Ymunodd Tracey â’r cwmni ym 1988 wedi gadael yr ysgol, a chymhwysodd fel aelod o’r Sefydliad Gweithredwyr Cyfreithiol Siartredig yn 2005. Mae’r sefydliad yma’n cael ei reoleiddio’n annibynnol gan CILEx. Mae hi hefyd yn ysgrifennydd aelodaeth cangen CILEx Caer a Gogledd Cymru.
Mae Tracey yn rhan o’r adran Gyfraith Sifil yn Allington Hughes ac mae’n arbenigo ym mhob agwedd ar waith sifil. Mae ganddi hefyd brofiad mewn materion Tai ac mae’n cyflawni gwaith ar faterion Cyfraith Teulu, gyda phwyslais arbennig ar achosion cam-drin domestig neu aflonyddu.
Mae Tracey yn parhau o fod ar gael i ddelio â cheisiadau am Orchymynion “Non-Molestation”. Mae cymorth cyfreithiol yn parhau i fod ar gael ar eu cyfer, yn amodol ar asesiad cyfalaf. Nid yw bob amser yn angenrheidiol trefnu apwyntiad. Gallwch alw i mewn ar unrhyw adeg ar gyfer sgwrs gyfrinachol.
Mae Tracey yn gyn-gyfarwyddwr gwirfoddol Cymorth i Fenywod, ac mae’n parhau i sicrhau ei bod ar gael i wneud gwaith brys mewn perthynas â materion sy’n ymwneud â cham-drin domestig.
Gallwch gysylltu â Tracey Powell ar 01978 291000 neu drwy e-bost [email protected]