x

WREXHAM: 01978 291000
CHESTER: 01244 312166
LLANRWST: 01492 641222

Datrys Anghydfod

Gogledd Cymru a Chaer


  • Torri cytundeb
  • Esgeulustod proffesiynol
  • Anghydfodau partneriaeth / cyfranddalwyrs
  • Anghydfodau eiddo, gan gynnwys anghydfodau prydles, ailfeddiannu, tresmasu;
  • Adennill dyledion
  • Anghydfodau adeiladu

torri cytundeb

Rydym yn cynghori ar bob math o gytundeb a byddwn yn cynorthwyo gyda drafftio contractau ac yn ystyried contractau a ddrafftir gan eraill. Pan fydd materion yn codi, byddwn yn eich cynorthwyo i drafod a ddehongli contractau ac ar ddilysrwydd y gwahanol gymalau. Byddwn yn eich cynghori ynghylch cyfryngu a mathau eraill o ddatrys anghydfodau a phroses y llys os bydd angen achos llys i ddatrys materion rhyngoch chi

esgeulustod proffesiynol

Gallwn eich cynorthwyo gyda hawliad yn erbyn gweithiwr proffesiynol sydd â’i waith wedi gostwng o dan y safon ddisgwyliedig ac o ganlyniad eich bod wedi dioddef colled. Gallai hyn gynnwys cyfreithwyr, cyfrifwyr, syrfewyr neu unrhyw weithiwr proffesiynol arall a gyfarwyddwyd gennych chi os yw ei wasanaeth wedi bod yn annerbyniol yn eich barn chi. Byddwn yn ymchwilio’n llawn i’ch cŵyn yn erbyn y gweithiwr proffesiynol ac yn eich cynghori ar y ffordd ymlaen mewn perthynas â llythyr hawliad, defnyddio dull datrys anghydfod arall lle bo hynny’n bosib ac achosion llys lle bo angen.

anghydfodau partneriaeth / cyfranddalwyr

Weithiau bydd y berthynas rhwng unigolion sy’n ymgymryd â pherthynas fusnes gyda’i gilydd yn chwalu ac mae angen cyngor ynglŷn â sut i ryddhau eich hun o’r sefyllfa honno ar y telerau gorau, heb achosi rhagfarn i unrhyw fenter busnes yn y dyfodol. Mae gennym yr arbenigedd i roi cyngor llawn i chi yn hyn o beth a darparu gwasanaeth cyflawn i gynnwys y broses  llys os oes angen.

anghydfodau eiddo, gan gynnwys anghydfodau prydles, ailfeddiannu, tresmasu;

Mae gennym lawer o flynyddoedd o brofiad rhyngom sy’n ein galluogi i gefnogi’n llawn unrhyw hawliad yr hoffech ei gyflwyno neu unrhyw hawliad yr ydych yn ei wynebu. Mae’n hollbwysig eich bod yn dod ag unrhyw anghydfod at sylw eich cyfreithiwr cyn gynted â phosibl i’n galluogi ni i’ch cynghori yn brydlon, gyda’r gobaith y bydd materion yn cael eu datrys trwy drafodaeth. Byddwn yn eich cynghori ynghylch goblygiadau costau pob gweithred arfaethedig a gweithredu ar eich cyfarwyddiadau unwaith y byddwch wedi cael y cyfle i ystyried yn llawn y cyngor cynhwysfawr a ddarparwn

adennill dyledion

Ym aml mae gan gwmnïau, partneriaethau a masnachwyr unigol gleientiaid neu gwsmeriaid nad ydynt yn fodlon talu am y gwasanaeth a roddwyd iddynt. Gallwn ddelio â materion o’r fath yn brydlon ac yn effeithiol, a’ch rhyddhau i wneud yr hyn a wnewch orau – rhedeg eich busnes.

anghydfodau adeiladu

Mae’r anghydfodau hyn yn aml iawn yn cynnwys materion cymhleth o fanylion cwantwm a manylion  technegol. Mae gennym y profiad i roi cyngor llawn i chi o gychwyn unrhyw anghydfod o’r fath.

Alison Stace

Rheolwr-Gyfarwyddwr
Dispute Resolution, Landlord and Tenant, Mediation
Find out more
Gwenno Price Jones

Gwenno Price-Jones

Gyfarwyddwr
Family Law, Dispute Resolution, Personal Injury
Find out more
John Partington

John Partington

Gyfarwyddwr
Dispute Resolution
Find out more
Stephen Foote is an experienced solicitor in our business department.

Stephen Foote

Gyfarwyddwr
Civil Litigation
Find out more
Tracey Powell

Tracey Powell

Gweithredydd Cyfreithiol Arweiniol
Landlord and Tenant, Dispute Resolution
Find out more

Cysylltwch â Allington Hughes

am ein gwasanaethau Datrys Anghydfodau


Cysylltwch â Allington Hughes heddiw i sicrhau bod eich mater yn cael ei drin mewn ffordd effeithiol a phroffesiynol gan gynrychiolwyr cyfreithiol cymwys a phrofiadol.

Mae croeso i chi ffonio neu anfon e-bost at unrhyw un o’n swyddfeydd gydag ymholiadau neu gwestiynau sydd gennych ynghylch achos. Byddwn yn ymdrechu i gynnig arweiniad uniongyrchol, onest  ar eich cyfer cyn i chi benderfynu ar y camau gweithredu yr hoffech eu cymryd.

Sylwch nad yw e-byst yn ddull ddiogel o gyfathrebu ac ni allwn warantu y bydd eich e-bost yn cael ei dderbyn gennym ni. Mae gennym system hidlo ar waith, a byddwn bob amser yn argymell, os yw’ch e-bost yn frys, eich bod yn ei ganlyn gyda galwad ffôn.

Wrecsam 01978 291000 | Caer 01244 312166 | Llanrwst 01492 641222

Request call back