x

WREXHAM: 01978 291000
CHESTER: 01244 312166
LLANRWST: 01492 641222

Eiddo Masnachol

Wrecsam, Caer, Llanrwst


 

  • Prydlesi busnes, trwyddedau, adnewyddu a therfynu prydlesau ar gyfer landlordiaid, tenantiaid a gwarantwyr;
  • Gwerthu a phrynu eiddo masnachol rhydd-ddaliol a phrydlesol;
  • Ail-ariannu a gwarantau;
  • Caffael tir datblygu/ gwerthu tir, opsiynau tir, contractau amodol a chytundebau cynllunio;
  • Datblygiad ystad preswyl a masnachol;
  • Cytundebau a prydlesi ynni adnewyddadwy.

Prydlesi busnes, trwyddedau, adnewyddu a therfynu prydlesi ar gyfer landlordiaid, tenantiaid a gwarantwyr; gwerthu a phrynu eiddo masnachol rhydd-ddaliol a phrydlesol;

Prydlesi eiddo masnachol, gan gynnwys prydlesi ar gyfer siopau, swyddfeydd, unedau diwydiannol, modurdai a defnyddiau di-breswyl eraill. Adnewyddu prydlesi presennol gan gynnwys prydlesi telathrebu. Gweithredu dros Landlord neu Denant a chynghori Gwarantwyr.

Ail-ariannu a gwarantau

Rydym yn gweithredu ar gyfer Gwerthwyr neu Prynwyr eiddo masnachol, gan gynnwys siopau, swyddfeydd, unedau diwydiannol, modurdai a defnyddiau di-breswyl eraill.

Caffael tir datblygu/ gwerthu tir, opsiynau tir, contractau amodol a chytundebau cynllunio

Rydym yn gweithredu ar gyfer prynwyr a gwerthwyr tir datblygu gan gynnwys opsiynau ar gyfer pryniannau diweddarach, contractau sy’n amodol ar gynllunio, cytundebau cynllunio gan gynnwys cytundebau 106, s278 a s104 ac ymgymeriadau unochrog.

Datblygiad ystad preswyl a masnachol

Rydym yn gweithredu mewn gwerthiannau plotiau,gweithredu ar ran datblygwyr a gweithredu dros Landlordiaid ar gyfer datblygiadau swyddfeydd.

Cytundebau a prydlesi ynni adnewyddadwy

Opsiynau prydlesi ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy, yn enwedig rhai’n ymwneud â ffermydd gwynt neu ynni solar a gweithredu ar gyfer naill ai datblygwyr neu dirfeddianwyr. Dogfennau cysylltiedig gan gynnwys tystysgrifau teitl, cytundebau uniongyrchol a chytundebau cynllunio.

David Spalding

David Spalding

Cyfreithiwr
Commercial Property
Find out more
Gerallt Hughes

Gerallt Hughes

Gyfarwyddwr
Buying and Selling Property, Employment Law
Find out more
John Partington

John Partington

Gyfarwyddwr
Dispute Resolution
Find out more
Ian Lewis Director

Ian Lewis

Gyfarwyddwr
Commercial Property, Buying and Selling Property
Find out more
Lucienne is a consultant solicitor in our business department.

Lucienne Sutton

Cyfreithiwr Ymgynghorol
Commercial Property
Find out more

Commercial Property

Find out more
Sioned McGlory

Sioned McGlory

Cyfreithiwr Cynorthwyol Arweiniol
Buying and Selling Property
Find out more

Cysylltwch â ni

Ynglŷn â'n Gwasanaethau Cyfraith Eiddo Masnachol


Cysylltwch â Allington Hughes heddiw i sicrhau bod eich mater yn cael ei drin mewn ffordd effeithiol a phroffesiynol gan gynrychiolwyr cyfreithiol cymwys a phrofiadol.

Mae croeso i chi ffonio neu anfon e-bost at unrhyw un o’n swyddfeydd gydag ymholiadau neu gwestiynau sydd gennych ynghylch achos. Byddwn yn ymdrechu i gynnig arweiniad uniongyrchol, onest  ar eich cyfer cyn i chi benderfynu ar y camau gweithredu yr hoffech eu cymryd.

Sylwch nad yw e-byst yn ddull ddiogel o gyfathrebu ac ni allwn warantu y bydd eich e-bost yn cael ei dderbyn gennym ni. Mae gennym system hidlo ar waith, a byddwn bob amser yn argymell, os yw’ch e-bost yn frys, eich bod yn ei ganlyn gyda galwad ffôn.

Wrecsam 01978 291000 | Caer 01244 312166 | Llanrwst 01492 641222

Request call back