x

WREXHAM: 01978 291000
CHESTER: 01244 312166
LLANRWST: 01492 641222

CYFREITHWYR CYMORTH CYFREITHIOL

Cyfraith Teulu, Cyfraith Droseddol


Bu nifer o doriadau i Gymorth Cyfreithiol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf sydd wedi gostwng gallu’r cyhoedd i sicrhau cyfiawnder yn ddifrifol.   Mae’r toriadau hyn wedi golygu na all nifer helaeth o bobl gael mynediad at y cymorth cyfreithiol y maent ei angen, ar yr adegau pwysicaf, a’r adegau mwyaf heriol weithiau.

Yn Allington Hughes mae gennym nifer o adrannau sy’n gallu parhau i ddarparu cyngor cyfreithiol gyda chymorth y system Gymorth Cyfreithiol, yn amodol ar brawf modd.

Yr ardaloedd lle gallwn gynnig y cymorth yma yw:

Cyfraith Teulu | Cyfraith Droseddol

CYMORTH CYFREITHIOL CYFRAITH TEULU


Ers Ebrill 2013, bu cyfyngiadau difrifol ar Gymorth Cyfreithiol. Fodd bynnag, mae ar gael mewn rhai sefyllfaoedd, megis lle mae gwasanaethau cymdeithasol yn gysylltiedig â’ch teulu neu ble rydych chi a / neu’ch plant wedi dioddef cam-drin yn y cartref, yn amodol ar ichi fodloni’r gofynion incwm a chyfalaf cywir.

Ar y cyfan, dim ond ar gyfer rhai sydd ar incwm isel neu fudd-daliadau isel sydd hefyd yn gallu bodloni’r amodau ariannol a bennir gan yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol y bydd Cyngor Cyfreithiol ar gael. Os oes gennych chi neu’ch partner gynilion, eiddo, incwm o gyflogaeth neu ffynonellau incwm eraill yna gallwn asesu a ydych chi’n gymwys o safbwynt ariannol i gael cymorth cyfreithiol. Mae cymorth cyfreithiol hefyd ar gael ar gyfer cyfryngu. Gallwn eich cynghori ar hyn yn rhad ac am ddim ac heb rwymedigaeth, cyn unrhyw apwyntiad.

Mae Cymorth Cyfreithiol ar gyfer cyngor cyfreithiol a chynrychiolaeth ar gael ar gyfer y mathau canlynol o achosion cyfraith teuluol:

  • Ceisiadau am orchmynion di-ymyrraeth a meddiannaeth;
  • Ceisiadau am orchmynion atal dan Ddeddf Amddiffyn Rhag Aflonyddu 1997;
  • Ceisiadau am orchmynion amddiffyn priodas dan orfod;
  • Ceisiadau am orchmynion mewn perthynas â phlant sydd wedi cael eu tynnu’n anghyfreithlon i le tu mewn i’r DU;
  • Ceisiadau am orchmynion mewn perthynas â phlant sydd wedi’u cipio neu eu tynnu’n anghyfreithlon i le y tu allan i’r DU;
  • Achosion a ddygir gan yr awdurdod lleol ar gyfer gorchmynion gofal neu oruchwyliaeth;
  • Cyfryngu.

Gallwn hefyd gynnig nifer o opsiynau talu hyblyg, megis ffioedd sefydlog mewn rhai achosion, a byddwn bob amser yn rhoi amcangyfrifon clir a thryloyw i chi fel eich bod bob amser yn ymwybodol o oblygiadau cost eich achos o’r dechrau.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu gymorth gydag unrhyw faterion yn ymwneud â Chyfraith Teulu, ffoniwch unrhyw un o’n tair swyddfa neu e-bostiwch [email protected] a dychwelwn atoch yn syth.

CYMORTH CYFREITHIOL CYFRAITH TROSEDDOL


Bu llawer o ansicrwydd ynghylch darpariaeth Cymorth Cyfreithiol mewn achosion troseddol, gyda llawer o gwmnïau’n cau o ganlyniad. Fodd bynnag, rydym wedi ymrwymo’n gryf i ddarparu cyngor a chynrychiolaeth o’r ansawdd uchaf i gleientiaid sydd angen Cymorth Cyfreithiol.

Yr hyn nad yw llawer o bobl yn sylweddoli yw bod gan bawb, waeth beth yw eu cyllid, hawl i gyfreithiwr o’u dewis i’w cynrychioli yn rhad ac am ddim wrth gyfweld mewn Gorsaf Heddlu. O ganlyniad, mae gennym gynrychiolwyr ar alwad 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos er mwyn cynorthwyo unrhyw un sydd angen ein gwasanaethau. Os ydych chi’n destun ymchwiliad gan asiantaeth arall, heblaw’r Heddlu, efallai y bydd gennych hawl i gael Cymorth Cyfreithiol ond byddai hyn yn seiliedig ar eich lefel incwm.

Os bydd yn ofynnol i chi fynychu’r llys mewn cysylltiad ag unrhyw honiadau, yna gallwn wneud cais am Gymorth Cyfreithiol ar eich rhan, caiff hyn ei asesu ar eich amgylchiadau ariannol ond hefyd ar ddifrifoldeb yr achos. Asesir achosion cyn y Llys Ynadon ar eich lefel incwm yn unig. Os yw eich achos i gael ei drin yn Llys y Goron, yna mae Cymorth Cyfreithiol ar gael ym mron pob achos Llys y Goron, hyd yn oed pan nad ydych chi’n gymwys yn ariannol yn y Llys Ynadon, ond efallai y bydd gofyn i chi wneud cyfraniadau misol tuag at gost y Cymorth Cyfreithiol. Os oes gennych chi fwy na £30,000 mewn asedau / cyfalaf efallai y bydd gofyn i chi dalu cyfraniadau allan o’r swm yma. Os canfuwyd eich bod yn ddieuog yn Llys y Goron, byddai unrhyw gyfraniadau a wnaethoch yn cael eu had-dalu i chi gyda llôg.

Os hoffech ragor o wybodaeth neu gymorth ar unrhyw fater Cyfraith Troseddol, cysylltwch â’n tîm profiadol ar 01978 291000 neu anfonwch e-bost at [email protected] a byddwn yn cysylltu’n ôl yn syth.

Cysylltwch âg Allington Hughes

Am ragor o wybodaeth am ein gwasanaethau Cymorth Cyfreithiol


Cysylltwch â Allington Hughes heddiw i sicrhau bod eich mater yn cael ei drin mewn ffordd effeithiol a phroffesiynol gan gynrychiolwyr cyfreithiol cymwys a phrofiadol.

Mae croeso i chi ffonio neu anfon e-bost at unrhyw un o’n swyddfeydd gydag ymholiadau neu gwestiynau sydd gennych ynghylch achos. Byddwn yn ymdrechu i gynnig arweiniad uniongyrchol, onest  ar eich cyfer cyn i chi benderfynu ar y camau gweithredu yr hoffech eu cymryd.

Sylwch nad yw e-byst yn ddull ddiogel o gyfathrebu ac ni allwn warantu y bydd eich e-bost yn cael ei dderbyn gennym ni. Mae gennym system hidlo ar waith, a byddwn bob amser yn argymell, os yw’ch e-bost yn frys, eich bod yn ei ganlyn gyda galwad ffôn.

Wrecsam 01978 291000 | Caer 01244 312166 | Llanrwst 01492 641222

Request call back