Prydlesi eiddo masnachol, gan gynnwys prydlesi ar gyfer siopau, swyddfeydd, unedau diwydiannol, modurdai a defnyddiau di-breswyl eraill. Adnewyddu prydlesi presennol gan gynnwys prydlesi telathrebu. Gweithredu dros Landlord neu Denant a chynghori Gwarantwyr.
Rydym yn gweithredu ar gyfer Gwerthwyr neu Prynwyr eiddo masnachol, gan gynnwys siopau, swyddfeydd, unedau diwydiannol, modurdai a defnyddiau di-breswyl eraill.
Rydym yn gweithredu ar gyfer prynwyr a gwerthwyr tir datblygu gan gynnwys opsiynau ar gyfer pryniannau diweddarach, contractau sy’n amodol ar gynllunio, cytundebau cynllunio gan gynnwys cytundebau 106, s278 a s104 ac ymgymeriadau unochrog.
Rydym yn gweithredu mewn gwerthiannau plotiau,gweithredu ar ran datblygwyr a gweithredu dros Landlordiaid ar gyfer datblygiadau swyddfeydd.
Opsiynau prydlesi ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy, yn enwedig rhai’n ymwneud â ffermydd gwynt neu ynni solar a gweithredu ar gyfer naill ai datblygwyr neu dirfeddianwyr. Dogfennau cysylltiedig gan gynnwys tystysgrifau teitl, cytundebau uniongyrchol a chytundebau cynllunio.
Cysylltwch â Allington Hughes heddiw i sicrhau bod eich mater yn cael ei drin mewn ffordd effeithiol a phroffesiynol gan gynrychiolwyr cyfreithiol cymwys a phrofiadol.
Mae croeso i chi ffonio neu anfon e-bost at unrhyw un o’n swyddfeydd gydag ymholiadau neu gwestiynau sydd gennych ynghylch achos. Byddwn yn ymdrechu i gynnig arweiniad uniongyrchol, onest ar eich cyfer cyn i chi benderfynu ar y camau gweithredu yr hoffech eu cymryd.
Sylwch nad yw e-byst yn ddull ddiogel o gyfathrebu ac ni allwn warantu y bydd eich e-bost yn cael ei dderbyn gennym ni. Mae gennym system hidlo ar waith, a byddwn bob amser yn argymell, os yw’ch e-bost yn frys, eich bod yn ei ganlyn gyda galwad ffôn.
Wrecsam 01978 291000 | Caer 01244 312166 | Llanrwst 01492 641222