Mae’r Cyfarwyddwr a’r Gweithredydd Cyfreithiol Siartredig Alison Stace yn Gyfryngwr Achrededig. Gall Alison weld cleientiaid yn ein swyddfeydd yn Wrecsam, Caer a Llanrwst ar gyfer materion sifil.
Mae cyfryngu yn ffordd allweddol o leihau costau cyfreithiol, a bydd yn lleihau difrod emosiynol yn ogystal â’r difrod ariannol i unigolion o ganlyniad i achosion Llys hir. Gyda ffioedd llys yn cynnyddu’n sylweddol yn ddiweddar nid yw’n syndod bod mwy a mwy o bobl yn dewis symud ymlaen â materion drwy gyfryngu.
Os hoffech gael gwybodaeth pellach am gyfryngu ac sut y gall cyfryngu fod o ddefnydd yn eich achos chi, rydym wedi creu dogfen cwestiynau cyffredin a all gael ei lawrlwytho isod.
Os hoffech drafod y defnydd o gyfryngu yn eich achos chi, cysylltwch ag Alison Stace ar 01978 291 000 neu e-bostioch alisonstace@allingtonhughes.co.uk
Cysylltwch â Allington Hughes heddiw i sicrhau bod eich mater yn cael ei drin mewn ffordd effeithiol a phroffesiynol gan gynrychiolwyr cyfreithiol cymwys a phrofiadol.
Mae croeso i chi ffonio neu anfon e-bost at unrhyw un o’n swyddfeydd gydag ymholiadau neu gwestiynau sydd gennych ynghylch achos. Byddwn yn ymdrechu i gynnig arweiniad uniongyrchol, onest ar eich cyfer cyn i chi benderfynu ar y camau gweithredu yr hoffech eu cymryd.
Sylwch nad yw e-byst yn ddull ddiogel o gyfathrebu ac ni allwn warantu y bydd eich e-bost yn cael ei dderbyn gennym ni. Mae gennym system hidlo ar waith, a byddwn bob amser yn argymell, os yw’ch e-bost yn frys, eich bod yn ei ganlyn gyda galwad ffôn.
Wrecsam 01978 291000 | Caer 01244 312166 | Llanrwst 01492 641222