Mae Patrick yn gyfreithiwr yn yr Adran Droseddol yn Wrecsam, ond mae’n teithio i Orsafoedd yr Heddlu neu Lysoedd ledled y wlad.
Ymunodd â Allington Hughes ym mis Ionawr 2015 fel Paralegal yn yr Adran Droseddol, wedi treulio nifer o flynyddoedd yn gweithio yng Nghaer. Mae’n arbenigo mewn Cyfraith Troseddol. Daeth yn Gynrychiolydd Gorsaf Heddlu achrededig yn 2013 a dechreuodd ei Gytundeb Hyfforddi gyda’r Cwmni ym mis Rhagfyr 2015, gan gymhwyso fel Cyfreithiwr ym mis Mehefin 2017.
Mae Patrick yn mynychu’r Gorsafoedd Heddlu a Llysoedd Ynadon lleol yn rheolaidd i ddarparu cyngor a chymorth i gleientiaid ar sail Cymorth Cyfreithiol a chleientydd preifat.
Mae wedi ymdrin ag amrywiaeth o achosion a sefydliadau yn ystod ei amser fel Cynrychiolydd Gorsaf yr Heddlu, Paralegal a Chyfreithiwr, o faterion syml fel dwyn o siopau i gynllwynion cyffuriau a throseddau rhywiol hanesyddol.
Ers cymhwyso, mae wedi delio â nifer o achosion yn y Llys Ynadon ac wedi cynnal llawer o dreialon yn ymdrin ag arfau, ymosodiadau, aflonyddu, gorchmynion atal troseddu, troseddau dan y Deddf Gorchymyn Cyhoeddus ynghyd â Hysbysiadau a Gorchmynion Diogelu rhag Trais yn y Cartref.
Mae gan Patrick lawer iawn o brofiad o delio â chyfweliadau o dan Rybudd ac achosion llys a ddygwyd gan amryw o wahanol awdurdodau erlyn megis Swyddfa’r Comisiynwyr Gwybodaeth (ICO), y GIG, y Post Brenhinol a’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
Gallwch gysylltu â Patrick Geddes ar 01978 291000 neu drwy e-bost [email protected]