Ymunodd Ian â Allington Hughes fel cyfarwyddwr yn 2013 ac mae’n bennaeth adran brysur Gosod a Symud Cartref.
Graddiodd Ian yn y gyfraith o Brifysgol Aberystwyth yn 1981. Yna, ymgymerodd â’i arholiadau proffesiynol yng Nghristleton, Caer. Ar ôl derbyn hyfforddiant yn Llandrindod, cymhwysodd fel cyfreithiwr yn 1984 ac ar ôl hynny dechreuodd ddatblygu ei arbenigedd mewn Cyfraith Eiddo.
Mae Ian yn brofiadol iawn ac yn arbenigo mewn nifer o faterion eiddo. Fel mab fferm, mae ganddo ddiddordeb mewn eiddo amaethyddol. Mae ganddo hefyd gefnogaeth cryf ymhlith datblygwyr eiddo oherwydd ei lefel uchel o arbenigedd mewn gwaith eiddo preswyl a masnachol. Mae gan Ian dros 30 mlynedd o brofiad o drin achosion yn ardal Wrecsam.
Os hoffech gysylltu â Ian Lewis ffoniwch 01978 291000 [email protected]