Mewn ymateb i’r Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, rydym wedi creu gwasanaeth sylfaenol o ffioedd penodol i ddelio gydag anghenion landlordiaid a deilwyr contractau yng Nghymru.
Arolygu neu gynghori ar ddatganiad ysgrifenedig o gontract meddiannaeth wedi ei pharatoi yn barod – gallwn wneud yn siŵr fod eich cytundeb presennol yn addas a’ch cynghori am unrhyw newidiadau sydd eu hangen – £400+TAW.
Drafftio cytundeb ysgrifenedig newydd am gontract meddiannaeth – gallwn ddrafftio datganiadau ysgrifenedig i ddelio gyda’ch anghenion penodol – £500+TAW.
Os yw’r daliwr contract yn torri’r cytundeb meddiant gall y landlord ymofyn adfeddiannu’r eiddo. Dylid dilyn y broses tor contract os nad yw’r daliwr contract yn talu ei daliadau rhent. Nodwch os gwelwch yn dda os bydd y daliwr contract mewn dyled rhent mawr, mae proses gynt y gellir ei dilyn. Gallwn gynghori ar hawliau landlordiaid pan fo ymddygiad gwrthgymdeithasol daliwr y contract mewn gwrthwynebiad gyda’u hoblygiadau o dan y contract.
Paratoi a chyflwyno ar sail tor contract yn unig – £350+TAW
Paratoi a chyflwyno ar gyfer tor contract a pharatoi ffurflen hawliad am feddiannu – £850+TAW
Paratoi a chyflwyno drwy’r post ar gyfer tor contract, paratoi ffurflen hawliad, datganiad tyst ac un grandawiad Llys (heb ei amddifyn) – £1,700+TAW
Paratoi a chyflwyno drwy’r post ar gyfer tor contract, paratoi ffurflen hawliad, datganiad tyst ac un grandawiad Llys (wedi ei amddifyn) – £3,500+TAW
Mae’r rhybudd gan y landlord yn defnyddio Rhan 173 yn galluogi landlord i adfeddiannu eiddo heb orfod profi fod unrhyw dor gontract a heb roi unrhyw reswm dros wneud hynny.
Paratoi a chyflwyno rhybudd Rhan 173 yn unig -£350+TAW
Paratoi a chyflwyno rhybudd Rhan 173 a ffurflen hawliad -£800+TAW
Paratoi a chyflwyno rhybudd Rhan 173 a ffurflen hawliad ac un grandawiad Llys – £2,500+TAW
Mae’r tîm landlordiaid preifat yma yn Allington Hughes yma i’ch cynghori a’ch cynorthwyo ar bob mater sydd yn gysylltiedig gyda’ch eiddo. Cysylltwch gyda ni o safbwynt unrhyw gwestiwn sydd gennych.