x

WREXHAM: 01978 291000
CHESTER: 01244 312166
LLANRWST: 01492 641222

Melissa Griffiths

Cyfarwyddwr


Ymunodd Melissa â Allington Hughes yn 1991, wedi graddio o Brifysgol Cymru Aberystwyth gyda gradd yn y Gyfraith.

Ar ôl cymhwyso fel cyfreithiwr ym 1993, daeth yn Bartner yn y cwmni yn 1998 a daeth yn gyfarwyddwr ar ymgorfforiad y cwmni  yn 2013.

Mae Melissa yn ymdrin â Chyfraith Troseddol a Rheoleiddio yn unig ac mae ganddi dros 25 mlynedd o brofiad o gynrychioli cleientiaid mewn Gorsafoedd Heddlu a Llysoedd Ynadon ledled y rhanbarth. Mae’n delio gydag amrywiaeth eang o achosion, gan gynnwys ymosodiadau difrifol, anhrefn cyhoeddus, troseddau cyffuriau, dwyn, twyll a throseddau rhywiol difrifol yn ogystal â materion moduro.

Mae Melissa yn hynod o angerddol am ei gwaith a bydd yn ymladd yn ddiflino i sicrhau bod hawliau cyfreithiol ei chleient yn cael eu diogelu.

Gan fod Allington Hughes yn gwmni panel NFU, mae gan Melissa brofiad helaeth o ddelio â throseddau rheoleiddio, megis amddiffyn erlyniadau a ddygir o dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid a throseddau sy’n ymwneud â throsglwyddo pasbortau gwartheg yn ogystal ag erlyniadau Swyddfa Masnachu a Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Penodwyd Melissa yn Gyfreithiwr Dyletswydd ym 1996 a daeth yn Gyfreithiwr-Eiriolwr ym mis Ionawr 2009 sy’n  ei galluogi i gynrychioli cleientiaid yn Llys y Goron a’r Llys Apêl.

Gallwch gysylltu â Melissa Griffiths ar 01978 291000 neu drwy e-bost [email protected]

Melissa Griffiths Director