x

WREXHAM: 01978 291000
CHESTER: 01244 312166
LLANRWST: 01492 641222

Alison Stace

Rheolwr-Gyfarwyddwr


Ymunodd Alison â’r cwmni yn 2000, wedi cymhwyso fel Cymrawd o Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol yn 1996. Mae’n aelod o Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol sy’n cael ei reoleiddio’n annibynnol gan  CILEx. Hi oedd un o’r Gweithredwyr Cyfreithiol cyntaf i ddod yn Bartner mewn cwmni Cyfreithwyr pan ymunodd â’r Bartneriaeth ym mis Mai 2011, ac mae’n aelod gweithredol o gangen leol CILEX. Daeth Alison yn gyfarwyddwr ar ymgorfforiad y cwmni  yn 2013 ac yn  Rheolwr Gyfarwyddwr ar y cwmni yn 2016.

Cyn y rôl hon, roedd Alison yn bennaeth ar y tîm Datrys Anghydfodau.  Ymunodd â nhw yn 2000 fel ymgyfreithydd. Mae Alison yn parhau i fod yn aelod o’r tîm, gan gynnig blynyddoedd o brofiad i’r adran mewn gwaith ymgyfreitha.

Enillodd Alison Dystysgrif Ôl-radd mewn Arweinyddiaeth Gynaliadwy ym Mawrth 2018 o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd. Roedd hyn yn dilyn cwblhau cofnod o astudio Arweinyddiaeth, Rheoli Newid, Arloesi, Entrepreneuriaeth a Busnesau Bach.  Roedd hyn yn cynnwys cwblhau prosiect Strategol.

Mae Alison yn gyfrifol am reoli’r cwmni ac mae’n goruchwylio ac yn gweithredu strategaeth fusnes y cwmni, gyda chymorth Tîm Rheoli profiadol a Bwrdd Strategol Cyfarwyddwyr.

Alison yw’r Swyddog Cydymffurfiaeth ar gyfer Ymarfer Cyfreithiol (COLP) ar gyfer Allington Hughes. Mae’n rôl allweddol er mwyn creu diwylliant o gydymffurfiaeth trwy gydol y cwmni, gan ddod yn ganolbwynt ar gyfer nodi risg, a’r pwynt cyswllt allweddol ar gyfer yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA).

Mae Alison hefyd wedi cymhwyso fel Cyfryngwr Achrededig gyda’r Grŵp MTAC (mae Grwp MTAC yn ddarparwr hyfforddiant CPD achrededig sy’n seilio ei hun ar gael ei gydnabod fel hyfforddwr cyfryngu blaenllaw o’r ansawdd uchaf). Gall Alison gynnal sesiynau Cyfryngu mewn perthynas â materion Sifil.

Gallwch gysylltu âg Alison Stace ar 01978 291000 neu anfonwch e-bost at [email protected]