Ymunodd Stephen â Allington Hughes ym mis Ebrill 2017 fel cyfreithiwr wedi iddo symud o Fryste.
Cymhwysodd Stephen fel cyfreithiwr yn 1991 ar ôl astudio yn flaenorol yn Llundain ac yng Ngholeg y Gyfraith yng Nghaer. Cwblhaodd gytundeb hyfforddi yn Llundain a symudodd i Fanceinion lle’r oedd ei waith yn cynnwys pob agwedd o gyfraith troseddol, cyfraith sifil a chyfraith cyflogaeth.
O Fanceinion, fe symudodd Stephen i gwmni ym Mryste lle bu’n ymarfer fel cyfreithiwr sifil a chyfreithiwr cyflogaeth am bron i 20 mlynedd. Mae Stephen yn gallu cynorthwyo gyda phob agwedd ar Ddatrys Anghydfod, gan gynnwys anghydfodau cytundebol, eiddo, busnes a phersonol yn ogystal â materion Ewyllysiau a Phrofiant dadleuol a materion cyflogaeth.
Gallwch gysylltu â Stephen trwy ffonio 01244 312166 neu drwy e-bost at [email protected]