x

WREXHAM: 01978 291000
CHESTER: 01244 312166
LLANRWST: 01492 641222

CYFREITHWYR CYFRAITH TROSEDDOL

Yn cwmpasu Gogledd Cymru a Swydd Gaer


Caiff Allington Hughes ei ystyried yn un o’r prif gwmnïau cyfraith troseddol yng Ngogledd Cymru, Swydd Gaer a thu hwnt.

Mae ein Tîm Troseddol wedi’i asesu yng Nghategori Un – Rhagoriaeth (y categori uchaf) mewn adolygiad annibynnol gan y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol.  Dim ond dau gwmni yng Nghymru a gyflawnodd hyn, a dim ond 17 ledled y Deyrnas Unedig.  Rydym yn darparu gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer Gorsafoedd Heddlu a Llysoedd.

Rydym yn deall pa mor dirboenus yw hi i fod yn destun ymchwiliad neu achos Heddlu o flaen llys troseddol. Er mai arbenigedd cyfreithiol yw ein rôl sylfaenol, rydym yn darparu arbenigwyr sy’n gyfeillgar ac yn hawdd siarad â hwy. Byddwn ar gael trwy gydol eich achos i’ch arwain trwy amser anodd.

Byddwn yn eich helpu i wneud cais am Gymorth Cyfreithiol os yw hynny’n briodol ac os nad ydych chi’n gymwys i gael Cymorth Cyfreithiol, byddwn yn trafod y goblygiadau costau o’r cychwyn, gan sicrhau eich bod yn cael gwybodaeth llawn.

Bydd aelod o’n tîm yn gallu eich cynorthwyo gyda’r canlynol: –

  • Cynrychiolaeth yng Ngorsaf yr Heddlu
  • Cynrychiolaeth mewn Llysoedd Ynadon a Llysoedd Ieuenctid
  • Cynrychiolaeth yn Llys y Goron
  • Ymchwiliadau i Dwyll Budd-daliadau
  • Moduro
  • Troseddau Rheoleiddio
  • Honiadau Rhywiol
Melissa Griffiths

Melissa Griffiths

Gyfarwyddwr
Criminal Law
Find out more
Patrick Geddes

Patrick Geddes

Cyfreithiwr Cynorthwyol Arweiniol
Criminal Law
Find out more

Cysylltwch â Allington Hughes

Am ragor o wybodaeth am ein gwasanaethau Cyfraith Troseddol


Cysylltwch â Allington Hughes heddiw i sicrhau bod eich mater yn cael ei drin mewn ffordd effeithiol a phroffesiynol gan gynrychiolwyr cyfreithiol cymwys a phrofiadol.

Mae croeso i chi ffonio neu anfon e-bost at unrhyw un o’n swyddfeydd gydag ymholiadau neu gwestiynau sydd gennych ynghylch achos. Byddwn yn ymdrechu i gynnig arweiniad uniongyrchol, onest  ar eich cyfer cyn i chi benderfynu ar y camau gweithredu yr hoffech eu cymryd.

Sylwch nad yw e-byst yn ddull ddiogel o gyfathrebu ac ni allwn warantu y bydd eich e-bost yn cael ei dderbyn gennym ni. Mae gennym system hidlo ar waith, a byddwn bob amser yn argymell, os yw’ch e-bost yn frys, eich bod yn ei ganlyn gyda galwad ffôn – 01978 291000.

Request call back