defnydd o ymddiriedolaethau yn eich Ewyllys
  • Cynllun Treth Etifeddu ar gyfer eich Ewyllys
  • Pasio’ch ystâd i fuddiolwyr bregus
  • Anrhegion i elusennau

Ymddiriedolaethau a chyngor asedau

Gellir defnyddio ymddiriedolaethau am nifer o resymau. Gall ein tîm greu ymddiriedolaethau a chynghori Ymddiriedolwyr mewn perthynas â gweinyddiad parhaus yr ymddiriedolaeth.

Gallwn gynghori a sefydlu Ymddiriedolaethau;

  • Diogelu asedau unigolion anabl
  • Sefydlu Ymddiriedolaethau Anafiadau Personol
  • Cynghori mewn perthynas â gwahanol oblygiadau trethiant ymddiriedolaethau
  • Cynghori ar ddyletswyddau’r Ymddiriedolwyr

Gweinyddu Stadau

Yn aml, pan fydd perthynas neu ffrind yn marw gall fod yn anodd gwybod ble i droi. Mae hyn yn arbennig o wir wrth ddelio â’u hystâd.  Weithiau mae rheolau cymhleth iawn yn y maes yma ac, yn Allington Hughes, gallwn eich helpu a’ch arwain trwy’r broses o weinyddu ystadau yn ystod amser anodd iawn.

Mae ein tîm hynod brofiadol yn gallu delio â unrhyw ystad. Mae gan y tîm brofiad o ymdrin ag ystadau gwerth bach i ganolig ac ystadau gwerth mawr sy’n gymhleth. Mae’r tîm wedi cael profiad o ystadau lle nad oes ewyllys, ystadau sy’n ymwneud ag eiddo amaethyddol, eiddo busnes ac asedau tramor.

Treth etifeddu

Pan fydd eich ystad unigol yn cyrraedd lefel benodol (£ 325,000 ar hyn o bryd) mae popeth dros y lefel yma yn cael ei drethu ar 40%. Fodd bynnag, mae’n bosib cymryd camau penodol i leihau neu hyd yn oed arbed yr atebolrwydd hwnnw yn gyfangwbl.

Mae yna sawl mecanwaith gallem ei gyflogi i gyflawni arbediad Treth Etifeddiant, ac mae rhai o’r rhain fel a ganlyn;

  • Cynllunio Treth Etifeddu trwy Ewyllysiau
  • Defnyddio rhoddion oes (gan gynnwys anrhegion i Ymddiriedolaethau)

Gallwn eich tywys drwy’r broses a’ch helpu i ddeall pa opsiynau sydd orau i’ch amgylchiadau.

Anghydfodau Profiant

Gallwn gynghori a chynrychioli mewn perthynas â’r canlynol;

  • Lle mae yna honniadau bod yr ewyllys yn annilys, er enghraifft, honiad nad oedd gan y ceisydd y gallu i wneud ewyllys, neu os amheuir bod trydydd parti wedi dylanwadu’n ormodol ar yr ardystiwr;
  • Hawliadau gan fuddiolwyr siomedig o dan Ddeddf Etifeddu (Darpariaeth ar gyfer Teulu a Dibynyddion) 1975;
  • Diddymu ysgutorion ac ymddiriedolwyr dan amgylchiadau priodol;
  • Cywiro ewyllys.

Mae ein cyfreithwyr yn brofiadol mewn dwyn neu amddiffyn yr achosion  hyn. Mae ein  tîmau  Sifil a Chleientydd Preifat yn gweithio’n agos gyda’u gilydd er mwyn darparu dull effeithiol a di-wrthwynebol i ddatrys anghydfodau.

Elusen a Thrwyddedu

Ydych chi’n Elusen?

Mae gan y Tîm Masnachol yn Allington Hughes gynghorwyr arbennigol i gynorthwyo’ch elusen gyda phob agwedd ar ei redeg. Gallwn eich cynorthwyo i sefydlu a gweithredu’r elusen; rydym hefyd yn gallu eich cynorthwyo â materion cyflogaeth; materion iechyd a diogelwch; a Gwerthu / Prynu / Prydlesu eiddo. Am ragor o wybodaeth am sefydlu a gweithredu’ch elusen, cysylltwch â Steve Davies ar 01978 291000

A ydych chi’n rhedeg eiddo trwyddedig?

Mae gan y Tîm Masnachol yn Allington Hughes gynghorwyr arbenigol i’ch cynorthwyo gyda phob agwedd o Gyfraith Trwyddedu. Gallwn eich cynghori ar newidiadau yn y gyfraith Trwyddedu, rheoliadau a gorchmynion a’ch cynorthwyo gyda gweithredu rhain.

Ymddiriedolaethau Anafiadau Personol

Os ydych chi neu’ch dibynyddion yn cael iawndal, mae’n hanfodol eich bod chi’n cael cyngor ar Ymddiriedolaethau Anafiadau Personol. Yn wahanol i rywfaint o’r cwmniau y gallech chi gysylltu â nhw, mae Allington Hughes yn cynnig gwasanaeth trylwyr a chyflawn i bob cleient.

Os ydych chi’n cael budd-daliadau, gall taliad iawndal eich rhoi tu hwnt i gwmpas cymhwysedd. Gall Creu Ymddiriedolaeth Anafiadau Personol sicrhau bod yr iawndal yn cael ei “ddiystyru” at ddibenion profi modd, gan ddiogelu’r budd a’r gronfa iawndal. Hyd yn oed os nad ydych chi’n derbyn budd-daliadau ar hyn o bryd, dylech gael cyngor ar y posibilrwydd y gall Ymddiriedolaeth sicrhau bod eich buddiannau yn cael eu diogelu yn y dyfodol.

Os dyfarnwyd yr iawndal mewn perthynas â phlentyn neu oedolyn diamddiffyn, p’un a yw’r bregusrwydd ai peidio yn ymwneud ag achos talu iawndal, mae gwahanol fathau o Ymddiriedolaethau ar gael. Gall rhai Ymddiriedolaethau gynorthwyo i atal treth etifeddiaeth ar unwaith  ac maent yn ddefnyddiol wrth gynllunio treth i rieni â phlant diamddiffyn. Gall Allington Hughes gynnig cyngor arbenigol. Byddwn yn eich cynorthwyo i gael yr iawndal yr ydych yn ei haeddu, a byddwn hefyd yn sicrhau eich bod yn cael eich hysbysu’n llawn ac yn gywir ynghylch y ffordd orau o ddiogelu’r arian hwnnw  heb effeithio ar eich hawliau eraill.

Wills, Trusts and Probate

Find out more
Gemma Beckett

Gemma Beckett

Cyfreithiwr Cynorthwyol
Wills, Trusts and Probate
Find out more

Wills, Trusts and Probate

Find out more
John Partington

John Partington

Gyfarwyddwr
Dispute Resolution
Find out more

Wills, Trusts and Probate

Find out more
Steve Davies

Steve Davies

Director
Wills, Trusts and Probate
Find out more

Wills, Trusts and Probate

Find out more

Wills, Trusts and Probate

Find out more

Cysylltwch â Allington Hughes

Cysylltwch â ni heddiw i weld sut y gallwn ni helpu


Cysylltwch â Allington Hughes heddiw i sicrhau bod eich mater yn cael ei drin mewn ffordd effeithiol a phroffesiynol gan gynrychiolwyr cyfreithiol cymwys a phrofiadol.

Mae croeso i chi ffonio neu anfon e-bost at unrhyw un o’n swyddfeydd gydag ymholiadau neu gwestiynau sydd gennych ynghylch achos. Byddwn yn ymdrechu i gynnig arweiniad uniongyrchol, onest  ar eich cyfer cyn i chi benderfynu ar y camau gweithredu yr hoffech eu cymryd.

Sylwch nad yw e-byst yn ddull ddiogel o gyfathrebu ac ni allwn warantu y bydd eich e-bost yn cael ei dderbyn gennym ni. Mae gennym system hidlo ar waith, a byddwn bob amser yn argymell, os yw’ch e-bost yn frys, eich bod yn ei ganlyn gyda galwad ffôn.

Wrecsam 01978 291000 | Caer 01244 312166 | Llanrwst 01492 641222

Request call back