x

WREXHAM: 01978 291000
CHESTER: 01244 312166
LLANRWST: 01492 641222

Cyfreithwyr Cyfraith Amaethyddol

Gogledd Cymru a Chaer


Mae gan ein tîm Cyfraith Amaethyddol a leolir ar draws tair swyddfa yng Ngogledd Cymru a Swydd Gaer gysylltiadau cryf â’r gymuned ffermio a diddordeb brwd yn y diwydiant amaethyddol. Rydym yn deall pryderon ffermwyr heddiw, a phwysigrwydd cyngor cyfreithiol, cost effeithiol, ymarferol.

Rydym yn gweithio’n rheolaidd gydag amrywiaeth o gleientiaid ar ystod eang o faterion ffermio ac amaeth. Mae llawer o deuluoedd wedi bod yn gleientiaid ers cenedlaethau, gan gynnwys tirfeddianwyr, tenantiaid a busnesau cysylltiedig.

Gall ein cynghorwyr profiadol yn Allington Hughes eich cynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau am faterion amaethyddol, gan gynnwys: –

Mae ein tîm Cyfraith Amaethyddol profiadol ar gael ar draws ein tair swyddfa yn Wrecsam, Llanrwst a Chaer i’ch cynorthwyo gyda:

Materion eiddo

  • Prynu a gwerthu tir amaethyddol
  • Caniatáu tenantiaethau busnes fferm a thrwyddedau pori
  • Darparu cyngor ar denantiaeth Deddf Daliadau Amaethyddol (ag hawliau olynu)
  • Cyflwyno rhybuddion i adael/terfynu tenantiaethau (tenantiaethau DDA a TBT)
  • Gwerthu tir mewn ocsiwn
  • Cofrestru tir a ffermydd gyda’r Gofrestrfa Tir (gan gynnwys ceisiadau yn seiliedig ar weithredoedd coll neu feddiant gwrthgefn.
  • hawddfreintiau rhagnodol
  • Cywiro ceisiadau teitl
  • Cyngor ar hawliau hela, pysgota a saethu a profit à prendre

Ewyllysiau, Ymddiriedolaethau ac Ystadau

  • Cynllunio olyniaeth a threth gan gynnwys drafftio Ewyllysiau ac ymddiriedolaethau.
  • Atwrneiaeth Arhosol
  • Cynghori ar Dreth etifeddiant a cheisiadau cymorth eiddo amaethyddol.
  • Ymdrin ag ystadau perthnasau a chael Grantiau Profiant a Llythyrau Gweinyddu
  • Gweithredoedd amrywio Ewyllysiau
  • Trosglwyddo neu gydsynio tir amaethyddol o ystâd.

Materion teulu

Gall ein tîm cyfraith teulu eich helpu i ddelio â phob agwedd ar ysgariad a thor-perthynas gan gynnwys:

  • Rhannu cyllid wedi gwahaniad
  • Anghydfodau rhwng unigolion sydd wedi bod yn cyd-fyw a chytundebau cyn priodi.
  • Datrys materion yn ymwneud â threfniadau plant mewn amgylchiadau pan fo’r rhieni wedi gwahanu.

Mae ganddynt brofiad helaeth mewn ymdrin â chymhlethdodau sy’n codi wrth rannu asedion mewn ysgariadau amaethyddol/ffermio, sydd yn aml yn cynnwys strwythurau busnes ac ymddiriedolaethau cymhleth, sefyllfaoedd cymhleth ar incwm ac wrth gwrs yr elfen emosiynol sy’n dod wrth fod yn eiddo ar fferm a thir.

Datrys Anghydfod

Mae gennym lawer o brofiad ac fe allwn eich helpu gyda bob math o anghydfod sy’n effeithio eich busnes ffermio:

  • Anghydfodau partneriaeth
  • Anghydfodau ffiniau eiddo
  • Anghydfodau cytundebol e.e.. peiriannau fferm ddiffygiol, anghydfodau gyda chyflenwyr, anghydfodau yswiriant
  • Anghydfodau Tenantiaeth Busnes Fferm
  • Pob math o anghydfodau tir gan gynnwys hawliau tramwy, anghydfodau perchnogaeth, anghydfod teuluol
  • Anghydfodau profiant ag etifeddiaeth
  • Tresmasu, niwsans a hawliadau eraill e.e.. yn codi o anifeiliaid wedi dianc neu ddŵr yn dianc

Rydym hefyd yn hapus i gynghori cyn i anghydfodau godi, â golwg i’w hosgoi. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth cyfryngu.

Materion Troseddol a Rheoleiddio

  • erlyniadau lles anifeiliaid
  • iechyd a diogelwch
  • erlyniadau amgylcheddol a llygredd
  • troseddau modur.

Materion Corfforaethol a Masnachol

Fe allwn eich cynghori a’ch helpu gyda:

  • Drafftio Cytundebau Partneriaeth neu Gytundebau Cyfranddalwyr
  • Contractau a chytundebau gwasanaeth
  • Gwerthu neu brynu asedau neu gyfranddaliadau

Cyflogaeth

Mae ein tîm wrth law i ymdrin ag unrhyw faterion cyflogaeth gynhennus neu digynnen, yn cynnwys:

  • Cytundebau Cyflogaeth neu Ymgynghoriaeth
  • Cynghori ar faterion statws cyflogaeth
  • Llawlyfrau gweithle
  • Cyfryngu yn y gweithle
  • Delio â’ch holl ymholiadau Adnoddau Dynol o ddydd i ddydd
  • Cynrychiolaeth mewn achosion Tribiwnlys Cyflogaeth

 


Alison Stace

Rheolwr-Gyfarwyddwr
Dispute Resolution, Landlord and Tenant, Mediation
Find out more
Bethan Mackinnon

Bethan Mackinnon

Cyfreithwraig
Wills, Trusts and Probate
Find out more
David Spalding

David Spalding

Cyfreithiwr
Commercial Property
Find out more
Gerallt Hughes

Gerallt Hughes

Gyfarwyddwr
Buying and Selling Property, Employment Law
Find out more
Gwenno Price Jones

Gwenno Price-Jones

Gyfarwyddwr
Family Law, Dispute Resolution, Personal Injury
Find out more
Ian Lewis Director

Ian Lewis

Gyfarwyddwr
Commercial Property, Buying and Selling Property
Find out more
John Partington

John Partington

Gyfarwyddwr
Dispute Resolution
Find out more
Stephen Foote is an experienced solicitor in our business department.

Stephen Foote

Gyfarwyddwr
Civil Litigation
Find out more
Sioned McGlory

Sioned McGlory

Cyfreithiwr Cynorthwyol Arweiniol
Buying and Selling Property
Find out more

Cysylltwch â Allington Hughes

Cysylltwch â ni heddiw i weld sut y gallwn ni helpu


Cysylltwch â Allington Hughes heddiw i sicrhau bod eich mater yn cael ei drin mewn ffordd effeithiol a phroffesiynol gan gynrychiolwyr cyfreithiol cymwys a phrofiadol.

Mae croeso i chi ffonio neu anfon e-bost at unrhyw un o’n swyddfeydd gydag ymholiadau neu gwestiynau sydd gennych ynghylch achos. Byddwn yn ymdrechu i gynnig arweiniad uniongyrchol, onest  ar eich cyfer cyn i chi benderfynu ar y camau gweithredu yr hoffech eu cymryd.

Sylwch nad yw e-byst yn ddull ddiogel o gyfathrebu ac ni allwn warantu y bydd eich e-bost yn cael ei dderbyn gennym ni. Mae gennym system hidlo ar waith, a byddwn bob amser yn argymell, os yw’ch e-bost yn frys, eich bod yn ei ganlyn gyda galwad ffôn.

Wrecsam 01978 291000 | Caer 01244 312166 | Llanrwst 01492 641222

Request call back