Ymunodd Gerallt â Allington Hughes yn 2003, ar ôl graddio o Brifysgol Cymru, Aberystwyth gyda gradd yn y Gyfraith. Mae hefyd yn ennillydd gwobr Calcott Pryce am ei draethawd hir. Cymhwysodd Gerallt fel cyfreithiwr yn 2005 ac fe’i gwnaethpwyd yn Bartner yn y cwmni yn 2009. Daeth Gerallt yn gyfarwyddwr ar ymgorfforiad y cwmni yn 2013.
Gerallt yw pennaeth ein hadran Gyflogaeth sy’n ymdrin â materion cyflogwyr a gweithwyr. Mae’n aelod o’r Gymdeithas Cyfreithwyr Cyflogaeth a’r grwpiau Defnyddwyr ar gyfer y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth.
Mae Gerallt wedi derbyn cyfarwyddiadau diweddar gan nifer o gleientiaid, gan gynnwys: –
Mae Gerallt hefyd yn delio ag Eiddo Preswyl ac Eiddo Masnachol. Mae’n aelod o Gymdeithas Cyfraith Caer a Gogledd Cymru ac adran Cyfraith Eiddo Cymdeithas y Cyfreithwyr.
Y tu allan i’r gwaith mae gan Gerallt lawer o ddiddordebau gan gynnwys chwaraeon a cherddoriaeth ac mae’n aelod o Fand Arian Llaneurgain a’r pwyllgor rheoli. Mae Gerallt yn siaradwr Cymraeg, ac os yw’n well gennych chi, gall eich cynghori a’ch chynrychioli trwy gyfrwng y Gymraeg.
Gallwch gysylltu â Gerallt Hughes ar 01244 312166 neu drwy e-bost [email protected]