Mae gan ein tîm Cyfraith Amaethyddol a leolir ar draws tair swyddfa yng Ngogledd Cymru a Swydd Gaer gysylltiadau cryf â’r gymuned ffermio a diddordeb brwd yn y diwydiant amaethyddol. Rydym yn deall pryderon ffermwyr heddiw, a phwysigrwydd cyngor cyfreithiol, cost effeithiol, ymarferol.
Rydym yn gweithio’n rheolaidd gydag amrywiaeth o gleientiaid ar ystod eang o faterion ffermio ac amaeth. Mae llawer o deuluoedd wedi bod yn gleientiaid ers cenedlaethau, gan gynnwys tirfeddianwyr, tenantiaid a busnesau cysylltiedig.
Gall ein cynghorwyr profiadol yn Allington Hughes eich cynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau am faterion amaethyddol, gan gynnwys: –
Mae ein tîm Cyfraith Amaethyddol profiadol ar gael ar draws ein tair swyddfa yn Wrecsam, Llanrwst a Chaer i’ch cynorthwyo gyda:
Gall ein tîm cyfraith teulu eich helpu i ddelio â phob agwedd ar ysgariad a thor-perthynas gan gynnwys:
Mae ganddynt brofiad helaeth mewn ymdrin â chymhlethdodau sy’n codi wrth rannu asedion mewn ysgariadau amaethyddol/ffermio, sydd yn aml yn cynnwys strwythurau busnes ac ymddiriedolaethau cymhleth, sefyllfaoedd cymhleth ar incwm ac wrth gwrs yr elfen emosiynol sy’n dod wrth fod yn eiddo ar fferm a thir.
Mae gennym lawer o brofiad ac fe allwn eich helpu gyda bob math o anghydfod sy’n effeithio eich busnes ffermio:
Rydym hefyd yn hapus i gynghori cyn i anghydfodau godi, â golwg i’w hosgoi. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth cyfryngu.
Fe allwn eich cynghori a’ch helpu gyda:
Mae ein tîm wrth law i ymdrin ag unrhyw faterion cyflogaeth gynhennus neu digynnen, yn cynnwys:
Cysylltwch â Allington Hughes heddiw i sicrhau bod eich mater yn cael ei drin mewn ffordd effeithiol a phroffesiynol gan gynrychiolwyr cyfreithiol cymwys a phrofiadol.
Mae croeso i chi ffonio neu anfon e-bost at unrhyw un o’n swyddfeydd gydag ymholiadau neu gwestiynau sydd gennych ynghylch achos. Byddwn yn ymdrechu i gynnig arweiniad uniongyrchol, onest ar eich cyfer cyn i chi benderfynu ar y camau gweithredu yr hoffech eu cymryd.
Sylwch nad yw e-byst yn ddull ddiogel o gyfathrebu ac ni allwn warantu y bydd eich e-bost yn cael ei dderbyn gennym ni. Mae gennym system hidlo ar waith, a byddwn bob amser yn argymell, os yw’ch e-bost yn frys, eich bod yn ei ganlyn gyda galwad ffôn.
Wrecsam 01978 291000 | Caer 01244 312166 | Llanrwst 01492 641222