x

WREXHAM: 01978 291000
CHESTER: 01244 312166
LLANRWST: 01492 641222

Cyfreithwyr Pŵerau Atwrnai


Mae ein tîm helaeth yn cynnig cyngor a chymorth i’ch helpu chi i baratoi a chynllunio ar gyfer amser pan na allwch chi neu’r rhai rydych chi’n gofalu amdanynt ofalu am eich materion eich hun neu os byddwch chi/nhw angen gofal. Gallwn hefyd helpu i’ch galluogi i reoli materion a gofal y rhai rydych yn eu caru nad ydynt bellach yn gallu gofalu amdanynt eu hunain oherwydd eu bod wedi dod yn ddryslyd.

Dirprwyoniaethau

Pan fydd rhywun wedi colli’r gallu i ofalu am eu materion eu hunain ble nad oes ganddynt Atwrneiaeth Barhaus neu Barhaol ddilys yna bydd rhaid i rywun (aelod o’r teulu, cyfaill agos) wneud cais i’r Llys Gwarchod. Mae hyn yn rhoi’r awdurdod i ofalu am eiddo a materion y person hwnnw ac, mewn rhai amgylchiadau, gwneud penderfyniadau ynghylch eu hiechyd a’u lles.

Yn yr achos hwn, cyfeirir at unrhyw un sy’n ymgeisio fel Dirprwy.

Pŵerau Atwrnai

Fe’n cyfarwyddir yn rheolaidd i baratoi Pŵerau Atwrnai i unigolion. Mae Pŵer Atwrnai yn ddogfen lle mae unigolyn (y Rhoddwr) yn rhoi pŵer unigolyn arall (Atwrnai) i ofalu am eu heiddo a’u busnes.

Gallwn gynghori ar bob agwedd o Bŵerau Atwrnai a dirprwyon a cheisiadau eraill i’r Llys Gwarchod ynglŷn â materion rhywun nad oes ganddo’r gallu i wneud penderfyniadau penodol.

Ewyllysiau Statudol

Pan nad oes gan rywun heb ddigon o allu ewyllys neu efallai bod ganddynt ewyllys nad yw’n berthnasol mwyach (efallai oherwydd bod prif fuddiolwyr yr ewyllys bresennol wedi marw neu nad oes ganddynt unrhyw gyswllt mwyach â’r person arall) yna bydd y Llys Gwarchod hefyd yn gallu awdurdodi rhywun i arwyddo ewyllys ar ran y person analluog yn nhermau a gymeradwyir gan y Llys. Gelwir hyn yn Ewyllys Statudol a gall y tîm yn Allington Hughes fynd â chi drwy’r broses hon hyd at  weithredu’r Ewyllys Statudol yn derfynol  a’i storio diogel.

Ceisiadau Cyffredinol

Mae gan y Llys awdurdod i wneud penderfyniadau dros holl faterion person sydd heb y gallu i wneud y penderfyniadau hynny eu hunain. Mae hyn yn cynnwys sefyllfaoedd lle mae Atwrneiaeth Arhosol neu Barhaus ond nid yw’r awdurdod a roddir dan y dogfennau hynny yn ymestyn i’r math o benderfyniad sydd angen ei wneud.

Gallwn eich helpu gyda’r materion sydd angen mynd i’r afael â hwy ond hefyd gallwn edrych yn adeiladol ar ddewisiadau “cyffyrddiad ysgafnach” amgen.

Gofalu am Oedolyn

Mae gan Allington Hughes dîm profiadol ac ymroddedig i’ch helpu chi i wneud penderfyniadau ynglŷn â’ch dyfodol eich hun ac i helpu perthnasau neu ffrindiau pan na allant wneud penderfyniadau ynglŷn â’u heiddo a’u materion neu eu hiechyd a’u lles eu hunain.

  • Gwneud penderfyniadau am eich dyfodol eich hun
  • Gofalu am unigolyn arall
  • Ewyllysiau Statudol

Ffioedd Gofal

Pan fo perthynas neu ffrind angen gofal preswyl parhaol, yn amlach na pheidio mae’n amser trallodus iawn. Wrth gwrs, mae canlyniadau emosiynol ac ariannol i’r fath symudiad.

Fel arfer, mae’n ofynnol i unigolyn dalu ffioedd eu gofal os yw eu cyfalaf yn fwy na lefel benodol. Mae risg bob amser y gall hyn effeithio nid yn unig ar eich cynilion, ond hefyd y tŷ yr ydych yn berchen arno.

Mae gennym dîm pwrpasol a all ddelio â materion pan fo person heb alluedd yn cael, neu wedi cael, eu cam drin yn gorfforol a/neu’n  ariannol, gan gynnwys delio â cheisiadau brys i’r Llys pan fo angen.

Powers of Attorney

Find out more
Gemma Beckett

Gemma Beckett

Cyfreithiwr Cynorthwyol
Wills, Trusts and Probate
Find out more

Powers of Attorney

Find out more
Steve Davies

Steve Davies

Director
Wills, Trusts and Probate
Find out more

Powers of Attorney

Find out more

Powers of Attorney

Find out more

Cysylltwch âg Allington Hughes

Am ragor o wybodaeth am ein Gwasanaethau Pwerau Atwrnai


Cysylltwch â Allington Hughes heddiw i sicrhau bod eich mater yn cael ei drin mewn ffordd effeithiol a phroffesiynol gan gynrychiolwyr cyfreithiol cymwys a phrofiadol.

Mae croeso i chi ffonio neu anfon e-bost at unrhyw un o’n swyddfeydd gydag ymholiadau neu gwestiynau sydd gennych ynghylch achos. Byddwn yn ymdrechu i gynnig arweiniad uniongyrchol, onest  ar eich cyfer cyn i chi benderfynu ar y camau gweithredu yr hoffech eu cymryd.

Sylwch nad yw e-byst yn ddull ddiogel o gyfathrebu ac ni allwn warantu y bydd eich e-bost yn cael ei dderbyn gennym ni. Mae gennym system hidlo ar waith, a byddwn bob amser yn argymell, os yw’ch e-bost yn frys, eich bod yn ei ganlyn gyda galwad ffôn.

Wrecsam 01978 291000 | Caer 01244 312166 | Llanrwst 01492 641222

Request call back