Graddiodd John yn y gyfraith o Brifysgol Aberystwyth. Cafodd ei hyfforddiant dan Mr James Bowden o Allington Hughes & Bate yn 1978 a threuliodd ei flynyddoedd ffurfiannol yn delio â thrawsgludo, profiant, ymddiriedolaethau a materion cyffredinol nad oeddynt yn ddadleuol.
Cymhwysodd fel Cyfreithiwr yn 1981 a chafod ei wneud yn Bartner yn 1984. Daeth John yn gyfarwyddwr ar ymgorfforiad y cwmni yn 2013.
Penderfynodd John arbenigo mewn Cyfraith Priodas a Chyfraith Sifil wedi iddo weld
bod angen cyngor a chymorth ar gleientiaid yn y meysydd hyn. Yn ddiweddar mae’n delio bron yn gyfan gwbl âg achosion Cyfraith Sifil.
Mae John yn ymdrin yn bennaf â materion contract preifat a masnachol, anghydfodau Tir, anghydfodau Ymddiriedolaethau ac Ystâdau, achosion esgeulustod a materion sy’n ymwneud â chyfraith Landlord a Thenant.
Gyda thros 30 mlynedd o brofiad, mae John wedi delio âg achosion o’r Llys Hawliadau Bach i’r Llys Apêl. Mae hefyd wedi delio ag achosion yn y Tribiwnlys Tiroedd, nifer o gyfryngau masnachol yn ymwneud â Chyfraith Adeiladu ac mae wedi siarad yng nhgyfarfodydd Fforwm Landlordiaid Wrecsam.
Mae’n croesawu cyfarwyddiadau gan unigolion preifat a masnachol.
Gallwch gysylltu â John Partington ar 01244 312166 neu drwy e-bost [email protected]