Ymunodd Grisial ac Allington Hughes yn 2006 ac fe’i gwnaed yn gyfarwyddwr yn 2013.
Grisial yw pennaeth yr Adran Cyfraith Teulu, ac mae’n delio a phob math o achosion yn ymwneud a phlant. Mae hi’n aelod o banel arbennigol Cyfraith Plant Cymdeithas y Gyfraith, sy’n ei galluogi i gynrychioli plant o fewn achosion Llys.
Mae Grisial yn delio ac anghydfodau ynglyn y plant pan fydd rhienni’n gwahanu, ac mae’n arbennigo’n bennodol mewn materion amddiffyn plant, pan fydd y gwasanaethau cymdeithasol yn gweithio gyda’r teulu.
Mae Grisial hefyd yn delio ac achosion o drais yn y cartref, cipio, priodi gorfodol, camdrin, a cheisiadau mabwysiadu. Gall gynrychioli rhienni, teulu pellach, neu’r plentyn eu hunain trwy eu gwarchgeidwad.
Mae Grisial hefyd yn ymgymryd a gwaith wedi ei ariannu’n gyhoeddus a gall gynghori ar argaeledd Cymorth Cyfreithiol (Legal Aid) os yn berthnasol.
Mae Grisial yn rhugl yn y Gymraeg a gall gynghori neu gynrychioli yn Gymraeg os dymunir.
Cysylltwch a Grisial ar 01978 291000 neu trwy ebost at [email protected]