x

WREXHAM: 01978 291000
CHESTER: 01244 312166
LLANRWST: 01492 641222

Cyfraith Cyflogaeth

Gogledd Cymru a Chaer


  • Contractau cyflogaeth;
  • Llawlyfrau cyflogaeth;
  • Gweithdrefnau cwyno a disgyblu;
  • Adnoddau Dynol Cyffredinol;
  • Diswyddo ac ailstrwythuro
  • Cynrychiolaeth tribiwnlys cyflogaeth;
  • TUPE ar drosglwyddo busnes.

Cytundebau  cyflogaeth/cytundebau ar gyfer gwasanaethau

Mae Contractau Cyflogaeth, Contractau ar gyfer Gwasanaethau, Cytundebau Ymgynghoriaeth ac ati i gyd yn hanfodol wrth osod telerau ymgysylltu rhwng dau barti. Mae cael contract ar waith o’r cychwyn yn nodi’n glir y disgwyliadau a’r telerau y mae pob un ohonynt yn gweithio tuag atynt.

Wrth ddrafftio contract, byddwn hefyd yn sicrhau eich bod yn rhoi ystyriaeth briodol i statws y berthynas gyflogaeth, e.e. A yw’r unigolyn yn gyflogai, gweithiwr neu gontractwr hunangyflogedig? Bydd drafftio contract nad yw’n cynrychioli gwir natur y berthynas gyflogaeth yn gyfyngedig pan fydd anghydfod yn codi.

Mae’n bwysig sicrhau bod buddiannau cyfreithlon eich busnes yn cael eu sicrhau a dylid ystyried pa gyfamodau cyfyngedig, os o gwbl, fydd eu hangen i sicrhau diogelwch y busnes nid yn unig yn ystod y berthynas gyflogaeth ond ar ôl iddo ddod i ben.

Bydd cael cytundebau wedi’u drafftio’n iawn yn lleihau unrhyw amwysedd pan fo mater yn codi ac rydym yma i’ch cynorthwyo i ddrafftio contractau wedi’u teilwra ar gyfer eich anghenion busnes.

Llawlyfrau cyflogaeth

Mae llawlyfr cyflogaeth yn offeryn hanfodol ar gyfer unrhyw weithle gan ei fod yn nodi holl bolisïau a gweithdrefnau’r cwmni y dylai pob aelod o staff gydymffurfio â nhw.

 

 

Mae yna nifer o bolisïau y gall cwmni eu cael o fewn ei lawlyfr, y rhai sylfaenol yw: –

  • Gweithdrefnau Cwyno a Disgyblu
  • Rheoli Absenoldeb
  • Tâl Gwyliau
  • Polisïau sy’n Gyfeillgar i’r Teulu, e.e. Mamolaeth, Tadolaeth, Mabwysiadu a Hawliau Seibiant Rhiant a Rennir
  • Chwythu’r Chwiban
  • Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Gall polisïau eraill gynnwys, er enghraifft TG a Chyfathrebu, y Cyfryngau Cymdeithasol ac Iechyd a Diogelwch.

Mae cael polisïau a gweithdrefnau ar waith, ac yn bwysicach, eu dilyn, yn sicrhau unffurfiaeth ar draws y busnes a bydd yn sicrhau bod unrhyw fater yn cael ei drin yn rhesymol. Bydd hefyd yn eich cynorthwyo i amddiffyn unrhyw gŵyn a all godi.

materion cwyno a disgyblu

Gweithdrefnau Cwyno a Disgyblu yw’r rhai a ddefnyddir yn amlaf yn y gweithle. Bydd cael polisi clir yn ei le yn sicrhau bod unrhyw faterion cwyno neu ddisgyblu yn cael eu trin yn y modd cywir a bod cysondeb yn agwedd y cwmni.

Mae ymdrin â chwynion a materion disgyblu posibl yn brydlon, yn gyflym ac yn deg yn arfer gorau. Mae’n amser dirdynnol i bawb dan sylw.

Mae tystiolaeth yn allweddol, felly dylech bob amser sicrhau bod gennych nodyn ysgrifenedig o bob sgwrs a chyfarfod gyda staff a bod y cwmni yn dilyn ei weithdrefnau ei hun. Yn rhy aml, fe’n cyfarwyddir mewn materion perfformiad/ymddygiad lle mae cyflogwr wedi bod yn anfodlon â pherfformiad gweithiwr dros gyfnod o fisoedd neu hyd yn oed  flynyddoedd ac wedi cyrraedd pwynt lle mae digon yn ddigon. Yn aml, fodd bynnag, mae’r cyflogwr wedi methu â dod â’r mater i sylw’r gweithiwr a dilyn ei weithdrefnau disgyblu ei hun sydd yn ei dro yn ei gwneud yn anodd terfynu cyflogaeth yn deg mewn amgylchiadau o’r fath.

Pan fo cwmni’n methu â dilyn unrhyw weithdrefnau rhesymol wrth ymdrin â materion cwyno a disgyblu, gall Tribiwnlys Cyflogaeth ddyfarnu i hawlydd gael ymgodiad o 25% ar iawndal. Felly, mae dilyn gweithdrefn deg a rhesymol nid yn unig yn cryfhau’ch sefyllfa, ond bydd hefyd yn eich gwarchod rhag ymgodiad mewn arian iawndal Hawlydd.

AD cyffredinol

Rydym yn cynnig gwasanaeth Llinell Gymorth lle gallwch gael cyngor a chymorth di-derfyn ar y ffôn neu trwy e-bost mewn cysylltiad â’ch materion cyflogaeth sy’n codi o ddydd i ddydd am daliad cynhaliaeth blynyddol sefydlog.  Weithiau, yr unig beth sydd ei angen arnoch yw cadarhnau eich bod ar y trywydd iawn, ac amseroedd eraill, er enghraifft, mae angen arweiniad arnoch sut i ymchwilio neu delio’n briodol â chwyn sydd wedi codi.

Gallwn hefyd gynnal adolygiad o’ch polisïau a’ch gweithdrefnau mewnol i sicrhau bod popeth yn cyrraedd y safon perthnasol ac argymell hyfforddiant staff lle bo angen er mwyn sicrhau bod staff yn deall eu cyfrifoldebau yn y gweithle yn llawn, e.e. peidio â gwahaniaethu yn erbyn cydweithwyr a thrydydd person yn groes i’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Efallai na fyddwch yn gofyn am ein gwasanaethau yn aml felly nid yw’r Llinell Gymorth yn addas ar eich cyfer. Yn lle hynny, yn syml, gallwch gael yr un gwasanaeth ond ar sail talu wrth i chi fynd.

diswyddo ac ailstrwythuro

P’un a ydych yn ailstrwythuro busnes newydd neu un sy’n bodoli eisoes, rydym yma i’ch cynorthwyo i sicrhau bod y broses mor ddi-dor â phosibl a byddem yn cynghori ar bob mater a all godi boed hynny’n amrywio contractau, y broses diswyddo, materion yn gysylltiedig â TUPE neu cynghori a drafftio Cytundebau Setlo lle bo hynny’n briodol.

Yn ystod adegau o ansicrwydd, mae staff yn aml yn anesmwyth iawn a gall hyn darfu ar eich busnes.  Mae felly’n hanfodol bod unrhyw broses ailstrwythuro/diswyddo yn cael ei drin yn gyflym a chyda thryloywder.

Gallwn helpu i sicrhau bod gennych strategaeth glir yn ei le a’ch bod yn deall eich rhwymedigaethau a hawliau’r gweithwyr yn llawn cyn rhoi newidiadau ar waith.

TUPE ar drosglwyddo busnes

Gall Rheoliadau Trosglwyddo Ymrwymiadau (Gwarchod Gweithwyr) 2016 (fel y’u diwygiwyd) neu TUPE yn fyr, wneud cais lle bu trosglwyddiad busnes neu pan fydd darpariaeth gwasanaeth yn newid.

Yn aml iawn, gall TUPE fod yn fater cymhleth a gall arwain at hawliadau mawr lle nad yw’r trosglwyddwr neu’r trosglwyddai yn cydymffurfio â’u rwymedigaethau. Mae TUPE yn darparu amddiffyniad ychwanegol i weithwyr ac felly mae’n hanfodol fod y broses gywir yn cael ei ddilyn a bod diwydrwydd dyladwy llawn ar rwymedigaethau cyflogaeth yn cael ei wneud ac yn cael ei ddeall gan y ddau barti i leihau’r risg o unrhyw broblemau yn codi.

Gallwn eich cynorthwyo i ddelio â’r holl faterion a all godi oherwydd trosglwyddiadau TUPE.

Cynrychiolaeth mewn tribiwnlys cyflogaeth

Rydym yma i’ch cynghori wrth amddiffyn hawliadau a hawliadau posibl yn erbyn eich cwmni, ei swyddogion a’i staff mewnTribiwnlys Cyflogaeth.

Yr hysbysiad cyntaf y byddwch yn ei gael gan weithiwr presennol neu gyn-weithiwr sy’n ystyried dod â hawliad bydd hysbysiad gan ACAS i weld a ydych yn agored i Gymodi Cynnar ACAS.

Mae’n rhaid i holl Hawlwyr posib nawr brosesu eu hawliad trwy Gymodi Cynnar ACAS a dim ond os bydd y cymodi’n methu, a cawsant Dystysgrif ACAS, yw hi’n bosib mynd ymlaen i gyflwyno Hawliad gyda’r Tribiwnlys Cyflogaeth.

Gallwn gynorthwyo i werthuso cryfderau, gwendidau a risgiau eich amddiffyniad, delio ag unrhyw drafodaethau setlo a’ch cynghori a’ch cynorthwyo trwy broses y Tribiwnlys Cyflogaeth gan gynnwys cynrychiolaeth ym mhob Gwrandawiad Tribiwnlys Cyflogaeth.

Cysylltwch â Allington Hughes

Cysylltwch â ni heddiw i weld sut y gallwn ni helpu


Cysylltwch â Allington Hughes heddiw i sicrhau bod eich mater yn cael ei drin mewn ffordd effeithiol a phroffesiynol gan gynrychiolwyr cyfreithiol cymwys a phrofiadol.

Mae croeso i chi ffonio neu anfon e-bost at unrhyw un o’n swyddfeydd gydag ymholiadau neu gwestiynau sydd gennych ynghylch achos. Byddwn yn ymdrechu i gynnig arweiniad uniongyrchol, onest  ar eich cyfer cyn i chi benderfynu ar y camau gweithredu yr hoffech eu cymryd.

Sylwch nad yw e-byst yn ddull ddiogel o gyfathrebu ac ni allwn warantu y bydd eich e-bost yn cael ei dderbyn gennym ni. Mae gennym system hidlo ar waith, a byddwn bob amser yn argymell, os yw’ch e-bost yn frys, eich bod yn ei ganlyn gyda galwad ffôn.

Wrecsam 01978 291000 | Caer 01244 312166 | Llanrwst 01492 641222

Request call back
Gerallt Hughes

Gerallt Hughes

Gyfarwyddwr
Buying and Selling Property, Employment Law
Find out more
Melissa Bramwell is Head of Business

Melissa Bramwell

Pennaeth yr Adran Busnes
The Business Department, Employment Law
Find out more
Stephen Foote is an experienced solicitor in our business department.

Stephen Foote

Gyfarwyddwr
Civil Litigation
Find out more