Mae ein tîm Cyflogaeth yn cynnig ystod lawn o wasanaethau sy’n gwasanaethu cleientiaid sy’n gyflogwyr a gweithwyr. Rydym yn cynnig gwasanaeth broffesiynol, wybodus ac mae’n cynghorwyr profiadol yn darparu cymorth mewn iaith glir yn rhydd o jargon.
Mae ein Llinell Gymorth Cyfraith Cyflogaeth yn ddefnyddiol i’n holl gleientiaid sy’n gyflogwyr. Yng nghwmpas y Llinell Gymorth, gallwn gynghori a chynorthwyo cleientiaid ar faterion cyflogaeth arferol am ffî flynyddol sefydlog sy’n caniatáu ichi gyllidebu ar gyfer hynny.
Cysylltwch â Allington Hughes heddiw i sicrhau bod eich mater yn cael ei drin mewn ffordd effeithiol a phroffesiynol gan gynrychiolwyr cyfreithiol cymwys a phrofiadol.
Mae croeso i chi ffonio neu anfon e-bost at unrhyw un o’n swyddfeydd gydag ymholiadau neu gwestiynau sydd gennych ynghylch achos. Byddwn yn ymdrechu i gynnig arweiniad uniongyrchol, onest ar eich cyfer cyn i chi benderfynu ar y camau gweithredu yr hoffech eu cymryd.
Sylwch nad yw e-byst yn ddull ddiogel o gyfathrebu ac ni allwn warantu y bydd eich e-bost yn cael ei dderbyn gennym ni. Mae gennym system hidlo ar waith, a byddwn bob amser yn argymell, os yw’ch e-bost yn frys, eich bod yn ei ganlyn gyda galwad ffôn.
Wrecsam 01978 291000 | Caer 01244 312166 | Llanrwst 01492 641222