x

WREXHAM: 01978 291000
CHESTER: 01244 312166
LLANRWST: 01492 641222

13

Ein Hanes

yn Allington Hughes


1826

Yn Allington Hughes rydym yn falch iawn o’n gwreiddiau hanesyddol. Sefydlwyd y cwmni ym 1826 pan sefydlodd Thomas Hughes ei hun fel Cyfreithiwr yn Wrecsam.

1986

Ar ôl nifer o flynyddoedd, daeth y cwmni i gael ei adnabod fel Allington Hughes a Bate ac yn 1986, cyfunodd Allington Hughes a Bate â chwmni cyfreithiol arall, David Hughes a’i Gwmni, a sefydlwyd yng Nghaer yn ôl yn 1912. Cafodd y cwmni cyfunol ei adnabod fel Allington Hughes, cyfuniad cyfleus a pharhaus o’r ddau enw blaenorol.

2010

Mae’r cwmni wedi parhau i dyfu ac yn 2010 fe’i cyfunwyd â David Spalding, Cyfreithiwr.

2011

Yn 2011 daeth y cwmni yn Bractis Cyfreithiol Disgybledig trwy benodi Alison Stace, Cymrawd o’r Sefydliad Gweithredwyr Cyfreithiol, fel Partner. Alison yw’r cyfreithiwr cyntaf nad yw’n dwrnai i ddod yn Bartner yn Allington Hughes.

2013

Ym mis Awst 2013, ymgorfforwyd Allington Hughes yn gwmni cyfyngedig. Daeth pob ‘partner’ o’r cwmni wedyn yn Gyfarwyddwyr.

Ar 1 Medi 2013, mewn datblygiad cyffrous, daeth Allington Hughes Cyf yn berchen ar Cyfraith JRL, a leolir yn Llanrwst. Bydd swyddfa Llanrwst yn parhau i gynnig cyngor arbenigol ym mhob maes presennol, yn enwedig Cyfraith Amaethyddol.

Mae ein henw da wedi datblygu ers dros 190 o flynyddoedd oherwydd ein hymrwymiad i sicrhau bod y cyngor cyfreithiol a ddarparwn i’n Cleientiaid yn arbenigol, effeithiol, ymarferol ac wedi ei brisio’n rhesymol.