x

WREXHAM: 01978 291000
CHESTER: 01244 312166
LLANRWST: 01492 641222

Beth yw costau penodedig?

Mae costau adferadwy penodedig (CAP) yn setio costau cyfreithiol y gall y person llwyddiannus eu hawlio yn ôl oddi wrth y person aflwyddiannus mewn materion ymgyfreithiad sifil. Maent mewn grym yn barod yn y rhan fwyaf o faterion niwed corfforol sydd o werth isel.

Gall y person llwyddiannus fod yr hawlydd neu y diffynnydd a gall ailennill costau gan y person aflwyddiannus ar wahanol rannau o’r broses ymgyfreithiad, o’r cyfnod cyn cyflwyno’r cais i’r treial. Gall y term “costau” gynnwys costau cyfreithiol, costau llys, costau arbenigwr a gwariannau pellach heb gynnwys TAW.

Y newidiadau a gyflwynir yw’r canlynnol:

  • Bydd costau adferadwy penodedig pellach yn cael eu defnyddio mewn materion sifil yn hytrach na mewn materion niwed corfforol o werth isel yn unig;
  • Mae trac canolradd newydd yn cynnwys achosion syml sydd rhwng £25,000 a £100,000 mewn gwerth o safbwynt iawndal.

Nodwch os gwelwch yn dda na fydd y newidiadau hyn yn effeithio hawliadau Rhan 8 (dylid delio gyda rhain yn yr aml drac) ac ni fydd yn berthnasol ar gyfer sialensiau Adolygiad Barnwrol ac o dan y ddeddf Cyfreithwyr 1974.

Os ydych angen cymorth pellach gyda’r rheolau newydd hyn, cysylltwch gyda ni os gwelwch yn dda ar 01978 291000 neu 01244 312166 neu 01492 641222 a gofynnwch am ein hadran Ymgyfreitha Sifil.

 

Os ydych angen cymorth pellach gyda’r rheolau newydd hyn, cysylltwch gyda ni os gwelwch yn dda ar 01978 291000 neu 01244 312166 neu 01492 641222 a gofynnwch am ein hadran Ymgyfreitha Sifil.