x

WREXHAM: 01978 291000
CHESTER: 01244 312166
LLANRWST: 01492 641222

Tramgwyddau Troseddol a Rheoleiddiol

Gogledd Cymru a Chaer


Gyda phob achos troseddol a rheoleiddiol, y camau cyntaf y bydd unrhyw adran neu asiantaeth yn eu cymryd ar ôl i honiad gael ei wneud, neu os oes amheuaeth o drosedd, yw ymchwilio i’r mater. Fel rheol bydd hyn yn golygu siarad â’r rhai a amheuir o fod yn rhan o’r drosedd honedig mewn cyfweliad a gaiff ei gynnal  dan Rybudd, yn unol â Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (PACE).

Mae cyfweliad a gynhelir yn y modd hwn yn galluogi i gynnwys y cyfweliad  ffurfio rhan o unrhyw achos llys. Mae’n amlwg yn bwysig os byddwch chi neu un o’ch cyflogeion yn cael eich hunain mewn sefyllfa lle byddwch  yn cael eich cyfweld dan Rybudd, eich bod yn derbyn y cyngor cywir ar sut i fynd ymlaen yn y cyfweliad.

Mae cyfweliadau a gynhelir yn unol â PACE yn rhoi’r hawl i’r cyfwelai gael cyngor cyfreithiol. Fe ddylai chi neu’ch cyflogeion bob amser gymryd yr hawl hon, hyd yn oed pan nad ydych chi’n meddwl eich bod wedi gwneud unrhyw beth o’i le, gan ei fod yn eich galluogi i gael eich cynghori’n llawn ynghylch yr honiadau yn eich erbyn, a’ch opsiynau cyn i’r cyfweliad ddechrau. Heb gynrychiolydd cyfreithiol, ni chewch wybod am fanylion yr honiadau cyn i’r cyfweliad ddechrau. Weithiau gellir dweud pethau yn ystod y cyfweliad sy’n cryfhau’r achos yn eich herbyn yn anfwriadol.

Gall yr Heddlu gynnal cyfweliadau o’r math hwn ond gydag ymchwiliadau mwy arbenigol, er enghraifft, rhai a gynhelir gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ymchwilwyr sifil gan y sefydliad hwnnw fydd fel arfer yn cynnal yr ymchwiliad cyfan, gan gynnwys y cyfweliad dan Rybudd.

Mae hyn yn bwysig i’w nodi am ddau reswm;

  1. Fel rheol bydd y cyfwelwyr yn arbenigo mewn maes ymchwilio penodol ac felly byddant yn gwybod llawer iawn am y mater y maent yn ei ymchwilio a’r ddeddfwriaeth sy’n cyd-fynd â hi. Mae’n bwysig felly cael cyngor cyfreithiol eich hun er mwyn sicrhau nad ydych dan anfantais.
  2. Er bod gennych hawl i gyngor cyfreithiol, nid yw hyn ar gael yn ddi-dâl o dan y cynllun Cyfreithiwr Dyletswydd, fel y byddai mewn Gorsaf Heddlu, oni bai bod y cyfweliad yn cael ei gynnal gan, neu ym mhresenoldeb aelod o’r Heddlu. Byddwn bob amser yn eich hysbysu’n llawn am ein darpar gostau ac yn rhoi dyfynbris realistig i chi yn seiliedig ar y math o ymchwiliad y gofynnwyd i chi ei fynychu.

Pe bai unrhyw ymchwiliad yn arwain atoch chi neu’ch gweithwyr yn cael eich galw i’r llys am y troseddau honedig, rydym hefyd yn gallu cynnig cynrychiolaeth yn y Llys a byddem yn gallu eich cynghori’n llawn ynghylch y ffordd orau o weithredu o ran ple, llwyddiant mewn treial ac unrhyw ddyfarniad tebygol.

Gall y sefydliadau a ganlyn gynnal ymchwiliadau a dwyn achosion Troseddol a Rheoleiddiol, ond nid yw hon yn  rhestr gyfyngedig:

  • Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n ymdrin â throseddau sy’n cynnwys gwaredu gwastraff, torri coed a ffermio.
  • Safonau Masnach sy’n ymchwilio ac yn erlyn materion sy’n cynnwys gwerthu a phrynu nwyddau ffug.
  • Awdurdodau Lleol sy’n delio â materion sy’n cynnwys tipio anghyfreithlon, sbwriel, Gorchmynion Cadw Coed diffyg presenoldeb yn yr ysgol
  • Asiantaeth Safonau Cerbydau a Gyrrwyr (VOSA gynt)
  • Y GIG sy’n ymchwilio ac yn erlyn materion sy’n cynnwys arferion bilio a chydymffurfiaeth a’u rheoliadau mewnol.
  • HMRC sy’n delio â materion sy’n ymwneud â thwyll, treth, TAW, llwgrwobrwyo a gwyngalchu arian.
  • Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sy’n delio â thoriadau i’r Ddeddf Diogelu Data e.e. ceisiadau am fynediad

Os oes gennych chi neu’ch cyflogai amheuaeth bod unrhyw un o’r sefydliadau uchod yn dymuno siarad â chi dan  Rybuddiad neu os ydych chi’n poeni am y posibilrwydd o achos llys, cysylltwch â’n swyddfa er mwyn ein galluogi i wneud yr ymholiadau perthnasol a chynnig ein cyngor a’n cymorth.

Melissa Griffiths

Melissa Griffiths

Gyfarwyddwr
Criminal Law
Find out more
Patrick Geddes

Patrick Geddes

Cyfreithiwr Cynorthwyol Arweiniol
Criminal Law
Find out more

Cysylltwch â Allington Hughes

Cysylltwch â ni heddiw i weld sut y gallwn ni helpu


Cysylltwch â Allington Hughes heddiw i sicrhau bod eich mater yn cael ei drin mewn ffordd effeithiol a phroffesiynol gan gynrychiolwyr cyfreithiol cymwys a phrofiadol.

Mae croeso i chi ffonio neu anfon e-bost at unrhyw un o’n swyddfeydd gydag ymholiadau neu gwestiynau sydd gennych ynghylch achos. Byddwn yn ymdrechu i gynnig arweiniad uniongyrchol, onest  ar eich cyfer cyn i chi benderfynu ar y camau gweithredu yr hoffech eu cymryd.

Sylwch nad yw e-byst yn ddull ddiogel o gyfathrebu ac ni allwn warantu y bydd eich e-bost yn cael ei dderbyn gennym ni. Mae gennym system hidlo ar waith, a byddwn bob amser yn argymell, os yw’ch e-bost yn frys, eich bod yn ei ganlyn gyda galwad ffôn.

Wrecsam 01978 291000 | Caer 01244 312166 | Llanrwst 01492 641222